Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn cynnal Cynhadledd Ryngwladol Residuum 2025, digwyddiad arloesol sy’n dod ag ysgolheigion, artistiaid ac ymarferwyr dylunio o’r DU a Tsieina.  Cynhelir y gynhadledd ddwyieithog hon (Saesneg a Mandarin) rhwng 12 a 16 Mai yn Adeilad y Fforwm ar ein Campws Glannau yn Abertawe. Bydd y gynhadledd yn gweithredu fel llwyfan ddeinameg ar gyfer sgyrsiau arloesol a chydweithio creadigol ym meysydd celf a dylunio. 

An Ai image showing a figure of a woman against a pink background with a tall building.

Digwyddiad sy’n ffocysu ar y dyfodol yr Residuum 2025 yn ogystal â herio fformatau cynhadledd traddodiadol.  Trwy ei ymagwedd gwthio ffiniau, mae nid yn unig yn archwilio dyfodol celf a dylunio, ond yn ei ymgorffori – gan integreiddio technoleg drochol ac arloesi digidol i ailddiffinio profiadau deialog academaidd. 

Cynhadledd sy’n Canolbwyntio ar y Dyfodol gydag Ymgysylltiad Trochol. 

Mae’r gynhadledd yn cael ei datblygu mewn cydweithrediad â thîm Profiad ac Ymgysylltiad Digidol y Brifysgol, adran allweddol yn PCYDDS sy’n cefnogi’r digwyddiad i gyflawni ei weledigaeth flaengar.  Gall y rheiny sy’n mynychu ddisgwyl amgylchedd trochol ar gyfer cyflwyniadau byw, gan weddnewid fformatau cynadleddau traddodiadol a dod â dimensiwn newydd i gyfnewid gwybodaeth. Bydd areithiau’n cael eu ffrydio ar-lein, gyda sesiynau byw yn cael eu darlledu’n uniongyrchol o ystafell drochol radd flaenaf y brifysgol, gan gynnig profiad ymgysylltiol a rhyngweithiol i’r rheiny sy’n mynychu wyneb yn wyneb a’r rheiny sy’n mynychu o bell. 

Trefnir Residuum 2025 gan y rhaglenni Doethuriaeth Broffesiynol mewn Celf a Dylunio a MA Celf a Dylunio yn PCYDDS, gyda ffocws ar feithrin deialog ystyrlon, herio paradeimau confensiynol, ac archwilio datblygiadau blaengar yn y maes.  

Bydd y gynhadledd yn cynnwys amrywiaeth eang o themâu ysgogol, gan gynnwys: 

  • Hiraeth: Gorffennol Colledig neu Ddyfodol Colledig 
  • Dychymyg Trochol
  • Deallusrwydd Artiffisial (AI): Chwyldro a Safbwyntiau’r Dyfodol
  • Deall Treftadaeth fel Symbol o’r Dyfodol
  • Cyfathrebu mewn Byd Cyfoes
  • Methodolegau Arloesol
  • Diffinio eich Arfer fel Arwain Newid
  • Dyfodol Diwydiannau Creadigol Tsieineaidd

Rydym yn gwahodd artistiaid, dylunwyr, academyddion a gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant creadigol i gymryd rhan yn y digwyddiad trawsffurfiol hwn. 

Meddai Kylie Boon, Rheolwr Rhaglen y Ddoethuriaeth Broffesiynol Celf a Dylunio ac MA Celf a Dylunio: “Mae Residuum yn cynrychioli cam beiddgar wrth ailddiffinio sut rydym yn ymgysylltu â chelf, dylunio ac ymchwil creadigol.  Drwy integreiddio technoleg drochol a meithrin deialogau traws-ddiwylliannol, ein nod yw gwthio ffiniau ac ysbrydoli arferion arloesol a fydd yn llywio dyfodol celf a dylunio.”

Meddai Glyn Jenkins, Rheolwr Profiad ac Ymgysylltiad Digidol: “ Rydym yn gyffrous i gydweithio i ddod â’r digwyddiad arloesol hwn yn fyw gan ddefnyddio ein hystafell drochol.  Mae’r fenter hon yn dyst i sut y gall technoleg arloesol weddnewid cynadleddau academaidd, gan ddarparu ffyrdd newydd o arddangos gwaith ac ailfeddwl fformatau cyflwyno traddodiadol.”

Meddai Tim O’neill, Dirprwy Deon, Prifysgol Lanzhou, Coleg Cymru: “Mae Cynhadledd Residuum yn darparu llwyfan amhrisiadwy i’r ddwy genedl archwilio ffiniau newydd creadigol gyda’i gilydd.  Bydd y cydweithio hwn nid yn unig yn cyfoethogi ein harferion ond hefyd yn agor llwybrau newydd ar gyfer twf a llwyddiant rhyngwladol.” 

Ymuno â ni yn Residuum 2025

P’un a ydych yn mynychu wyneb yn wyneb neu ar-lein, gallwch ddisgwyl profiad ysgogol, ysbrydoledig ac arloesol. 


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon