Skip page header and navigation

Mae myfyriwr ail flwyddyn Peirianneg Beiciau Modur, Harry Rogers eisoes yn gwneud ei farc ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) gyda phrosiect sy’n cyfuno peirianneg fanwl, perfformiad chwaraeon moduro a dysgu cydweithredol. 

A student sitting in a workshop surrounded by engineering parts.

Gan weithio ochr yn ochr ag Ian Henshaw, arddangoswr technegol beiciau modur a thimau Lee Pratt o Academi Sgiliau Gweithgynhyrchu Uwch, mae Harry wedi dylunio a chynhyrchu cydosodiad pen llywio wedi’i deilwra ar gyfer beic modur rasio Honda NSF250R - arloesedd sy’n trawsnewid potensial trin y peiriant. 

Mae’r rhan Honda wreiddiol yn gydran gast na ellir ei haddasu.  Mae’r fersiwn sydd wedi’i hailgynllunio gan Harry, fodd bynnag, yn galluogi geometreg y beic i gael ei fireinio ar gyfer perfformiad rasio.  Mae hyn yn caniatáu i feicwyr modur a pheirianwyr addasu ymateboldeb y peiriant ar gyfer traciau ac amodau gwahanol – mantais fawr mewn chwaraeon moduro cystadleuol. 

Mae’r prosiect wedi bod yn adeiladwaith peirianneg cyflawn o’r dechrau i’r diwedd:

  • Clampiau triphlyg wedi’u melino o alwminiwm 6082
  • Coesyn llywio wedi’i droi o alwminiwm 7075
  • Wedi’i beiriannu’n fanwl gywir yn gyfan gwbl yn fewnol yn PCYDDS

    Dywedodd Harry: “Mae gweithio ar y prosiect hwn wedi bod yn brofiad gwych. Mae mynd â syniad o’r dyluniad hyd at y peiriannu a’r cydosod wedi rhoi cipolwg gwirioneddol i mi ar sut beth yw gweithio fel peiriannydd dylunio mewn chwaraeon moduro. Drwy gydol y prosiect, rydw i wedi ennill profiad ar draws sawl maes peirianneg, gan gynnwys defnyddio meddalwedd CAD/CAM, dadansoddi elfennau meidraidd, ac egwyddorion peiriannu, i enwi ond rhai. Rydw i wedi dysgu cymaint gan y tîm MADE+, ac mae’n hynod gyffrous gweld fy ngwaith yn cael ei ddefnyddio ar feic rasio MotoEng NSF250R.”

Mae gwaith Harry yn enghraifft o ethos tîm MADE+ y Brifysgol, sy’n hyrwyddo cydweithredu a dysgu trawsddisgyblaethol.  Gweithiodd myfyrwyr, academyddion ac arbenigwyr y diwydiant gyda’i gilydd i gyfuno dyluniad uwch gyda sgiliau gweithdy ymarferol, gan sicrhau bod y cynnyrch terfynol yn bodloni safonau uchel gymwysiadau rasio. 

Wrth adfyfyrio ar y cyflawniad, canmolodd staff broffesiynoldeb a sylw Harry i fanylion, gan nodi bod ei gyfraniad eisoes wedi denu cydnabyddiaeth o fewn cymuned y brifysgol. 

Dywedodd Ian Henshaw: “Mae cydweithrediad parhaus rhwng y myfyrwyr peirianneg a’r cyfleusterau cynhyrchu sydd wedi’u lleoli ar gampws IQ yn hanfodol. Mae’n dda i’r myfyrwyr weld eu syniadau’n mynd o ddyluniadau digidol ac efelychiadau meddalwedd i eitemau wedi’u hargraffu 3D, ond mae cael rhannau gorffenedig wedi’u cynhyrchu i oddefgarwch a’u profi o fewn timau Chwaraeon Moduro’r Brifysgol Drindod Dewi Sant yn hanfodol i ddatblygiad ein peirianwyr yn y dyfodol. Mae’n helpu ein graddedigion i gael rhywbeth sy’n eu gwahaniaethu wrth symud i’r diwydiant.”

Meddai Dr Mark Cocks, Deon Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf y Brifysgol: 

“Mae prosiect Harri yn enghraifft wych o’r math o arloesedd yn y byd go iawn y mae ein myfyrwyr yn gallu eu cyflawni.  Drwy gymryd cydran rasio a’i hail-beiriannu ar gyfer hyblygrwydd a pherfformiad, mae wedi dangos nid yn unig sgil technegol, ond hefyd y gallu creadigrwydd a datrys problemau y mae chwaraeon moduro yn gofyn amdanynt. 

Gyda chyfleusterau arbenigol, addysgu sy’n canolbwyntio ar ddiwydiant, a chyfleoedd i fyfyrwyr weithio ar heriau peirianneg byw, mae gradd Peirianneg Rasio Modur PCYDDS yn parhau i ddarparu’r llwyfan perffaith i beirianwyr uchelgeisiol fel Harry droi angerdd yn arfer. 


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon