Myfyriwr PCYDDS yn Cael Persbectif Byd-eang Ar Leoliad Rhyngwladol yn Japan
Mae astudio ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi agor byd o gyfleoedd i Narantsatsralt Ganbaatar. Mae’r myfyriwr, blwyddyn olaf BA Datblygu Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth Fyd-eang sy’n dod yn o Fongolia yn wreiddiol, wedi treulio’r tair blynedd ddiwethaf yn y DU ac wedi cwblhau lleoliad pum mis trawsnewidiol ym Mhrifysgol Rikkyo yn Japan yn ddiweddar. Mae’r profiad hwn wedi rhoi’r cyfle iddo weld gwleidyddiaeth fyd-eang, ddyfnhau ei ddealltwriaeth o astudiaethau Dwyrain Asiaidd ac ennill gwerthfawrogiad newydd o gydweithredu a diwylliant rhyngwladol.

Dewisodd Narantsatsralt astudio yn PCYDDS gan mai hi oedd yr unig brifysgol a oedd yn cynnig ei ddiddordebau academaidd mewn gwleidyddiaeth Ddwyrain Asiaidd a datblygu economeg a’u halinio’n berffaith. Meddai:
“Dewisais i’r cwrs hwn oherwydd fy niddordeb cryf mewn gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol. Doeddwn i ddim yn gwybod am y cyfleoedd lleoliad rhyngwladol pan ymgeisiais ar gyfer y cwrs, ond ar ôl i mi ddysgu am hyn, roeddwn i wedi’i ysgogi hyd yn oed yn fwy. Mae’r cyfle i astudio tramor ac ennill profiad uniongyrchol mewn gwlad arall wedi bod yn fantais fawr i mi ddyfnhau fy nealltwriaeth o fy maes.”
Teithiodd Narantsatsralt i Japan i astudio cyfraith, economeg a gwleidyddiaeth Japan, trwy gynllun symudedd rhyngwladol PCYDDS, gan ymgolli ei hun mewn amgylchedd academaidd a diwylliannol hollol wahanol.
“Pan ddechreuais ar y cwrs hwn, fy mhrif nod oedd deall gwleidyddiaeth a datblygiad byd-eang yn ymarferol, nid yn ddamcaniaethol yn unig. Roeddwn i am weld sut mae gwledydd gwahanol yn ymdrin â gwleidyddiaeth ac economeg. Roedd y profiad symudedd rhyngwladol yn ffordd berffaith o gyfrannu at hwn, oherwydd iddo roi cyfle i mi astudio a byw mewn amgylchedd hollol wahanol a chysylltu’r hyn a ddysgais yn y dosbarth â sefyllfaoedd bywyd go-iawn.”
Ymgymerodd Narantsatsalt â phrosiect ymchwil ar senedd Japan a’r dosbarthiad o bŵer o dan ei chyfansoddiad yn ystod ei leoliad, a hyd yn oed wedi cael y cyfle i gwrdd â Kusama Tsuyoshi, aelod seneddol, a roddodd bersbectif uniongyrchol ar wleidyddiaeth Japan sydd wedi helpu i gysylltu damcaniaeth ag arfer byd go-iawn.

Cofleidiodd yr her ddiwylliannol o addasu i fywyd yn Japan y tu allan i’w astudiaethau. Ychwanega:
“Yr her fwyaf oedd cyfathrebu y tu allan i gampws y brifysgol. Roedd dibynnu ar Saesneg yn unig yn anodd, felly sylwais, y dylwn i fod wedi paratoi gan ddysgu rhywfaint o Japaneaidd cyn cyrraedd. Dros amser, dysgais i ymadroddion Japaneaidd bob dydd, sydd nid yn unig wedi gwneud bywyd bob dydd yn haws, ond wedi cyfoethogi fy mhrofiad yn ogystal.”
Meddai Narantsatsralt fod ei leoliad rhyngwladol wedi cryfhau ei wybodaeth academaidd a’i hyder i ddilyn gyrfa fyd-eang.
“Yn broffesiynol, mae gennyf wybodaeth gryfach am wleidyddiaeth, economeg, a strwythurau cyfansoddiadol, sy’n cefnogi fy astudiaethau a’m gyrfa mewn datblygu rhyngwladol a gwleidyddiaeth fyd-eang yn y dyfodol yn uniongyrchol. Yn bersonol, mae’r profiad wedi ehangu fy ngolwg ar y byd, rhoi persbectif newydd i fi ar fywyd, diwylliant a phobl, ac mae Japan wedi cyffwrdd â’m calon.”
Ar ôl gorffen ei gwrs, mae Narantsatsralt yn bwriadu dilyn gyrfa mewn datblygu rhyngwladol a gwleidyddiaeth fyd-eang, gan gymhwyso’r mewnwelediad a’r addasrwydd mae wedi eu caffael yn ystod ei amser dramor.
Meddai Kath Griffiths, Rheolwr Rhanbarthol Rhyngwladol, Gogledd America a Symudedd Allanol.
“Rydym yn falch iawn o weld datblygiadau pellach gyda’r Adran Cysylltiadau Rhyng-ddiwylliannol ym Mhrifysgol Rikkyo. Mae’n wych gweld yr adran yn parhau i feithrin cyfleoedd ymgysylltu byd-eang ystyrlon – yr haf hwn, maent wedi croesawu myfyrwyr MBA a Pheirianneg ar gyfer ymweliad astudio a drefnwyd gan Marie Pitson. Mae cydweithrediadau fel y rhain yn cryfhau dealltwriaeth draws-ddisgyblaethol ac yn tynnu sylw at werth cyfnewid rhyng-ddiwylliannol yn y byd rhyng-gysylltiedig heddiw.
Yn ogystal, rydym yn falch o gael dau fyfyriwr o Brifysgol Rikkyo sy’n astudio gyda ni yn PCYDDS ar hyn o bryd, gan ddyfnhau’r bartneriaeth rhwng ein sefydliadau ymhellach.”
Mae Narantsatsralt yn argymell cyfleoedd rhyngwladol PCYDDS i fyfyrwyr eraill yn llwyr.
“Mae’r rhaglenni hyn yn rhoi cyfle unigryw i chi brofi gwahanol systemau a diwylliannau o lygad y ffynnon. Mae’n sylfaen amhrisiadwy ar gyfer twf academaidd a phersonol.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476