Deall ADHD: Sut mae Ymchwil, Arfer a Phrofiadau Byw yn Llunio Ystafelloedd Dosbarth Mwy Cynhwysol
Wrth i nifer y myfyrwyr sydd wedi cael diagnosis o Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) barhau i godi, mae Dr Charlotte Greenway, Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn tynnu sylw at bwysigrwydd cynyddol deall ADHD mewn lleoliadau addysgol. Gan dynnu ar ei hymchwil a mewnwelediadau gwerthfawr a gyfrannodd gan fyfyrwyr ar y rhaglen MA Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc, mae Dr Greenway yn archwilio sut y gall ymwybyddiaeth ddyfnach lunio dulliau mwy cynhwysol ac effeithiol o ddysgu.
Pam fod Dealltwriaeth o ADHD yn Bwysig mewn Addysg?
Mae cynnydd amlwg yn nifer y myfyrwyr sydd ag ADHD mewn ysgolion a phrifysgolion yng Nghymru a’r tu hwnt. Mae’r cynnydd hwn yn adlewyrchu nid yn unig gwell cydnabyddiaeth o ADHD, ond hefyd ymwybyddiaeth gynyddol o’r ffyrdd cymhleth y gall ADHD ddylanwadu ar ddysgu, sylw, rheoleiddio emosiynol, a rhyngweithio cymdeithasol. Nid gwaith seicolegwyr neu glinigwyr yn unig yw deall ADHD; mae’n wybodaeth y dylai pob addysgwr ei meddu arni.
Mae athrawon, cynorthwywyr addysgu a staff addysg uwch yn llywio’n gynyddol y gorgyffwrdd rhwng dysgu a niwroamrywiaeth. Pan fydd addysgwyr yn deall bod ADHD yn fwy na label ymddygiadol, a’i fod yn hytrach yn wahaniaeth niwroddatblygiadol gyda chryfderau a heriau gwahanol, gallan nhw ddechrau cynllunio amgylcheddau sy’n galluogi myfyrwyr i ffynnu yn hytrach nag ymdopi yn unig.
Sut Mae Eich Ymchwil yn Llywio Eich Addysgu?
Mae fy ymchwil yn archwilio sut mae plant a phobl ifanc gydag ADHD yn gweld eu hamgylcheddau dysgu, gan ganolbwyntio ar sut mae arferion dosbarth, disgwyliadau a pherthnasoedd yn dylanwadu ar eu profiadau. Mae llinyn allweddol o’m gwaith yn archwilio gwybodaeth ac agweddau athrawon a chynorthwywyr addysgu tuag at ADHD. Ochr yn ochr â hyn, mae fy ymchwil ar addysg gynhwysol yn archwilio arferion grwpio, gweithredu diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru, a phrofiadau dysgwyr mewn cyd-destunau cymorth a chyrhaeddiad isel, wedi’u gweld drwy lens sy’n seiliedig ar hawliau. At ei gilydd, mae’r astudiaethau hyn yn tynnu sylw at sut y gall arferion cynhwysol a dealltwriaeth broffesiynol wybodus drawsnewid amgylcheddau dysgu i ddysgwyr niwroamrywiol a dysgwyr sydd wedi’u hymyleiddio. Mae’r mewnwelediadau hyn yn llywio fy addysgu ar y rhaglen MA Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc yn uniongyrchol, yn enwedig y modwl ‘ADHD: Ymchwil ac Arfer,’ sy’n dod ag ymarferwyr at ei gilydd i bontio’r bwlch rhwng ymchwil ac arfer wrth greu lleoliadau addysgol mwy cynhwysol a theg.
Rwy’n tynnu’n uniongyrchol ar ganfyddiadau ymchwil cyfredol wrth addysgu’r modwl er mwyn cysylltu theori, tystiolaeth ac arfer yn yr ystafell ddosbarth. Er enghraifft, rydym yn archwilio sut y gall heriau gweithredu gweithredol effeithio ar ddyfalbarhad dysgu, trefniadaeth a rheoleiddio emosiynol, a sut y gall stigma a labelu ddylanwadu ar hunan-gysyniad, perthnasoedd â chyfoedion ac ymgysylltiad plentyn. Mae’r trafodaethau hyn wedi’u gwreiddio yn fy ymchwil fy hun, gan annog myfyrwyr i adfyfyrio’n feirniadol ar sut y mae’r ffactorau hyn yn berthnasol yn eu cyd-destunau proffesiynol. Mae llawer o’r myfyrwyr MA yn athrawon neu gynorthwywyr addysgu sy’n gweithio gyda phlant ag ADHD neu anghenion dysgu ychwanegol, ac maen nhw’n arbrofi â’r syniadau hyn yn eu lleoliadau eu hunain. Yna, mae eu hadfyfyrio, eu hesiamplau achos a’u harsylwadau’n bwydo yn ôl i’n sesiynau, gan greu cylch deinameg o ddysgu cymhwysol lle mae ymchwil yn llywio arfer, ac yn ei dro mae arfer yn mireinio ein dealltwriaeth ar y cyd o sut y gall gymorth cynhwysol seiliedig ar dystiolaeth edrych mewn amgylcheddau addysgol go iawn i ddysgwyr niwroamrywiol.
Sut Mae’r Dull Hwn o Fudd i Ysgolion a Phrifysgolion?
Mae’r mewnwelediadau sy’n dod i’r amlwg o’r rhyngweithio hwn yn lledaenu. Mae athrawon a chynorthwywyr addysgu yn mynd â dyfnder o ddealltwriaeth yn ôl i’w hysgolion, sy’n mynd y tu hwnt i ‘reoli ymddygiad’ ar lefel arwynebol er mwyn cydnabod anghenion synhwyraidd emosiynol a gwybyddol. Mae’r mewnwelediadau hyn yn helpu i lywio arferion addysgu mwy cynhwysol mewn prifysgolion i fyfyrwyr niwroamrywiol sy’n astudio mewn sefydliadau addysg uwch.
Drwy ymgorffori dealltwriaeth sydd wedi’i llywio gan ymchwil mewn cyd-destunau addysgol go iawn, mae’r modwl yn cyfrannu at newid diwylliannol o weld ADHD fel her i’w reoli i’w weld fel ffurf o amrywiaeth i’w gefnogi. Mae’r newid hwn o fudd i bob dysgwr, gan hyrwyddo amgylcheddau lle mae gwahaniaethau mewn sylw, cymhelliant a rheoleiddio yn cael eu trin â hyblygrwydd ac empathi yn hytrach na rhwystredigaeth neu wahardd disgyblion.
Beth Mae Hyn yn ei Olygu ar gyfer Dyfodol Addysg Gynhwysol?
Mae’r cydadwaith rhwng ymchwil ADHD, arfer yn yr ystafell ddosbarth, a phrofiad byw yn dangos sut y gall addysg uwch weithredu fel pont rhwng theori ac arfer. Pan gaiff addysgwyr eu grymuso gyda gwybodaeth a dealltwriaeth adfyfyriol, gallan nhw greu gofodau dysgu sy’n cynnwys dysgwyr niwroamrywiol.
Yn y pen draw, nid deall ADHD a Chynhwysiant yn unig yw’r nod; y nod yw trawsnewid y ddealltwriaeth i arferion bob dydd sy’n gwneud ysgolion a phrifysgolion yn fwy tosturiol, cynhwysol ac yn ymatebol i anghenion unigolion gydag ADHD. Yn y modd hwn, nid yw’r ymchwil rydym yn ei addysgu’n byw mewn cyfnodolion yn unig; mae’n byw mewn ystafelloedd dosbarth, coridorau a neuaddau darlithio, gan ail-lunio’r hyn mae’n ei olygu i ddysgu ac addysgu gyda’n gilydd.
Gwybodaeth Bellach
Eleri Beynon
Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk
Ffôn: 01267 676790