Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cyhoeddi penodiad Sharron Lusher MBE DL yn Ddirprwy Is-Ganghellor Addysg Bellach.

Sharron Lusher, PVC FE

Mae Sharron yn dod â chyfoeth o brofiad o’i gyrfa nodedig yn y sector addysg drydyddol, ar ôl gwasanaethu mewn sawl rôl arweinyddiaeth uwch sydd wedi siapio tirwedd Addysg Bellach ac Uwch yng Nghymru. 

Yn gyn-Bennaeth Coleg Sir Benfro a Chadeirydd Bwrdd ColegauCymru, mae gan Sharron brofiad helaeth o weithio gyda’r llywodraeth, cyflogwyr a darparwyr addysg i hyrwyddo dilyniant dysgwyr, diwygio galwedigaethol, datblygu sgiliau dwyieithog, ac ehangu cyfranogiad ledled Cymru. Mae’n Gadeirydd Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru ac yn aelod o fwrdd Cymwysterau Cymru.

Yn ei rôl newydd, bydd Sharron yn arwain cyfraniad Y Drindod Dewi Sant at weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer system addysg drydyddol ar y cyd. Bydd yn helpu i gryfhau cydweithrediad rhwng y Brifysgol a’r sector Addysg Bellach, gan gefnogi’r gwaith o ddatblygu llwybrau dilyniant di-dor o Addysg Bellach i Addysg Uwch a chreu mwy o gyfleoedd i ddysgwyr a’u cymunedau.

Dywedodd yr Athro Elwen Evans KC, Is-Ganghellor y Drindod  Dewi Sant: “Rydym yn falch iawn o groesawu Sharron Lusher i uwch dîm arweinyddiaeth y Brifysgol. Bydd ei phrofiad helaeth a’i heffaith brofedig yn y sector Addysg Bellach yn amhrisiadwy wrth i ni barhau i adeiladu llwybrau integredig sydd o fudd i ddysgwyr, cyflogwyr a chymunedau ledled Cymru a thu hwnt.”

Wrth sôn am ei phenodiad, dywedodd Sharron Lusher: “Rwy’n gyffrous i ymuno â’r Drindod Dewi Sant ar adeg mor dyngedfennol i addysg drydyddol yng Nghymru. Mae strwythur grŵp unigryw a phresenoldeb rhanbarthol cryf y Brifysgol yn golygu bod y Drindod Dewi Sant mewn sefyllfa eithriadol o dda i gyflawni uchelgeisiau Llywodraeth Cymru a Medr ar gyfer y sector. 

“Edrychaf ymlaen at weithio gyda chydweithwyr, partneriaid a rhanddeiliaid i greu mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ac i gefnogi cenhadaeth y Brifysgol o ehangu cyfranogiad a thrawsnewid bywydau.”

Mae penodiad Sharron yn atgyfnerthu ymrwymiad y Drindod Dewi Sant i sicrhau bod dysgwyr o bob cefndir yn cael eu cefnogi i lwyddo mewn tirwedd addysg a chyflogaeth sy’n esblygu’n gyflym.


Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 01267 676790

Rhannwch yr eitem newyddion hon