Skip page header and navigation

IMae Joseph Tobin,  Gradd-brentis BEng Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg  ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), yn cyfuno rhagoriaeth academaidd ag arweinyddiaeth ymarferol yn y diwydiant yn Tata Steel UK, gan ei nodi’n un o’r gweithwyr proffesiynol ifanc mwyaf addawol yn sector gweithgynhyrchu a pheirianneg y DU.

A student in a dark polo top standing outside with trees in the background.

Ac yntau’n ddim ond 25 oed, mae llwybr gyrfa Joseph wedi bod yn rhyfeddol yn barod. Gan ymuno’n wreiddiol fel prentis labordy yn 16 oed, mae e bellach yn gwasanaethu fel Arbenigwr Cynhyrchu a Dirprwy Reolwr Cynhyrchu ar safle’r cwmni yn Llanwern. Gan gefnogi rheolaeth adran 100 o bobl sy’n cynnwys y Llinell Gorffen Modurol o’r radd flaenaf, yn ogystal â gweithgareddau anfon a derbyn coiliau, mae Joseph yn chwarae rhan allweddol wrth hyrwyddo effeithlonrwydd prosesau, diogelwch ac arferion gweithgynhyrchu cynaliadwy.

Yn weithiwr dur pedwaredd genhedlaeth o Bort Talbot, mae cysylltiad Joseph â’r diwydiant yn ddwfn.

“Mae gwneud dur wedi bod yn rhan o fy nheulu ers cenedlaethau,” meddai. “Rydw i wedi tyfu i fyny wedi fy amgylchynu ganddo, ac rwy’n angerddol am barhau â’r etifeddiaeth honno, ond hefyd am ei yrru ymlaen i ddyfodol gwyrddach, mwy arloesol.”

Dewisodd Joseph astudio’r cwrs yn y Drindod Dewi Sant i ddyfnhau ei ddealltwriaeth dechnegol a chryfhau sylfeini ei yrfa.

“Roedd y cwrs yn cynnig cydbwysedd perffaith rhwng theori academaidd a defnydd ymarferol,” meddai. “Mae’n uniongyrchol berthnasol i’m gwaith yn y diwydiant dur ac mae wedi fy helpu i gysylltu’r hyn rwy’n ei ddysgu yn yr ystafell ddosbarth â heriau go iawn y diwydiant.”

Ymhlith uchafbwyntiau ei astudiaethau mae cwblhau prosiect Six Sigma Green Belt sy’n canolbwyntio ar leihau ail-weithio metelegol wrth gynhyrchu, prosiect a ddarparodd arbedion mesuradwy i Tata Steel ac a ddangosodd ei allu i ddefnyddio dulliau datrys problemau a yrrir gan ddata mewn amgylchedd gweithgynhyrchu byw.

Mae Joseph hefyd wedi defnyddio meddalwedd efelychu Arena i fodelu a gwneud y gorau o weithrediadau pacio coil, gan drosi gwaith academaidd yn welliant gweithredol yn uniongyrchol.

“Roedd modylau fel systemau rheoli a gweithgynhyrchu yn sefyll allan,” meddai. “Fe wnaethon nhw fy nysgu sut i ddefnyddio offer dadansoddol i wella prosesau, rhywbeth rydw i bellach yn ei ddefnyddio bob dydd yn fy rôl broffesiynol.”

Y tu hwnt i’w astudiaethau, mae Joseph wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i’r gymuned beirianneg ehangach. Yn ystod ei gyfnod fel Cadeirydd Rhwydwaith Gweithwyr Proffesiynol Ifanc Tata Steel, arweiniodd fentrau sy’n cysylltu peirianwyr ar ddechrau eu gyrfa ledled y DU a threfnodd symposiwm â 100 o bobl ynddo ar droi at gynhyrchu dur mewn ffordd werdd, a fynychwyd gan Brif Weithredwyr a chyfarwyddwyr prif gwsmeriaid y cwmni, gan gynnwys Jaguar Land Rover.

Mae ei ymchwil cyfredol ar gyfer ei draethawd hir yn archwilio i effaith y cynnydd mewn elfennau gweddilliol mewn dur galfanedig a gynhyrchir gan ffwrnais arc drydan, pwnc sy’n uniongyrchol gysylltiedig â thrawsnewidiad parhaus Tata Steel tuag at gynhyrchu dur cynaliadwy, CO₂ isel.

Mae Joseph hefyd yn gwasanaethu fel ymddiriedolwr elusen Richard Burton 10K, digwyddiad cymunedol ym Mhort Talbot sydd â chysylltiadau teuluol cryf, ac mae wedi cyflwyno gwaith technegol drwy’r Sefydliad Deunyddiau, Mwynau a Mwyngloddio (IOM3), lle mae hefyd yn gobeithio sicrhau siarteriaeth broffesiynol yn y dyfodol agos.

Wrth adfyfyrio ar ei brofiad yn y Drindod Dewi Sant, dywed Joseph: “Mae’r radd hon wedi cryfhau fy ngwybodaeth dechnegol a’m sgiliau arweinyddiaeth. Mae wedi rhoi hyder i mi ymgymryd â heriau cymhleth ac i weld y darlun ehangach o ran cyfeiriad y diwydiant dur.”

Mae Joseph yn bwriadu cwblhau cymhwyster NEBOSH, dilyn hyfforddiant Darbodus a rheoli prosiectau pellach, a symud ymlaen i MSc mewn Gweithgynhyrchu Darbodus. Ei nod hirdymor yw parhau i arwain yn y sector, gan yrru arloesedd, effeithlonrwydd a chynaliadwyedd ym maes cynhyrchu dur y DU.

“Nid yw astudio wrth reoli gweithrediadau ar raddfa fawr wedi bod yn hawdd,” ychwanega. “Ond mae wedi dangos i mi beth sy’n bosibl gyda’r cydbwysedd cywir o ddisgyblaeth, cefnogaeth ac uchelgais. Rwy’n falch o gynrychioli’r Drindod Dewi Sant a’r gymuned ddur sydd wedi fy siapio.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon