Skip page header and navigation

Pa fath o ddyfodol a ddymunwn ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru, a sut y gallwn eu helpu i’w gael? Yn y darn hwn, i ddathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid,  mae Dr Darrel Williams, Uwch Ddarlithydd rhaglenni Gwaith Ieuenctid a Chymuned ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn cyflwyno safbwynt meddylgar ac angerddol sydd wedi’i siapio gan flynyddoedd o weithio ochr yn ochr â phobl ifanc. Mae’n ein hatgoffa nad yw gwaith ieuenctid yn ymwneud â rhaglenni neu bolisïau yn unig - mae’n ymwneud â hyder ym mhotensial rhywun, creu lle ar gyfer twf, a rhoi i’r genhedlaeth nesaf yr offer sydd eu hangen arnynt i wynebu beth bynnag a ddaw nesaf.

An image of Darrel Williams

Fel Gweithiwr Ieuenctid a Chymuned â chymwysterau proffesiynol, rwy’n cydnabod mai prif bwrpas Gwaith Ieuenctid yw cefnogi datblygiad cyfannol pobl ifanc, gan feithrin eu twf personol, cymdeithasol ac addysgol. Mae pobl ifanc heddiw yn wynebu amrywiaeth gymhleth o heriau - yn amrywio o bwysau mewn addysg a’r gweithle, i ddelio â pherthnasoedd, pryderon iechyd, a materion byd-eang fel newid yn yr hinsawdd ac ansefydlogrwydd economaidd. Mae’r heriau hyn yn codi cwestiynau pwysig i Weithwyr Ieuenctid, yn enwedig ynghylch ein gweledigaeth ar gyfer pobl ifanc nawr ac yn y dyfodol. Yn benodol, mae’n rhaid i ni ofyn: pa sgiliau, gwybodaeth a rhinweddau personol y dylem helpu pobl ifanc i’w datblygu er mwyn eu galluogi i ffynnu?

Er bod egwyddorion Gwaith Ieuenctid wedi’u hen sefydlu, mae’n hanfodol seilio ein gweledigaeth ar ddealltwriaeth glir o’r realiti sy’n wynebu pobl ifanc yng Nghymru. Mae data diweddar yn paentio darlun byw:

  •  Mae cyfran y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth (NEET) yng Nghymru yn codi’n sydyn gydag oedran - o 3% yn unig ymhlith pobl ifanc 16 oed i dros 20% ymhlith pobl ifanc 24 oed.
  •  Mae pobl ifanc yn cael eu cynrychioli’n anghymesur mewn sectorau fel dosbarthu, gwestai ac arlwyo, a all fod yn fwy agored i newidiadau economaidd.
  •  Yn 2022-23, roedd 83,218 o bobl ifanc (15% o’r holl bobl ifanc 11-25 oed) yn aelodau cofrestredig o ddarpariaeth Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.
  • Mae cyfranogiad mewn Gwaith Ieuenctid yn gostwng gydag oedran: mae 42% o aelodau cofrestredig yn 11-13 oed, gyda’r ymgysylltiad isaf ymhlith pobl 20-25 oed.
  • Mae problemau iechyd emosiynol yn gyffredin, gyda dros hanner y merched (54%) a thua thraean y bechgyn (32%) yn adrodd profiadau mynych o hwyliau isel, anniddigrwydd, nerfusrwydd, neu drafferth cysgu.
  •  Mae gan un o bob pump o blant oed ysgol hawl i brydau ysgol am ddim, sy’n ddangosydd allweddol o dlodi plant.
  • Mae adroddiad Llesiant Cymru’n tynnu sylw at y ffaith bod plant a phobl ifanc wedi ei chael yn anoddach nag oedolion ers y pandemig, gyda gostyngiad mewn boddhad bywyd a chynnydd mewn pwysau economaidd, gan gynnwys yr argyfwng costau byw a thlodi tanwydd.

O ystyried realiti’r sefyllfa, mae’r tîm rhaglen Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol yn PCYDDS wedi cydweithio i nodi’r rhinweddau a’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc i fyw’n dda, nawr ac yn y dyfodol. Ein gweledigaeth yw i bobl ifanc 11-25 oed fod yn wydn ac yn addasadwy, yn gallu llywio heriau bywyd gyda hyder, optimistiaeth ac ymdeimlad cryf o bwrpas.

Rhaid i bobl ifanc fod yn uchelgeisiol am eu dyfodol, nid cymharu eu hunain ag eraill, ond ystyried sut beth yw llwyddiant iddyn nhw. Dylem eu paratoi i ddeall canlyniadau eu penderfyniadau yn y byd go iawn, ac i ddatblygu sgiliau meddwl yn feirniadol sy’n eu galluogi i gwestiynu rhagdybiaethau, gwerthuso gwybodaeth, a ffurfio eu gwerthoedd eu hunain. Mewn byd sy’n llawn gwybodaeth a chamwybodaeth, mae’r sgiliau hyn yn bwysicach nag erioed.

Ar ben hynny, dylid grymuso pobl ifanc i wneud dewisiadau sy’n gwella eu hapusrwydd, eu hiechyd a’u llesiant cyffredinol. Dylent deimlo cysylltiad â’u cymunedau, mwynhau gwir ymdeimlad o foddhad mewn bywyd, a bod yn barod i gyfrannu’n gadarnhaol i’r gymdeithas. Trwy hyrwyddo amgylcheddau cefnogol sy’n meithrin y rhinweddau hyn, gall Gweithwyr Ieuenctid helpu pobl ifanc i ffynnu – gan fod yn barod i wynebu ansicrwydd, creu newid cadarnhaol, a byw bywydau boddhaus wedi’u gwreiddio mewn gwybodaeth, empathi a hunanymwybyddiaeth.


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon