Dysgu o Fyd Natur: Sut Gall Addysg Blynyddoedd Cynnar Ffurfio Dyfodol Cynaliadwy
Ar Ddiwrnod Amgylchedd y Byd, fe’n gwahoddir i fyfyrio nid yn unig ar harddwch y byd naturiol, ond ar ein cyfrifoldeb i’w feithrin. Ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mae Glenda Tinney, darlithydd ar y rhaglen BA (Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar, yn rhannu sut mae’r cwrs wedi ymgorffori ymwybyddiaeth amgylcheddol yn elfen greiddiol ohono. Trwy gyfuniad o ddysgu yn yr ystafell ddosbarth, archwilio yn yr awyr agored, a chadwraeth ymarferol, mae myfyrwyr yn darganfod y cysylltiad dwfn rhwng addysg blynyddoedd cynnar a chynaliadwyedd. Yn y darn meddwl hwn, mae Glenda’n myfyrio ar sut y gall gweithredoedd bach fel sylwi, gofalu, a bod yn chwilfrydig am y byd siapio cenedlaethau’r dyfodol i ddod yn ddinasyddion moesegol gwybodus sydd wedi’u gwreiddio mewn ymdeimlad dwfn o le a chyfrifoldeb.

Mae’r tîm BA (Anrh) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar wedi gwneud archwilio a chodi ymwybyddiaeth o’r byd o’n cwmpas yn rhan allweddol o’u cwrs.
Nid yw’r tymor hwn yn ddim gwahanol gyda myfyrwyr wedi cael cyfle i ystyried eu cysylltiad â’r amgylchedd ac archwilio’n fanwl sut y gallwn annog a datblygu plant, yn ogystal ag oedolion, i archwilio ac eirioli dros yr amgylchedd.
Un o’n ffyrdd allweddol o wneud hyn yw trwy fynd allan a bod yn chwilfrydig i weld pa bethau byw eraill sy’n rhannu ein byd, a chymryd amser i sylwi a dysgu amdanynt. Mae ein myfyrwyr trydedd flwyddyn wedi cofrestru ar Wobr John Muir ac yn rhan o’r gwaith hwn maent wedi bod yn archwilio’r ardal leol ac yn dysgu am arwyddocâd gwahanol blanhigion, anifeiliaid, microbau a chylchoedd bywyd, ar gyfer ein llesiant ein hunain ac agweddau allweddol ar gynaliadwyedd. Mae myfyrwyr hefyd wedi neilltuo amser i wneud rhywfaint o waith cadwraeth ymarferol gan gynnwys casglu sbwriel, gwneud porthwyr adar, gwestai pryfed, a phlannu planhigion peillio.
Mae gwneud y profiadau hyn fel grŵp a chael cyfle i archwilio eu meysydd diddordeb eu hunain wedi helpu i hybu dealltwriaeth myfyrwyr o ddysgu a arweinir gan blant a syniadau megis 100 iaith Reggio a dysgu gan natur. Trwy wneud hyn eu hunain mewn amgylchedd diogel a chalonogol, gobeithiwn feithrin eu hyder i ymgysylltu â phlant mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar ac ysgolion i gymryd rhan mewn teithiau cerdded ym myd natur, ymgymryd â phrosiectau cadwraeth bach a bod yn fwy hyderus i sylwi ar bethau ac ymchwilio i’r byd naturiol yr ydym yn rhan ohono.
Mae hyn wedi bod yn gymysgedd o ddysgu yn yr ystafell ddosbarth, tasgau ymarferol a dysgu yn yr awyr agored. Cynlluniwyd hyn oll i helpu myfyrwyr i sylwi ar bwysigrwydd cysylltu â’r byd o’n cwmpas ac i fyfyrio ar y buddion posibl i blant a rhannau eraill o’r byd naturiol.
Yn ein barn ni, ni ddylai cynaliadwyedd fod yn rhywbeth atodol neu ychwanegol. Dylid ei integreiddio i’n holl waith fel myfyrwyr a chyda phlant yn ymarferol. Dylai lywio sut rydym yn gweld adnoddau ar gyfer dysgu, sut y gallwn gael ein hysbrydoli i greu celf a sut rydym yn cofio pwysigrwydd pob peth byw, a chydnabod ein diolchgarwch y tu hwnt i’r byd dynol yn unig.
Pan ofynnodd grŵp o blant iddi achub corryn heglog (daddy long legs) a oedd yn sownd wrth ffenestr, gwnaeth un fyfyrwraig fyfyrio ar ei harfer ei hun a sut y daeth hyn yn brofiad dysgu arwyddocaol i’r plant. Cymeron nhw amser i roi’r pryfyn mewn cynhwysydd diogel, gyda thyllau ar gyfer aer, cyn cario’r creadur yn ddiogel i’r ardd awyr agored. Gall y gweithredoedd hyn o garedigrwydd tuag at bethau byw eraill, waeth pa mor fach, ddechrau’r daith i ddarganfod sut mae bodau dynol yn rhan o fyd cydgysylltiedig a sut y gallwn weithredu i edrych ar ôl pethau byw eraill. Gall hefyd fod yn ddechrau taith o ddarganfod ac archwilio beth yw’r gwahanol anifeiliaid a phlanhigion hyn a sut maen nhw’n effeithio ar y byd ac yn cynnal y systemau rydyn ni’n dibynnu arnynt ar y Ddaear.
Mae diwrnod yr amgylchedd yn werth ei ddathlu a deallwn fod gan y rhai sy’n gweithio yn y blynyddoedd cynnar rôl allweddol wrth gefnogi plant i ddarganfod ac archwilio a bod ag empathi am y byd.
Yng Nghymru mae gennym gwricwlwm sy’n rhoi sylw blaenllaw i berthyn a ‘Chynefin‘ (yr ymdeimlad hwnnw o le yn ein hardal a’n cyd-destun diwylliannol ein hunain) a dinasyddiaeth foesegol. Mae neilltuo amser i archwilio a sylwi ar aruthredd a rhyfeddod y byd o’n cwmpas ac ystyried sut y gallwn weithio mewn ffordd gadarnhaol i annog pobl i gefnogi corynnod heglog, buchod coch cwta, moch coed, dant y llew a llygad y dydd, yn ddechrau ar y daith honno i fod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus.
Am fwy o wybodaeth am gwrs Addysga Gofal Blynyddoedd Cynnar PCYDDS, ewch i: Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar - 2 Flynedd | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476