Holly Slingsby o PCYDDS ymhlith artistiaid sy’n arddangos gwaith mewn arddangosfa o bwys yng Nghorc gyda stiwdios Elysium
Mae’r artist a darlithydd Celf Gain yng Ngholeg Celf Abertawe, PCYDDS, Holly Slingsby, yn cyflwyno gwaith newydd yn Elsewhere, Here, arddangosfa grŵp yng Nghorc, Iwerddon, a drefnir gan stiwdios Elysium, Abertawe.

Mae’r arddangosfa’n dwyn ynghyd ystod amrywiol o arferion cyfoes o’r gymuned ffyniannus dan arweiniad artistiaid yn Abertawe ac mae’n cynnwys gwaith gan sawl cyn-fyfyriwr o gwrs Celf Gain PCYDDS.
Yn eu plith mae sylfaenydd Elysium, Jonathan Powell, yn ogystal â derbynwyr Gwobr fawreddog Elysium am Gerflunio: Heidi Lucce-Redcliffe ac Ewan Coombs (enillwyr gwobrau 2024), a Luke Cotter a Hollie Wilkins (enillwyr gwobrau 2025).
Mae arfer Holly yn rhychwantu perfformio, paentio a fideo, yn aml gan archwilio myth, defod, a rôl delweddau hynafol mewn diwylliant cyfoes.
Mae Elsewhere, Here yn rhedeg rhwng 3 Medi a 27 Medi 2025 yn y Lord Mayor’s Pavilion, Corc, ac mae’n cynnwys gwaith paentio, cerfluniau a gosodiadau gan dros 30 o artistiaid o gymuned Elysium. Mae’r arddangosfa’n archwilio ymdeimlad o le, perthyn, a hunaniaeth wrth feithrin deialog ddiwylliannol rhwng Cymru ac Iwerddon.
Dyma’r tro cyntaf i grŵp o artistiaid Elysium arddangos eu gwaith yng Nghorc, ac mae’n rhan o raglen gyfnewid barhaus rhwng Sample Studios (Corc) ac Oriel Elysium (Abertawe), yn dilyn arddangosfa gydweithredol lwyddiannus yn Abertawe yn 2024.
Wedi’i sefydlu yn 2007, mae Oriel Elysium yn sefydliad dan arweiniad artistiaid yn Abertawe, sydd wedi ymroi i gefnogi celf weledol gyfoes drwy ddarparu stiwdio, arddangosfeydd ac ymgysylltu â’r gymuned. Mae’n un o’r darparwyr mwyaf o fannau stiwdio i artistiaid yng Nghymru ac mae wedi chwarae rhan allweddol wrth gryfhau’r mudiad dan arweiniad artistiaid yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
“Drwy’r arddangosfa hon, bydd Corc yn croesawu ton fywiog o gelf gyfoes o Gymru,” eglura’r datganiad curadurol. “Mae’n gyfle i gyfnewid safbwyntiau, yn fan cyfarfod rhwng y cyfarwydd a’r anhysbys.”
Dywedodd Jonathan Powell, Cyfarwyddwr Oriel Elysium: “Rydyn ni’n credu mewn adeiladu pontydd rhwng cymunedau creadigol. Mae gan Corc sîn gelf annibynnol ffyniannus, ac mae’r arddangosfa hon yn gyfle i rannu, dysgu a sbarduno cysylltiadau newydd.”
Manylion yr Arddangosfa
Teitl: Elsewhere, Here – An exhibition of elysium gallery studio artists from Swansea, Wales
Dyddiadau: 3 Medi – 27 Medi 2025
Lleoliad: Lord Mayor’s Pavilion, Corc
Rhagddangosiad: Dydd Mercher 3 Medi – 5.30pm
Oriau agor: Dydd Mawrth – dydd Sadwrn, 11am–5pm; Dydd Sul, 12pm–5pm
Mae’r artistiaid sy’n cymryd rhan yn cynnwys:
Leila Bebb | Kate Bell | Luke Cotter | Ewan Coombs | Tim Davies | Angela Dickens | Lucy Donald | Gemma Ellen | Daniel Gower | Stephen Hammett | Rory Hancock | Sophie Hancock | Bonita James | Demian Johnston | Hannah Jones | Lucia Jones | Ann Jordan | Sheree Murphy | Heidi Lucce-Redcliffe | Holly Slingsby | Tracey McMaster | Paul Munn | Graham Parker | Jonathan Powell | Euros Rowlands | Claire Staveley | Daniel Staveley | Hollie Wilkins | Dylan Williams | Melanie Wotton

Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071