Ellie Loren, un o raddedigion Coleg Celf Abertawe, wedi’u Henwi’n Un o Ddarlunwyr Gorau’r DU i’w Gwylio yn 2025
Mae Ellie Loren, un o raddedigion Darlunio Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi cael ei chydnabod yn un o’r 10 Graddedig Gorau i’w Gwylio yn y DU yn 2025 gan Gymdeithas y Darlunwyr (AOI) – prif gorff y DU ar gyfer y diwydiant.

Enillodd Ellie a raddiodd yn ddiweddar gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf (Anrh) mewn BA Darlunio o Goleg Celf Abertawe PCYDDS, y wobr Spotlight AOI fawr ei bri yn New Designers yn Llundain. Mae’r wobr yn dathlu darlunydd gyda phortffolio sy’n barod ar gyfer y diwydiant a llais ffres, arloesol, creadigol.
Mae darlunio yn fwy na ffurf gelfyddydol i Ellie – mae’n ffordd o gysylltu pobl â llesiant, ymwybyddiaeth ofalgar a’r byd naturiol. Mae ei straeon gweledol wedi’u trwytho â chynhesrwydd a phersonoliaeth, ac mae ei defnydd nodedig o liw a gwead yn rhoi arddull adnabyddadwy i’w gwaith.
“Mae’n anrhydedd i mi dderbyn y Wobr AOI Spotlight a chael fy enwi ymhlith graddedigion darlunio gorau’r DU” meddai Ellie. “Mae’r gefnogaeth rwyf wedi ei chael gan Goleg Celf Abertawe wedi bod yn anhygoel, ac mae’r gydnabyddiaeth hon yn rhoi hyder gwirioneddol i mi wrth i mi ddechrau adeiladu fy ngyrfa ym maes darlunio.”
Yn ystod ei chyfnod yng Ngholeg Celf Abertawe, cyflawnodd Ellie nifer o gerrig milltir creadigol, gan gynnwys:
- Creu murlun darluniadol ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Goetir ar ei safle Fferm Brynau yng Nghastell Nedd.
- Cael ei dewis yn un o’r 30 enillydd gorau yng Nghystadleuaeth Portreadau Eithriadol Diwrnod Cofio’r Holocost (2022)
- Cynrychioli ei chwrs fel Cynrychiolydd Myfyriwr am y tair blynedd gyfan
Yn ddiweddar, mae’r gydnabyddiaeth mae Ellie wedi’i chael gan yr AOI wedi’i gosod yn gadarn ymhlith darlunwyr mwyaf cyffrous y DU – cyflawniad sy’n adlewyrchu ei thalent a’i hymroddiad.
Meddai Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Celf a’r Cyfryngau PCYDDS wrth ddathlu llwyddiant Ellie:
“Rydym yn hynod falch o Ellie ac yn falch iawn bod ei chreadigrwydd a’i gwaith caled wedi cael eu cydnabod ar lefel genedlaethol. I gael ei henwi’n un o raddedigion darlunio gorau’r DU gan yr AOI yn gyflawniad arwyddocaol ac yn adlewyrchu’r safon uchel o dalent sy’n cael ei meithrin yma yng Ngholeg Celf Abertawe.”
Gyda phrosiectau yn amrywio o lyfrau lluniau a gwaith golygyddol i furluniau ar raddfa fawr, mae gwaith Ellie yn parhau i dyfu o ran cwmpas ac effaith. Mae’n gobeithio y bydd ei darluniadau yn ysbrydoli eraill i oedi, sylwi a mwynhau’r pethau bach mewn bywyd – rhywbeth mae’n anelu i’w wneud bob dydd.
Mae Ellie bellach yn ymuno a rhestr unigryw o ddarlunwyr mwyaf cyffrous y DU, gyda’i gwobr yn ei nodi fel un i’w gwylio yn y diwydiannau creadigol.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071