Meddyginiaeth Colli Pwysau – beth yw’r ffeithiau?
Gyda meddyginiaethau colli pwysau yn dominyddu’r penawdau a’r cyfryngau cymdeithasol bron yn ddyddiol, nid yw gwahanu ffaith oddi wrth ffuglen erioed wedi bod yn anoddach. Un peth sy’n sicr: mae’r hyn a elwir yn “feddyginiaethau gwneud gwyrthiau” yn denu sylw’r cyhoedd yn ddigynsail.
Yn yr erthygl hon, mae Dr Chris Cashin, Rheolwr Rhaglen Maeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn PCYDDS, yn archwilio i weld beth sydd y tu ôl i’r holl gyhoeddusrwydd.

Mae llawer o ddiddordeb wedi bod mewn meddyginiaethau colli pwysau dros y misoedd diwethaf ac mae’n ymddangos bod llawer o bobl yn eu cymryd i golli pwysau.
Mae nifer o feddyginiaethau colli pwysau honedig sy’n dod o dan yr enw GLP - 1RA (gweithyddion derbynnydd peptid tebyg i glwcagon). Y rhai a ddefnyddir amlaf yw Wegovey / Ozempic (Semaglutide) a Mounjaro (Tirzepatide).
Fe’u datblygwyd yn wreiddiol i drin Diabetes Math 2, ond ar ôl i dreialon clinigol ddangos bod llawer o’r cyfranogwyr wedi colli tua 10% o bwysau eu cyrff, trodd sylw at eu defnyddio mewn rheoli pwysau.
Sut maen nhw’n gweithio?
Hormon yw GLP-1 sy’n cael ei gynhyrchu yn y stumog ar ôl i chi fwyta. Ei phrif rôl yw rheoleiddio’ch archwaeth drwy weithredu ar hypothalmws yr ymennydd i leihau archwaeth a chynyddu syrffed (bod yn llawn). Yn ogystal, mae’n helpu i reoli lefelau glwcos yn y gwaed (siwgr) drwy gynyddu lefelau inswlin. Felly, mae’n helpu i reoli pwysau a lleihau archwaeth. Yn ogystal, mae rhai gwelliannau iechyd eraill a adroddwyd mewn treialon clinigol megis lleihau risgiau cardiofasgwlaidd a gwella clefyd yr afu brasterog.
Gelwir y cyffuriau hyn yn weithyddion neu ddynwaredwyr gan eu bod yn gwneud y corff feddwl bod mwy o GLP-1 ar gael i reoli archwaeth.
Fe’u cymerir trwy bigiadau isgroenol wythnosol, fel arfer i’r abdomen, y glun neu’r fraich mewn pen wedi’i lenwi ymlaen llaw.
Ydyn nhw ar gael ar y GIG?
Mae GLP-1RA ar gael yng Nghymru a Lloegr ar y GIG, ond mae meini prawf llym ar waith cyn i gleifion gael presgripsiwn ar gyfer y feddyginiaeth, megis BMI uchel (>40), yn ogystal, mae angen bod gan gleifion gydafiecheddau megis Diabetes Math 2 a chlefyd cardiofasgwlar. Bydd angen bod gennych BMI (Mynegai Más y Corff) o fwy na 27-30 yn dibynnu ar unrhyw gyflyrau eraill sydd gennych megis clefyd y galon neu bwysedd gwaed uchel.
Yng Nghymru, fel arfer, maent yn cael eu rhagnodi gan wasanaethau rheoli pwysau arbenigol ym mhob bwrdd iechyd.
Gan fod mynediad cyfyngedig i’r feddyginiaeth ar y GIG, mae’n hawdd deall pam fod cymaint o bobl bellach yn cael y feddyginiaeth drwy fferyllfeydd ar-lein, ar dipyn o gost iddyn nhw eu hunain. Mae’n werth nodi, o le bynnag y byddwch yn cael y feddyginiaeth, bydd angen i chi fodloni’r meini brawf megis Mynegai Más y Corff uwch a chyflyrau iechyd penodol er mwyn cael ei rhagnodi. Yn sicr, mae’n werth nodi mai fferyllfeydd ar-lein ag enw da neu ymarferwyr gofal iechyd cymwysedig yw’r llefydd mwyaf diogel i gael y feddyginiaeth. Amcangyfrifir bod tua 1.5 miliwn o bobl yn cymryd meddyginiaeth colli pwysau drwy bresgripsiwn preifat ar hyn o bryd.
A oes unrhyw sgil-effeithiau?
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael rhywfaint o sgil-effeithiau megis cyfog, problemau gastroberfeddol, rhwymedd, glwcos gwaed isel wrth gymryd rhai meddyginiaethau, pennau tost ac, mewn achosion mwy difrifol, llid y cefndedyn (pancreatitis). Mae’n bwysig ceisio cyngor meddygol os ydych yn cael unrhyw un o’r sgil-effeithiau hyn.
A oes angen i mi newid fy ffordd o fyw?
Yr ateb syml yw Oes – gall y feddyginiaeth effeithio ar eich archwaeth, ond os ydych chi’n rhoi’r gorau iddi, mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod y rhan fwyaf o bobl yn magu pwysau oni bai eu bod yn newid eu diet a’u gweithgarwch corfforol. Fel Maethegydd a Dietegydd, yr hyn rwy’n ei weld yw nad oes llawer o bobl yn cael cyngor digonol ar beth i’w fwyta a sut i fod yn actif.
Maeth
Mae’n ymddangos nad oes llawer o bobl sy’n cymryd y meddyginiaethau colli pwysau hyn yn cael cyngor maeth digonol pan mae’r feddyginiaeth yn cael ei rhagnodi iddynt. Yn ogystal, mae cymaint o arbenigwyr honedig ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n cynnig cyngor am faeth nad yw’n seiliedig o bosibl ar dystiolaeth. Y dull arferol o golli pwysau yw dilyn cynllun sy’n creu diffyg calorïau. Y dyddiau hyn, nid yw Dietegwyr a Maethegwyr fel arfer yn rhagnodi dietau calorïau isel iawn, ond mae’n ymddangos bod llawer o bobl yn adrodd eu bod yn bwyta symiau bach iawn o fwyd. Nid yw hyn yn iach, gan y gall arwain at ddiffygion mwynau a fitaminau pwysig a cholli cyhyrau.
Mae rhai pethau pwysig i’w hystyried megis: -
- Bwyta dogn o brotein gyda’ch prydau bwyd – gall hyn fod yn gyw iâr, cig, wyau, caws neu bysgod, ond hefyd ffynonellau llysieuol megis Toffw neu ffa.
- Bwytewch eich pump y dydd – 2 ddogn o ffrwythau a’r gweddill yn llysiau. Os allwch chi fwyta mwy na’r 5 dogn o lysiau, mae tystiolaeth yn dangos y gall helpu’n wirioneddol i wella microbom y coluddyn.
- Bwytewch garbohydradau grawn cyflawn megis bara / pasta / grawnfwyd grawn cyflawn a thatws gyda’r croen.
- Defnyddiwch symiau bach o frasterau megis menyn /margarin ac olew olewydd.
- Yfwch ddigon o hylifau – dŵr, te, coffi a diodydd heb siwgr – mae angen 2 – 2.5 litr ar y rhan fwyaf o bobl.
- Dylech gynnwys o leiaf 300ml (hanner peint) o gynnyrch llaeth megis llaeth neu iogwrt, ond, os na allech fwyta cynnyrch llaeth, defnyddiwch ddiodydd wedi’u gwneud o blanhigion sydd â chalsiwm wedi ychwanegu iddynt er mwyn gwarchod eich esgyrn.
Gweithgarwch Corfforol
Mae canllawiau’r DU yn nodi y dylwn ni i gyd anelu am 150 munud o ymarfer corff aerobig bob wythnos, gall hyn fod yn cerdded, rhedeg neu ddosbarthiadau sy’n egnïol. Yn ogystal, dylem gynnwys 2 sesiwn 30 munud o ymarfer corff ymwrthedd - mae hynny’n golygu hyfforddiant gyda phwysau! Mae’n debyg ei bod yn syniad da cael rhywfaint o gyngor proffesiynol gan ei fod yn bwysig i wneud hyn yn gywir.
Casgliad
Gall meddyginiaethau colli pwysau eich helpu i leihau eich pwysau, ond mae diet iach ac ymarfer corff yn bwysig iawn hefyd. Os nad ydych yn cael cyngor gan y darparwr meddyginiaeth, mae’n werth ceisio cyngor gan Faethegydd Cofrestredig (Cymdeithas Maetheg) ac osgoi llawer o’r wybodaeth wael sydd ar gael yn rhwydd ar draws ystod o sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Cyfeiriadau
Garvey, W.T., Mechanick, J.I., Brett, E.M., Garber, A.J., Hurley, D.L., Jastreboff, A.M., Nadolsky, K., Pessah-Pollack, R. a Plodkowski, R. (2016) ‘American Association of Clinical Endocrinologists and American College of Endocrinology comprehensive clinical practice guidelines for medical care of patients with obesity’, Endocrine Practice, 22, tt. 1- 203.
GovUK (2019) Physical Activity Guidelines for the United Kingdom. Ar gael yn: https://www.gov.uk/government/publications/physical-activity-guidelines-uk-chief-medical-officers-report
Kaplan, L.M., Apovian, C.M., Ard, J.D., Allison, D.B., Aronne, L.J., Batterham, R.L., Busetto, L., Dicker, D., Horn, D.B. a Kelly, A.S. (2024) ‘Assessing the state of obesity care: Quality, access, guidelines, and standards’, Obesity Science & Practice, 10(4), tt. e765.
Mechanick, J. I., Butsch, W. S., Christensen, S. M., Hamdy, O., Li, Z., Prado, C. M., & Heymsfield, S. B. (2025). Strategies for minimizing muscle loss during use of incretinmimetic drugs for treatment of obesity. Obesity Reviews, 26(1), e13841.
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476