Enillydd Prif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn canmol y cwrs Astudiaethau Addysg: Cynradd.
Penderfynodd Tomos Lewis o Glydach astudio’r cwrs Astudiaethau Addysg: Cynradd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant oherwydd roedd yn dyheu am weithio gyda phlant a phobl ifanc, ac yn credu fod y cyfnod blynyddoedd cynradd o fewn addysg plant yn hanfodol ar gyfer llunio’u dyfodol.

Dywedodd:
“Mae maes addysg bob amser yn newid yn barhaus gydag ymchwil, dulliau addysgu a thechnolegau newydd. Roedd y cwrs yma wedi sicrhau fy mod yn derbyn y wybodaeth fwyaf cyfoes.”
Daeth Tomos i’r penderfyniad ei fod am astudio yn y Drindod Dewi Sant wedi trafodaeth gyda nifer o gyn-fyfyrwyr a darlithwyr yn ystod diwrnodau agored y Brifysgol, ac roedd enw da’r brifysgol mewn addysg yn ffactor arwyddocaol. Roedd lleoliad campws Caerfyrddin hefyd yn ddelfrydol i Tomos, gan iddo ddweud fod yr amgylchedd yn darparu lleoliad heddychlon ac ysbrydoledig ar gyfer astudio. Ychwanegodd:
“Mae campws Caerfyrddin ei hun yn cynnig amgylchedd dysgu cefnogol. Mae’r ymdeimlad o gymuned agos yn caniatáu sylw personol gan ddarlithwyr ac yn meithrin perthnasoedd cryf rhwng myfyrwyr. Roedd yr awyrgylch cefnogol hwn yn hanfodol ar gyfer llwyddiant academaidd a thwf personol. Fe wnaeth y cyfleusterau a’r adnoddau modern sydd ar gael ar y campws, gan gynnwys mannau addysgu o’r radd flaenaf a gwasanaethau llyfrgell helaeth, sicrhau bod gennyf bopeth yr oedd ei angen arnaf i lwyddo’n academaidd.”
Dywedodd Tomos fod y cwrs Astudiaethau Addysg: Cynradd yn cynnig ystod eang o feysydd gwahanol i’w hastudio gan gynnwys archwilio sylfeini addysg, hanes, athroniaeth, a damcaniaethau allweddol, ochr yn ochr â datblygiad y cwricwlwm, strategaethau cyfarwyddo, a dulliau asesu. Mae’r rhaglen yn ymchwilio i ddatblygiad plant, seicoleg addysg, a damcaniaethau dysgu, gan bwysleisio twf gwybyddol, emosiynol a chymdeithasol. Ymdrinnir â dulliau ymchwil, gan helpu myfyrwyr gyda thechnegau ansoddol a meintiol i gynorthwyo â’r prosiect annibynnol ar ddiwedd y drydedd flwyddyn.
I Tomos:
“ Fy hoff beth am y cwrs oedd yr hyblygrwydd rhwng yr astudiaethau a phrofiad gwaith. Caniataodd i mi gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol mewn lleoliadau byd go iawn, gan wella fy nealltwriaeth a’m gallu i brofi cysyniadau allweddol. Mae profiad ymarferol yn darparu dysgu ymarferol, sy’n hanfodol ar gyfer datblygu strategaethau addysgu effeithiol a sgiliau rheoli dosbarth.”
Bu Tomos yn lwcus i ennill Prif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Meddai:
“Roedd ennill Prif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg yn anrhydedd anhygoel ac yn rhoi boddhad mawr. Roedd yn galonogol cael fy nghydnabod am fy ymrwymiad i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd yr ysgoloriaeth nid yn unig yn darparu cymorth ariannol ond hefyd yn dilysu fy ymroddiad i warchod a hyrwyddo’r Gymraeg mewn addysg. Mae’n sicrhau fy mod yn gallu addysgu cenedlaethau’r dyfodol mewn ffordd sy’n parchu ac yn meithrin eu hunaniaeth ieithyddol a diwylliannol. Mae’r dull dwyieithog hwn yn cyfoethogi fy mhrofiad dysgu ac yn fy mharatoi i gael effaith ystyrlon.”
Derbyniodd Tomos gefnogaeth arbennig gan ei ddarlithwyr.
“Roedd y darlithwyr nid yn unig yn hynod wybodus a phrofiadol yn eu meysydd ond hefyd yn hynod gefnogol a hawdd mynd atynt. Roedd eu hangerdd am addysg yn amlwg yn eu dulliau addysgu difyr a’u hymroddiad i helpu myfyrwyr i lwyddo. Fe wnaethant ddarparu mewnwelediadau gwerthfawr, cyngor ymarferol, ac adborth adeiladol, a gyfoethogodd fy mhrofiad dysgu yn fawr. Cafodd eu hymrwymiad i feithrin amgylchedd dysgu cadarnhaol a chynhwysol effaith sylweddol ar fy nhwf academaidd a phersonol.”
Dywedodd Helen Griffiths, Rheolwr Rhaglenni Astudiaethau Addysg Cyfrwng Cymraeg PCYDDS:
“Mae wedi bod yn bleser cael Tomos ar ein rhaglen BA Astudiaethau Addysg: Cynradd ac rydym yn hynod falch o’i gyflawniadau a’i angerdd i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Dymunwn bob dymuniad da iddo nawr wrth iddo gychwyn ar ei gwrs TAR i fod yn athro cymwysedig.”
Mae Tomos yn edrych ymlaen at barhau gyda’i astudiaethau yn y Brifysgol wrth ddilyn cwrs TAR Cynradd ar gampws Abertawe.
Am fwy o wybodaeth am Rhaglenni Astudiaethau Addysg Cyfrwng Cymraeg ewch i: Astudiaethau Addysg: Cynradd (Llawn amser) | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (uwtsd.ac.uk)
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476