Lansio adnodd newydd Dewch i Deithio a Dysgu Sbaeneg Patagonia
Mae Canolfan Peniarth, un o brif gyhoeddwyr llyfrau ac adnoddau addysgol Cymraeg a dwyieithiog yng Nghymru sy’n rhan o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, wedi creu adnoddau arloesol i ddysgu Sbaeneg Patagonia drwy gyfrwng y Gymraeg i blant ysgolion cynradd.

Mae’r pecyn yn cynnwys sesiwn hyfforddiant cychwynnol i ymarferwyr, deunyddiau cyflawn aml-gyfrwng ar gyfer cyflwyno 7 uned o waith, a sgript ar gyfer perfformiad Sbaeneg y gallai’r dysgwyr ei berfformio ar ddiwedd yr unedau. Mae’r dysgwyr yn cael eu cyflwyno i amrywiaeth o batrymau Sbaeneg syml a diwylliant cyfoethog Cymry Patagonia gan Min a Mei - cymeriadau’r gyfres boblogaidd ‘Dewch i Deithio’, a disgyblion Ysgol y Cwm, yr Andes.
Mae Katie Strick, athrawes yn Ysgol Llanddarog, Sir Gaerfyrddin wedi bod yn cyflwyno’r pecyn i’w dosbarth, ac i’r ysgol gyfan. Dywedodd:
“Fe ddechreuon ni gyflwyno’r pecyn yn y dosbarth ac yna wrth iddyn nhw ddod yn fwy hyderus yn defnyddio’r iaith fe ddechreuon ni gyflwyno’r iaith i blant eraill yn yr ysgol yn y gwasanaeth. Erbyn hyn, rydyn ni’n defnyddio’r pecyn tu fas - gyda llawer iawn o bwyslais ar yr ardal allanol, mae’n rhwydd iawn i fynd â’r pecyn y tu allan i’r dosbarth a gwneud y gweithgareddau yn yr ardal allanol. Ro’n i’n nerfus ar y dechrau achos do’n i ddim yn gallu siarad Sbaeneg o gwbl, ond mae’r pecyn mor gynhwysfawr does dim angen sgiliau Sbaeneg arnoch chi cyn dechrau – dw i’n dysgu gyda’r plant nawr!”
Ychwanegodd:
“Mae’r plant wedi bod wrth eu boddau, maen nhw wedi mwynhau dysgu Sbaeneg Patagonia mas draw. Mae’r caneuon mor apelgar ac maen nhw wedi bod yn wych i ddysgu’r eirfa a dysgu sut i ynganu’r eirfa yn gywir ac maen nhw wedi mwynhau pob munud. Maen nhw’n defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd yn yr ysgol nawr; ry’n ni’n gwneud y gofrestr yn Sbaeneg Patagonia, ac yng nghanol gwersi maen nhw’n dweud geiriau Sbaeneg Patagonia yn gwbl naturiol sy’n wych. Mae dysgu iaith arall yn sicr wedi meithrin eu hyder a’u dealltwriaeth o’r iaith Gymraeg hefyd.”
Mike Winter fu’n cyfansoddi’r holl caneuon ar gyfer y pecyn. Fel un sy’n hanu o Batagonia, roedd e wrth ei fodd yn gweld ymateb y plant i’r caneuon ar ymweliad diweddar ag Ysgol Llanddarog. Mynegodd:
“Roedd mor wych i weld y plant yn defnyddio’r caneuon yma a gweld eu bod nhw wedi dysgu’r caneuon ac yn eu canu nhw mor hapus a chyffrous. Roedd hynny’n wobrwyol iawn.”
Ychwanegodd ei fod wedi arfer â chlywed plant Patagonia yn siarad Cymraeg, ond roedd clywed plant ifanc o Gymru yn siarad Sbaeneg Patagonia mor frwdfrydig yn brofiad anhygoel.
Dwedodd Eluned Owena Grandis, Darlithydd y Gymraeg o Ganolfan Gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol, ac awdures y pecyn adnoddau:
“Roedd bod yng nghwmni dysgwyr Ysgol Llanddarog a’u clywed yn ynganu ac yn canu mor dda wir yn bleser. Mae tipyn o sôn wedi bod yn ddiweddar am leihâd yn nifer y myfyrwyr sy’n dewis astudio ieithoedd tramor, roedden ni ym Mheniarth yn awyddus iawn i fagu hoffter plant at ieithoedd o oed ifanc, ac roedd Min a Mei a chyfres boblogaidd Dewch i Deithio yn cynnig cyfle perffaith i wneud hynny mewn ffordd hwyliog ac apelgar trwy’r Gymraeg. Bydd y gwersi Sbaeneg y byddan nhw wedi’u cael a’r caneuon bachog, yn ogystal â’r perfformiad yn rhywbeth fydd yn aros yn eu cof am byth, ac yn effeithio’n bositif ar eu dewisiadau yn hwyrach yn eu bywydau”.
Does dim rhaid i ysgolion astudio Patagonia fel thema er mwyn gweithredu’r pecyn yma, gall gyd-fynd gyda sawl thema gan gynnwys; Cymry ar draws y byd, Teithio, Moroedd a Chefnforoedd, Antur a Thaith, Perthyn a llawer mwy.
Cliciwch yma i wylio’r fideo: Dewch i Deithio a Dysgu Sbaeneg Patagonia on Vimeo
Archebwch y pecyn yma - https://pth.cymru/siop-didad-sp
Bydd y sesiwn hyfforddiant nesaf i athrawon yn cael ei chynnal ar Hydref y 7fed. Os oes diddordeb gennych chi mewn mynychu, cysylltwch â post@peniarth.cymru
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476