Skip page header and navigation

Cynhelir cynhadledd yn Llundain i ymchwilio cyfraniad gwyddonol Thomas Pennant (1726-1798) o Dreffynnon, Sir y Fflint - naturiaethwr a enillodd enwogrwydd rhyngwladol, a pherchennog sbesimenau sy’n elfen graidd o gasgliadau’r Amgueddfa Hanes Natur. 

One of Thomas Pennant's items stored at the Natural History Museum

Bydd y gynhadledd ‘Casgliadau Chwilfrydig’ yn Amgueddfa Hanes Natur Llundain (Tachwedd 7fed) yn bwrw goleuni newydd ar un o’r casgliadau hynaf yn archifau’r amgueddfa, a gynullwyd yn y ddeunawfed ganrif gan y naturiaethwr a’r awdur teithiau Thomas Pennant, cyn cael ei gyflwyno i’r amgueddfa yn 1912. Trafodir yr eitemau anhygoel yma o oes yr oleuedigaeth, sy’n cynnwys ffosiliau glo, asgwrn gên arth, a dant oddi wrth siarc cyn-hanesyddol, gan ystod eang o arbenigwyr mewn hanes natur, llenyddiaeth natur, llenyddiaeth daith, curadu amgueddfeydd, a’r dyniaethau digidol, er mwyn arddangos eu hanes cyfoethog a’u dyfodol uwch-dechnolegol.

Ceir cyfle yn ystod y gynhadledd i fynychwyr archwilio rhai o sbesimenau Pennant ynghyd â’u curaduron, neu fwrw golwg ar gyfrolau printiedig Pennant yn llyfrgell ac archifau’r amgueddfa, ac i glywed gwyddonwyr, haneswyr, ysgolheigion llenyddol, ac arbenigwyr ymchwil digidol yn trafod ffyrdd newydd i gyflwyno’r deunydd hwn i academyddion a’r cyhoedd.

Mae’r gynhadledd, a drefnwyd gan y prosiect Teithwyr Chwilfrydig 2, cydweithrediad rhwng Amgueddfa Hanes Natur Llundain, Prifysgol Glasgow, a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, yn adeiladu ar waith parhaol y tîm ar olygiad ar-lein, mudiad agored newydd o deithiau Thomas Pennant yng Nghymru a’r Alban, a ariannwyd gan yr AHRC. (Arts and Humanities Research Council). O fewn y teithiau hyn, sydd yn aml yn cael y clod am sbarduno twristiaeth fodern yng ngwledydd Celtaidd Prydain, ceir cymysgedd o ymchwil naturiaethol, llên gwerin, hynafiaethau, a sylw ar gymdeithas gyfoes, cyfuniad sy’n rhoi darlun manwl ac amlhaenog o Brydain y ddeunawfed ganrif drwy lygaid teithiwr.

Meddai’r Athro Mary-Ann Constantine, Prif Ymchwilydd:

“Antur go iawn yw datgelu’r straeon y tu nôl i gasgliadau naturiaethol Thomas Pennant yn yr Amgueddfa Hanes Natur. Mae’n bleser gweithio gyda grŵp o gydweithwyr mor athrylith—pob un ohonynt yn dod â’u gwybodaeth a’u brwdfrydedd i’r gorchwyl. Mae hyn oll yn esiampl berffaith o gydweithrediad trylwyr a deinamig ar draws disgyblaethau a sefydliadau”

Nodiadau i Olygyddion 

Cyswllt: Dr Angharad Elias (Swyddog Gweinyddol) a.elias@cymru.ac.uk 

1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol. 

2. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk 

3. Y Ganolfan yw cartref Geiriadur Prifysgol Cymru ddathlodd ei ganmlwyddiant yn 2021: https://www.geiriadur.ac.uk/


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon