Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr o gwrs Addysg Awyr Agored Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi cydweithio â Gwasanaeth Cymdeithas Cyswllt Cymunedol Cymdeithas Strôc Sir Gâr i greu diwrnodau gweithgaredd a gweithdai gyda’r nod o gefnogi goroeswyr strôc ar eu taith adsefydlu. 

Stroke survivor taking part in planting a tree with staff and students from the UWTSD Outdoor Education course

Dechreuodd y cydweithrediad hwn gan fenter Hwb Iechyd a Lles Werdd Cynefin Sir Gâr a gefnogir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, sy’n meithrin partneriaethau arloesol i wella profiadau myfyrwyr a rhoi budd i’r gymuned. 

Ffurfiwyd y bartneriaeth yn gyntaf pan ymwelodd cynrychiolwyr o’r Gymdeithas Strôc fel siaradwyr gwadd ar fodwl ‘Safbwyntiau ar Addysg Awyr Agored’ PCYDDS.  Roedd eu cyfranogiad wedi ysbrydoli myfyrwyr i ddatblygu a chyflwyno gweithgareddau awyr agored wedi’u teilwra i grwpiau penodol, gan gynnwys goroeswyr strôc – gan gyd-fynd â dull dysgu ymarferol y modwl.

Gan weithio mewn timau, dyluniodd, cynlluniodd a hwylusodd y myfyrwyr amrywiaeth o weithgareddau seiliedig ar natur, gan sicrhau eu bod yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn addasadwy.  Dewiswyd y gweithdai, a oedd yn cynnwys plannu coed, gwneud ymborthwyr adar a gwehyddu helyg, yn ofalus am eu buddion therapiwtig, gan hyrwyddo llesiant corfforol a meddyliol. 

Meddai Carla Williams, Cydlynydd Cyswllt Cymunedol y Gymdeithas Strôc: 

“Dyluniwyd Gwasanaeth Cyswllt Cymunedol Cymdeithas Strôc Sir Gâr i fynd i’r afael ag ynysiad a’r dirywiad mewn iechyd meddwl ymhlith goroeswyr strôc drwy feithrin cymunedau sy’n gyfeillgar i oroeswyr strôc. Mae cydweithio â PCYDDS wedi rhoi cyfle gwerthfawr i ni godi ymwybyddiaeth am strôc a’i heffaith gyda chynulleidfa na fyddwn fel arfer yn ei chyrraedd. 

Roedd y myfyrwyr yn barod i dderbyn cyngor, yn awyddus i ddysgu ac yn awyddus i greu gweithgareddau a oedd yn wirioneddol gynhwysol. Roedd y profiad yn fuddiol i bawb a oedd yn rhan ohono – cafodd goroeswyr strôc gymorth cymheiriaid a chymerant ran mewn gweithgareddau a oedd wedi hyrwyddo eu llesiant, tra bod myfyrwyr wedi datblygu sgiliau proffesiynol hanfodol fel addysgwyr awyr agored y dyfodol.”

Anne Cole, a stroke survivor taking part in the activities

Meddai Ann Coles, goroeswr strôc a fynychodd y gweithdy:

“Rwy’n dwlu arno fe. Am le braf i fod! Roedd y myfyrwyr yn deall fy anghenion, ac roedden nhw wedi edrych ar fy ôl drwy addasu’r dasg i mi.  Roedden nhw’n frwdfrydig iawn ac yn barod i helpu.  

“Garddio yw fy angerdd, ac mae’r digwyddiad hwn yn gwneud i mi fod eisiau dod allan o’r tŷ.  Yn aml, mae strôc yn gwneud i chi deimlo eich bod yn cau eich hun oddi wrth bawb, ond roedd hyn yn gwneud i mi deimlo’n rhan o gymdeithas eto, gan fy mod yn fy lle hapus.”

Ychwanegodd Carla: 

“Roedd y myfyrwyr wedi ein croesawu ac roeddent yn awyddus i ddysgu am strôc. Roedd yn hyfryd gweld bod pobl ifanc am wneud rhywbeth i helpu gyda llesiant goroeswyr strôc.  Daeth y myfyrwyr yn ymwybodol iawn o risgiau strôc, sut i atal strôc a beth i edrych amdano os oedd rhywun yn cael strôc gan gynnwys y prawf FAST. Roeddent wedi prosesu’r wybodaeth a roddwyd ac yna’n meddwl am ddewisiadau amgen a’r addasiadau y gallent eu gwneud i sicrhau bod rhywbeth i bawb.”

Yn ogystal, roedd y fenter wedi darparu profiadau dysgu gwerthfawr i’r myfyrwyr.  Wrth fyfyrio ar y prosiect yn eu hadroddiadau asesu terfynol, dangosant y sgiliau proffesiynol hanfodol sydd eu hangen iddynt esblygu fel addysgwyr awyr agored. 

Meddai’r myfyriwr Sean Donovan: 

“Roedd cynnal sesiynau gweithgaredd gyda’r Gymdeithas Strôc wedi dangos i ni sut mae’r awyr agored yn gallu dod â phobl at ei gilydd, darparu rhyddhad a chreu cysylltiadau ystyrlon.  Dysgom am bwysigrwydd cynllunio hyblyg – rhoi cyfrif am alluoedd cyfranogwyr, nifer y bobl mewn digwyddiad a’r tywydd - gan sicrhau cyfathrebu clir a hygyrchedd i bawb.  Roedd y profiad hwn wedi ehangu ein safbwyntiau ar waith yn y trydydd sector a rôl natur mewn llesiant cymdeithasol.  Yn ogystal, mae wedi dyfnhau ein hymwybyddiaeth o hygyrchedd mewn darpariaeth awyr agored a sut y gall profiadau awyr agored effeithio’n gadarnhaol ar bobl nad ydynt efallai wedi’u gwneud o’r blaen.  Mae gweld y buddion ein hunain wedi ein hysbrydoli i archwilio gyrfaoedd sy’n defnyddio’r awyr agored ar gyfer newid cymdeithasol, gan hefyd gryfhau ein sgiliau arweinyddiaeth, hwyluso a chysylltiadau cymunedol.”

Meddai Mache Treviño, Darlithydd Addysg Awyr Agored PCYDDS: 

“Mae’r cydweithrediad hwn yn ymgorffori cenhadaeth y Brifysgol o drawsnewid addysg a thrawsnewid bywydau, ac mae hefyd yn ystyrlon iawn i Wasanaeth Cyswllt Cymunedol Cymdeithas Strôc Sir Gâr.  Rydym eisoes yn archwilio mwy o brosiectau ar y cyd lle gallwn barhau i greu tonnau o effaith gadarnhaol i fyfyrwyr, goreswyr strôc a’r gymuned gyfan. 

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Addysg Antur Awyr Agored yn PCYDDS, ewch i: Addysg Awyr Agored (Llawn Amser) Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar gyfer y cwrs israddedig a Addysg Awyr Agored (Rhan-Amser) Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant   ar gyfer y cwrs ôl-raddedig


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon