Skip page header and navigation

Mae prosiect PACE Cymru, sydd ar y gweill gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), yn cael effaith go iawn ar fusnesau yn Sir Benfro.  Drwy gyflwyno cwmnïau i’r offer digidol diweddaraf, mae PACE Cymru yn eu helpu i roi hwb i gynhyrchiant, symleiddio gweithrediadau, ac aros yn gystadleuol.  

A large group of people standing in a line outside a wooden building.

Mae’r prosiect wedi canolbwyntio ar sectorau allweddol megis gweithgynhyrchu, twristiaeth, bwyd a diod, ynni adnewyddadwy, a’r diwydiannau creadigol, gyda’r nod o ysgogi arloesi a thwf economaidd yn yr ardal. 

Cau Bwlch Digidol Cymru 

Mae PACE Cymru yn gweithio i ddadrinysu technoleg i fusnesau, gan ddangos bod offer digidol modern yn fforddiadwy, yn hygyrch, ac yn gallu sicrhau elw cryf ar fuddsoddiad. Mae hyn yn cyd-fynd yn agos â nod Llywodraeth Cymru o sicrhau bod gan fusnesau yng Nghymru yr hyder a’r weledigaeth i ddatblygu modelau busnes cystadleuol sy’n gwneud y gorau o’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â thechnoleg ddigidol.

Dod â Busnesau at ei Gilydd Drwy Glinigau Digidol 

Er mwyn darparu cymorth ymarferol cynhaliwyd clinigau digidol mewn tri lleoliad allweddol yn Sir Benfro: 

  • Canolfan Arloesedd y Bont, Doc Penfro 
  • Folly Farm Adventure Park and Zoo, Cilgeti 
  • Bluestone Resort, Arberth

Roedd pob digwyddiad wedi’i deilwra i ddiwydiant penodol, gan sicrhau bod busnesau’n derbyn cyngor ymarferol, perthnasol.  Cyflwynodd y clinigau offer a allai helpu i arbed amser, lleihau gwastraff, cynyddu effeithlonrwydd, a gwella elw.  Ymhlith y busnesau a oedd yn bresennol oedd West Wales Holiday Cottages, Metal Seagulls, Mainstay, Holiday Nests, a Visit Pembrokeshire

Cymerodd myfyrwyr PCYDDS sy’n astudio Lletygarwch, Hamdden, a Thwristiaeth ran allweddol yn y digwyddiadau hyn, gan helpu gyda logisteg a rhwydweithio â busnesau lleol.  Yn sgil y profiadau hyn agorwyd drysau i interniaethau a phrosiectau cydweithredol, gan ddarparu cysylltiad gwerthfawr â diwydiant ar gyfer myfyrwyr. 

Archwilio Technoleg Flaengar 

Cyflwynwyd busnesau a ddaeth i’r clinigau i atebion digidol datblygedig, yn cynnwys y canlynol: 

  • Gefeilliaid digidol i gyfoethogi cynhyrchiant a dylunio cynnyrch 
  • Modelu Gwybodaeth am Adeiladau i wella rheoli ystadau ac asedau 
  • Realiti estynedig a rhithwir ar gyfer hyfforddi staff, marchnata, ac ymgysylltu â chwsmeriaid 
  • Systemau Cynllunio Adnoddau Menter i awtomeiddio swyddogaethau busnes allweddol 
  • Argraffu 3D ar gyfer prototeipio cyflym 
  • Offer seiberddiogelwch i ddiogelu eiddo deallusol a data sensitif 
  • Systemau olrhain i sicrhau cydymffurfiaeth a dilysrwydd cynnyrch 

Hefyd cynhaliodd PACE Cymru weithdy marchnata ynghylch TikTok yn Bluestone, gan ddangos sut gallai busnesau ddefnyddio’r platfform i gynyddu ymwybyddiaeth o’u brand ac ennyn diddordeb cwsmeriaid. 

Cymhwyso Arloesi Digidol yn y Byd Go Iawn 

Mae gwaith PACE Cymru eisoes wedi arwain at gymwysiadau technolegol cyffrous ar draws Sir Benfro. 

Trawsnewid y Diwydiant Tecstilau 

Cydweithiodd Roseanna Jiggins, sylfaenydd SwatchEditorâ a raddiodd o PCYDDS, ag Ashley Pullen a James Millns o PACE Cymru ar brosiect HoloLens.  Mae’r dechnoleg hon yn gadael i ddefnyddwyr ryngweithio â gefeilliaid digidol ffabrigau, gan leihau’r angen am samplau ffisegol a thorri gwastraff tecstilau hyd at 20%.

Tynnodd Roseanna sylw at y buddion o ran cynaliadwyedd gan ychwanegu : “Mae PACE Cymru wedi dangos y gall hyd yn oed fusnesau bach elwa o Realiti Rhithwir a Deallusrwydd Artiffisial. Dydy ef ddim i’r cwmnïau mawr yn unig; gall defnyddio offer digidol ysgogi effeithlonrwydd a chynaliadwyedd.”

Teithiau Rhithwir drwy’r Safle ar gyfer Folly Farm

Gweithiodd Glyn Jenkins o PACE Cymru gyda Folly Farm i greu teithiau rhithwir drwy’r safle, gan ganiatáu i ddarpar ymwelwyr archwilio’r safle o bell cyn archebu tocynnau. 

Meddai: “Drwy ddarparu profiad mwy trochol ar-lein, mae gan Folly Farm y potensial i sefyll allan mewn marchnad gystadleuol, denu ymwelwyr newydd, a hyd yn oed leihau ymholiadau am weithrediadau am fod pobl yn gallu dychmygu’r cynllun, yr anifeiliaid, a’r cyfleusterau ymlaen llaw.  Mae’r dechnoleg hon hefyd yn agor cyfleoedd i amrywio’i arlwy, megis creu teithiau rhithwir ar gyfer ysgolion, cleientiaid corfforaethol neu hyrwyddo digwyddiadau.  Mae’n enghraifft wych o ba mor ymarferol y gall technoleg fod – a hygyrch.”

Meddai Gareth Morris, Swyddog Marchnata yn Folly Farm:  “Rydym ni wedi gweld bod y dull arloesol hwn nid yn unig yn gwella profiadau’r gwesteion yn ystod y broses archebu, ond mae hefyd yn rhoi sicrwydd y bydd gan ddarpar westeion ddealltwriaeth eglur o beth i’w ragweld cyn cyrraedd eu llety.”

Cydweithio Parhaus ac Effaith yn y Dyfodol

Yn dilyn llwyddiant y mentrau hyn, mae PACE Cymru yn parhau i gefnogi busnesau drwy gydweithrediadau newydd.  Mae un prosiect o’r fath yn cynnwys Nights Under Canvas, busnes a ddaeth i’r clinigau digidol, tra mae darpar Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth arall yn archwilio defnyddio gefeilliaid digidol yn Bluestone.

Mae PACE Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod effaith ei waith yn parhau ymhell tu hwnt i’r digwyddiadau. 

Meddai Dirprwy Arweinydd ac Arweinydd Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU ar Gyngor Sir Penfro, Cyngh Paul Miller: “Mae sicrhau bod ein busnesau ar flaen y gad o ran galluoedd digidol yn hollbwysig i lwyddiant y rhanbarth yn y dyfodol ac mae prosiect PACE Cymru wedi bod yn helpu i leihau’r gagendor digidol cyfredol.”

Meddai Gareth Evans, Pennaeth Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) yn PCYDDS:   “Gall technoleg newydd helpu busnesau.  Mae modelau digidol yn monitro perfformiad amser real, yn tracio defnydd o ynni, ac yn darganfod traul cyn iddo ddod yn fater costus.  Drwy adnabod anghenion am waith cynnal a chadw ataliol yn gynnar ac optimeiddio llif gweithrediadau, gallwch helpu i ymestyn oes eich asedau, lleihau costau ynni, a gwella effeithlonrwydd cyffredinol adeiladau, gan ganiatáu i chi wneud penderfyniadau rhagweithiol, ar sail data sy’n diogelu eich ystâd a’ch cyllideb.  Mae’r clinigau digidol wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac rydym yn gwneud gwaith dilynol gyda rhai o’r busnesau ar brosiectau ymarferol mwy hirdymor.”

Mae’r prosiect hwn yn rhan o fenter gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a gyflwynir mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Penfro.  Fe’i cyllidir gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU. 


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon