Myfyriwr Gwaith Ieuenctid PCYDDS yn cefnogi pobl ifanc Wcráin drwy brosiect arloesol
Mae Jimmy Wilson, myfyriwr BA Pobl Ifanc, Cymunedau a Gwaith Ieuenctid ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), wedi bod yn cael effaith sylweddol yn Sir Benfro drwy arwain rhaglen gwaith ieuenctid yn cefnogi pobl ifanc Wcráin sydd wedi’u dadleoli gan y rhyfel.
Ers mis Awst 2023, mae Jimmy wedi cydlynu’r fenter a arweinir gan bobl ifanc sydd wedi’i chynllunio i helpu pobl ifanc Wcráin rhwng 16 a 25 oed i ymgartrefu yng Ngorllewin Cymru. Cyrhaeddodd llawer o’r cyfranogwyr y DU ar ôl profi trawma, colled a chael eu datgysylltu rhag teulu a’r gymuned. Mae prosiect Jimmy wedi rhoi iddynt gefnogaeth emosiynol, cyfeillgarwch a chyfleoedd i ffynnu.
Dechreuodd Jimmy y prosiect trwy gynnal gwaith ieuenctid allgymorth ac ymweliadau cartref, gan ganiatáu iddo feithrin ymddiriedaeth gyda phobl ifanc a’u teuluoedd. Meddai:
“Roedd y cam cychwynnol hwn yn hanfodol wrth ddatblygu dealltwriaeth o’u hamgylchiadau unigol, deinameg teuluol, a’r rhwystrau penodol yr oeddent yn eu hwynebu. Roedd ynysu cymdeithasol, diffyg cyfleoedd integreiddio, rhwystrau iaith, a heriau iechyd meddwl yn cael eu hamlygu’n gyson yn brif bryderon.”
Gan ddefnyddio gwerthoedd ac egwyddorion gwaith ieuenctid, cyfranogiad gwirfoddol, parch at yr unigolyn, ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol ; mabwysiadodd Jimmy ymagwedd sy’n seiliedig ar drawma a oedd yn sicrhau bod pob gweithgaredd yn sensitif, cynhwysol a chefnogol.
Wedi’i arwain gan yr anghenion a nodwyd trwy allgymorth, cynlluniodd Jimmy raglen strwythuredig â’r nod o leihau teimlo’n ynysig, meithrin cysylltiadau cyfoedion, a gwella lles emosiynol.
Gan weithio ar y cyd â Thîm Ymfudo Sir Benfro, MIND Sir Benfro, a Chydlynydd Lles Ieuenctid Wcráin, darparodd y prosiect rwydwaith o gefnogaeth a oedd yn ddiwylliannol sensitif ar gyfer pobl ifanc a’u teuluoedd. Ychwanega Jimmy:
“Helpodd y gwaith ar y cyd i sicrhau parhad a chefnogaeth ddiwylliannol briodol.”
Roedd y gweithgareddau’n cynnwys anturiaethau awyr agored, chwaraeon a phrofiadau diwylliannol fel mynychu gemau rygbi rhyngwladol, cael tro mewn go-ceir, a chwaraeon dŵr. Un o’r uchafbwyntiau oedd cwrs preswyl pum diwrnod yn Eryri, lle’r oedd cyfranogwyr yn magu hyder, gwytnwch, a chyfeillgarwch gydol oes.
Wrth i’r grŵp fagu hyder, cyflwynodd Jimmy sesiynau adborth rheolaidd, gan ganiatáu i bobl ifanc gyd-ddylunio gweithgareddau yn y dyfodol. Arweiniodd eu syniadau at ddigwyddiadau cymunedol a chyfnewid diwylliannol, gan gynnwys cinio traddodiadol Wcrainaidd a gynhaliwyd ar gyfer pobl ifanc lleol a staff Cyngor Sir Benfro; gan hyrwyddo dealltwriaeth ryngddiwylliannol a balchder mewn hunaniaeth.
Ehangodd y prosiect hefyd i ddarparu cefnogaeth un-i-un i’r rhai sy’n symud i addysg bellach, hyfforddiant a chyflogaeth, gan sicrhau bod cyfranogwyr yn cael eu cefnogi i lunio eu dyfodol.
Ers hynny, mae’r Prosiect WE Explore wedi ymestyn i gefnogi plant digwmni sy’n ceisio lloches (UASC), y mae llawer ohonynt yn rhannu profiadau tebyg o ddadleoli a thrawma.
Mae Jimmy yn dweud bod llawer o lwyddiant y prosiect wedi bod o ganlyniad i’w daith academaidd yn PCYDDS.
“Mae fy astudiaethau academaidd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), lle rwy’n symud ymlaen ar hyn o bryd trwy Lefel 6 y radd BA (Anrh) Pobl Ifanc, Cymunedau a Gwaith Ieuenctid, wedi bod yn allweddol wrth sicrhau llwyddiant hirdymor y prosiect. Trwy’r cwrs, rwyf wedi dyfnhau fy nealltwriaeth o theori gwaith ieuenctid, ymagweddau seiliedig ar drawma ac arfer adfyfyriol.
“Rwyf bellach yn defnyddio arfer adfyfyriol yn rheolaidd i werthuso ac addasu fy ymyriadau.”
Dywedodd Angharad Lewis, Rheolwr Rhaglen PCYDDS:
“Ni allai tîm y rhaglen Gwaith Ieuenctid fod yn fwy balch o Jimmy a’r arweinyddiaeth ysbrydoledig y mae wedi’i roi i’r prosiect hwn fel rhan o’i leoliad. Yn fyfyriwr rhan-amser Hyblyg, mae Jimmy yn mynychu darlithoedd gyda’r hwyr bob wythnos, gyda sesiynau ar-lein ac ar y campws am yn ail wythnos, sy’n caniatáu iddo ffitio ei astudiaethau o gwmpas ei ymrwymiadau gwaith wrth weithio tuag at ei gymhwyster proffesiynol Gwaith Ieuenctid. Mae ei ymroddiad i gefnogi pobl ifanc sydd wedi’u hadsefydlu o’r Wcráin yn enghraifft o’r tosturi, yr ymrwymiad a’r gwerthoedd sydd wrth wraidd gwaith ieuenctid. Mae gweld y gwahaniaeth rhyfeddol y mae Jimmy yn ei wneud yn Sir Benfro yn adlewyrchu’r gorau o ysbryd cymunedol ein Prifysgol, ac rydym yn falch iawn o ddathlu’r effaith gadarnhaol y mae’n parhau i’w chael bob dydd.”
Wrth iddo barhau â’i radd a datblygu’r Prosiect WE Explore i 2026, mae Jimmy yn parhau i fod yn ymrwymedig i greu mannau lle gall pob person ifanc, waeth beth fo’u cefndir neu eu taith, deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cysylltu a’u cefnogi.
“Wrth i mi barhau i gefnogi pobl ifanc Wcráin ac UASC i mewn i 2025/26, rwy’n parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu gwaith ieuenctid ymatebol sy’n cydnabod cryfder a photensial pob person ifanc – er eu bod yn wynebu heriau enfawr.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476