Skip page header and navigation

Mae myfyriwr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) Luca Burgess wedi dychwelyd o interniaeth ysbrydoledig fis o hyd  yn Barcelona, lle cafodd profiad ymarferol mewn cynaliadwyedd amgylcheddol a chydweithredu rhyngwladol. 

a group of students and lecturers sitting and standing outside

Mae Luca yn astudio Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd yn PCYDDS Abertawe.  Ar ôl treulio rhan o’i blentyndod yn Rhufain, dychwelodd i’r DU a dewis i astudio yn PCYDDS oherwydd ei rhaglen amgylcheddol arbenigol, un o’r ychydig o’i math yn y DU.  Meddai: 

“Pan ymgeisiais i PCYDDS yn gyntaf, nid oeddwn yn ymwybodol o’r cyfleoedd symudedd rhyngwladol.  Dewisais y cwrs oherwydd fy mod i’n angerddol am yr amgylchedd a chynaliadwyedd ac roeddwn am adeiladu gwybodaeth arbenigol a fyddai’n fy helpu yn fy ngyrfa ar ôl graddio.  Mae’r interniaeth dramor wedi rhagori ar fy nisgwyliadau ym mhob ffordd.”

Ymgymerodd ag interniaeth yng Nghanolfan Fyd-eang Cynaliadwyedd 2050 (SWC 2050), ac ymgynghoriaeth amgylcheddol yn Barcelona.  Yna, cyfrannodd at ddatblygu ‘VSME Academia, cwrs newydd a ddyluniwyd i helpu gweithwyr proffesiynol i gynhyrchu adroddiadau cynaliadwyedd yn unol â safonau VSME EFRAG y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer mentrau bach a chanolig. 

Canolbwyntiodd gwaith Lucas ar ymchwil a sgriptio ar gyfer modylau addysgol, profiad a helpodd i ddatblygu sgiliau proffesiynol a chyfathrebu newydd. 

“Y prif beth a ddysgais o’r gwaith hwn oedd sut i ysgrifennu sgriptiau addysgol ysgogol a sut i weithio o bell, nad oeddwn i wedi’i wneud o’r blaen.” meddai.

Y tu hwnt i’r datblygiad proffesiynol, disgrifiodd Luca ei amser dramor yn brofiad gwirioneddol drawsnewidiol. 

“ Yr uchafbwynt fwyaf oedd yr holl bobl i mi gwrdd â nhw. Cwrddais i â phobl o bob cwr o’r byd.  Roedd interniaid o America, Mecsico, yr Eidal a’r DU.  Rwyf wrth fy modd yn cwrdd â phobl newydd a dysgu am eu profiadau.  Yr uchafbwynt arall oedd y ddinas ei hun.  Dinas brysur, ffyniannus yw Barcelona gyda chymaint o weithgareddau i’w gwneud a phethau i’w gweld.  Nid oedd bod yno am fis wedi gwneud cyfiawnder yn nhermau archwilio’r ddinas yn llawn a phrofi’r hyn a oedd ganddi i’w gynnig.”

A group of students creating a pyramid shape in front of the Sagrada Familia in Barcelona

Wrth i Luca adfyfyrio ar ei amser yn Barcelona, byddai’n annog eraill i ymgeisio i gael yr un profiad ag ef. 

“Byddwn yn argymell y profiad hwn yn fawr i fyfyrwyr eraill gan ei fod yn brofiad anhygoel.  Rwyf wedi cwrdd â chymaint o bobl newydd, cael profiad gwaith yn y maes rwyf am weithio ynddo ar ôl graddio ac mae gen i lythyr geirda wedi’i lofnodi gan fy ngoruchwyliwr yn y cwmni, y gallaf ei ddangos i ddarpar gyflogwyr yn y dyfodol.  Yn ogystal, ariannodd y brifysgol 2/3 o gostau’r daith a oedd yn help enfawr, ni fyddwn wedi gallu ei fforddio fel arall.”  

Meddai Kath Griffiths, Rheolwr Rhanbarthol Rhyngwladol Gogledd America a Symudedd Allanol: 

“Mae cyflogadwyedd yn ganolig i bopeth a wnawn yn PCYDDS.  Trwy ein rhaglen Taith, rydym wedi gallu cynnig interniaethau byd-eang gyda chymorth Absolute Internships.  Cawsom y pleser yr haf hwn o gwrdd â Luca yn ystod ei interniaeth yn Barcelona.  Mae bob amser yn ysbrydoledig clywed yn uniongyrchol am yr effaith y mae interniaethau rhyngwladol wedi’u cael ar ein myfyrwyr.”

Mae Luca yn dweud y bydd y profiad hwn wedi ei ddatblygu fel unigolyn.  

“Mae’r profiad interniaeth hwn wedi fy helpu’n broffesiynol drwy roi cysylltiadau i mi yn y sector amgylcheddol, gyda’r potensial o weithio i’r cwmni hwn yn y dyfodol.  Yn ogystal, mae fy mhroffil LinkedIn wedi tyfu’n aruthrol diolch iddo, drwy fy nghysylltu â chydweithwyr ac interniaid eraill.  Mae wedi fy helpu yn bersonol gan fy mod wedi gwneud ffrindiau newydd pan oeddwn dramor, gyda rhai ohonynt yn byw yn y DU.  Datblygais fy sgiliau cymdeithasol a rhyngbersonol yn naturiol drwy ryngweithio gyda chymaint o bobl mewn mathau gwahanol o sefyllfaoedd cymdeithasol.”

Ar ôl graddio yn yr haf, mae Luca yn gobeithio teithio i Rufain fel intern ym mhencadlys FAO.  

“Rwyf wir yn edmygu’r gwaith mae FAO yn ei wneud.  Rwy’n siarad Eidaleg a fydd yn fy helpu i mi ymgartrefu yn y brifddinas.  Rwy’n meddwl pan fyddaf yn gwneud cais am interniaeth yr FAO, bydd fy interniaeth dramor yn fy helpu i sefyll oddi wrth yr ymgeiswyr eraill gan y bydd yn dangos bod gennyf brofiad yn y maes a’r fenter i weithio dramor.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon