Skip page header and navigation

Mae Hanna-Non Cordingley newydd raddio o’r cwrs Astudiaethau Addysg: Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. I Hanna, mae’r radd hon yn fwy na chymhwyster, mae’n adlewyrchu taith bersonol o ddarganfod ei chryfderau, adeiladu hyder a meithrin sgiliau.

Image of Hanna in her cap and gown

Daw Hanna o Lansamlet ger Abertawe. Penderfynodd astudio yn PCYDDS, gan fod y Brifysgol y cynnig y cwrs yr oedd hi’n dymuno ei hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg, rhywbeth oedd yn bwysig iawn iddi.

Fel myfyrwraig,  dywedodd Hanna fod yna sawl uchafbwynt yn perthyn i’r cwrs, gan gynnwys siaradwyr gwadd oedd yn dod i fewn i rannu eu profiadau a gwybodaeth gyda’r dosbarth. Hoffodd hefyd fod ei gwaith yn cael ei hasesu mewn ffyrdd amrywiol, ac nid yn ddibynnol ar draethodau yn unig. 

Roedd y cwrs yn ôl Hanna yn fwy na dysgu am addysg, gan ei fod yn agor drysau a paratoi myfyrwyr ar gyfer nifer o swyddi gwahanol. Ychwanegodd: 

“Mae’r cwrs yn ffordd dda o ddod i adnabod technegau ac arddulliau dysgu a’r ffordd i’w haddasu ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae hefyd modd dewis pynciau eich hun wrth wneud ambell i aseiniad, ac felly gallwch ymchwilio ac dysgu am bethau penodol sydd o ddiddordeb i chi.”

Dywedodd fod y cwrs wedi ei helpu i ddatblygu sgiliau hanfodol drwy dderbyn profiadau ychwanegol mewn ysgolion a sefydliadau amrywiol. Llwyddodd i weithio fel cynorthwy-wraig dosbarth gydag asiantaeth ochr yn ochr â’i chwrs a wnaeth gyfoethogi ei dealltwriaeth a’r cyd-destun ehangach o’r sector addysg. 

Dywed Hanna fod y gefnogaeth a dderbyniodd gan ei thiwtoriaid wedi bod yn anhygoel.

“Roedden nhw mor barod i’n cefnogi, cynnig awgrymiadau a rhannu unrhyw arweiniad posib. Roedd yna wir deimlad bo’r tiwtoriad eisiau i chi lwyddo, a’i bônt yn barod i wneud yr hyn sydd angen er mwyn i hynny allu digwydd. Roedden nhw’n rhoi adborth clir oedd yn hawdd i’w ddeall, ac yn rhoi’r cyfle i ni allu trafod unrhyw heriau a’r ffordd ymlaen i wella.”

Dywedodd Helen Griffiths, un o ddarlithwyr a rheolwr y rhaglenni Astudiaethau Addysg cyfrwng Cymraeg:

“Mae llwyddiant Hanna yn enghraifft wych o’r hyn y gall y rhaglen Astudiaethau Addysg  a rhaglenni tebyg eu cynnig. Nid yw’n ymwneud â dysgu yn unig – mae’n ymwneud â darganfod cryfderau, adeiladu hyder a chreu cyfleoedd newydd. Mae cynnig y cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg yn sicrhau bod myfyrwyr yn gallu datblygu sgiliau academaidd a phroffesiynol heb golli eu hunaniaeth ddiwylliannol. Yn ogystal, mae’r gefnogaeth bersonol gan y tiwtoriaid rhaglen ac arbenigwyr cefnogi yn allweddol i’r llwyddiant hwn, gan weithio’n agos gyda myfyrwyr i’w hannog a’u harwain bob cam o’r daith.”

Mae’r cwrs wedi llwyddo i ddatblygu Hanna fel person hefyd. Meddai:

“Yn bersonol dwi wedi dysgu bo’r gallu gyda fi i wneud yr hyn dwi angen, ond weithiau mae angen addasu’r hyn sy’n gweithio i eraill. Tra’n gwneud y cwrs, dwi wedi darganfod bod gen i ADHD a dyslexia, ac mae’r cwrs wedi fy helpu i ddarganfod technegau gwahanol sy’n gweithio i fi trwy ddysgu amdanyn nhw o fewn modylau gwahanol.

“ Yn broffesiynol mae wedi fy maratoi i ysgrifennu mewn sawl dull gwahanol, ac mae wedi fy nysgu sut i gyflwyno pethau mewn ffordd gryno pan fod angen.”

Llwyddodd y cwrs i dyfu ei hangerdd tuag at waith cymdeithasol ac at addysg anghenion arbennig, ac yn y dyfodol hoffai weithio fel gweithgwraig cymdeithasol sy’n ymdrin ag anableddau, neu gweithio mewn tîm sy’n cefnogi plant sydd wedi profi pethau ofnadwy, a rhoi llais iddynt o fewn cymdeithas. 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon