Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o gyhoeddi ei bod wedi cael ei chydnabod yn swyddogol yn Ganolfan Ragoriaeth gan y Sefydliad Teithio a Thwristiaeth (STTh), prif gorff proffesiynol y DU ar gyfer y diwydiant teithio a thwristiaeth. Mae’r dynodiad mawreddog hwn yn dod i rym o 1 Awst 2025 ac mae’n ddilys am dair blynedd.

A group of four happy people, celebrating outside in London

Yn dilyn cais llwyddiannus dan arweiniad Jacqui Jones, Rheolwr Rhaglen ar gyfer Rheolaeth Teithio Rhyngwladol, Twristiaeth, Digwyddiadau a Gwyliau, mae’r Drindod Dewi Sant yn ymuno â grŵp dethol o sefydliadau sy’n cael eu cydnabod am ddarparu safonau rhagorol ym maes addysg teithio a thwristiaeth.

Daw’r gydnabyddiaeth ar ôl cymeradwyaeth unfrydol gan Bwyllgor Addysg a Hyfforddiant STTh, gan atgyfnerthu enw da PCYDDS am ragoriaeth academaidd, ymgysylltu â diwydiant, ac ymrwymiad i lunio arweinwyr y dyfodol yn y sectorau twristiaeth a lletygarwch.

Yn rhan o’i statws newydd, bydd PCYDDS yn:

  1. Enwebu dau Lysgennad Myfyrwyr STTh i helpu i hyrwyddo mentrau Future You STTh ledled y Brifysgol.
  2. Enwebu un myfyriwr rhagorol ar gyfer y Wobr Myfyriwr y Flwyddyn STTh flynyddol, i’w chyflwyno ym Mharti Haf STTh.
  3. Parhau i gynnal ei digwyddiad Future You uchel ei barch yn Arena Abertawe, sy’n un o brif uchafbwyntiau’r calendr STTh.
  4. Cael ei chynrychioli gan Jacqui Jones ar Bwyllgor Addysg a Hyfforddiant STTh, gan gryfhau ymhellach y cysylltiadau rhwng y Brifysgol a’r diwydiant teithio a thwristiaeth ehangach.

Dywedodd Jacqui Jones: “Mae’r dynodiad hwn yn adlewyrchiad o waith caled ac ymroddiad ein myfyrwyr, staff a phartneriaid yn y diwydiant. Mae’n anrhydedd i ni ddod yn un o’r 10 Canolfan Ragoriaeth STTh ar gyfer Teithio a Thwristiaeth ac yn gyffrous i gyfrannu hyd yn oed mwy at ddatblygiad gweithwyr proffesiynol twristiaeth y dyfodol trwy’r bartneriaeth hon.”

Dywedodd Claire Steiner, Cadeirydd Pwyllgor Addysg a Hyfforddiant STTh : “Rydym yn falch iawn o groesawu PCYDDS fel ein Canolfan Ragoriaeth STTh newyddaf. Mae eu hymrwymiad i ddatblygu myfyrwyr a chydweithredu â’r diwydiant yn eu gwneud yn berffaith ar gyfer yr anrhydedd hon. Edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda’r tîm yn Abertawe a gweld eu heffaith barhaus ar y sector.”

Mae’r dynodiad yn atgyfnerthu sefyllfa PCYDDS ymhellach fel arweinydd mewn addysg twristiaeth ac yn tynnu sylw at ffocws strategol y Brifysgol ar gyflogadwyedd, arloesi a pherthnasedd i’r diwydiant.

Dywedodd Gareth Davies, Deon Rheolaeth ac Iechyd y Brifysgol: “Rydym wrth ein bodd gyda’r gydnabyddiaeth fawreddog hon, gan roi clod dyledus i’r staff a’r myfyrwyr am ansawdd eu gwaith a’u cyfraniad i’r sector. Mae’n adlewyrchu’r cyfleoedd addysg sy’n cael eu harwain gan y diwydiant a gynigir gan PCYDDS, gan ddatblygu cyfleoedd ac effaith ar draws y rhanbarth, Cymru ac yn rhyngwladol.”

Capsiwn y llun o’r chwith i’r dde: Claire Steiner, Cadeirydd Pwyllgor Addysg a Hyfforddiant ITT a Jacqui Jones, Rheolwr Rhaglen ar gyfer Teithio Rhyngwladol, Twristiaeth, Rheoli Digwyddiadau a Gwyliau, gyda’r graddedigion Ethan Scriven a Sinead Edwards ar Deras Tŷ’r Cyffredin.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon