Skip page header and navigation

Mae dau fyfyriwr o raglen BA (Anrh) Dylunio Graffig Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol, gan ennill Gwobrau Arian yng ngwobrau mawreddog Creative Conscience 2025. Mae’r gystadleuaeth, sy’n dathlu creadigrwydd ar gyfer newid cymdeithasol ac amgylcheddol, yn denu ceisiadau o bob cwr o’r byd, gan wneud y llwyddiant dwbl hwn yn gyflawniad eithriadol i’r myfyrwyr a’r brifysgol.

A mono image of a student holding a book, featured on a poster with text overlaid.

Mae Dafydd Wilson wedi ennill gwobr Arian mewn Dylunio Graffig o dan y thema Cydraddoldeb + Hygyrchedd. Mae ei brosiect hyfryd yn archwilio profiadau defnyddwyr prosesydd cochleaidd, gan fyfyrio’n feddylgar ar y trawsnewidiadau rhwng eu gwisgo a’u tynnu. Mae Dafydd, sydd bellach yn symud ymlaen i radd meistr mewn dylunio graffig yn PCYDDS, wedi dangos creadigrwydd a gwytnwch rhagorol ac ymrwymiad dwfn i ddylunio gyda phwrpas. Mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth addas o’i dalent a’i ymroddiad.

Meddai Dafydd Wilson: “Wrth brofi’r byd fel Dylunydd Byddar â mewnblaniad cochleaidd, dechreuais feddwl sut y byddai fy ngolwg ar y byd yn newid, tybed, heb fy mhrosesyddion. Beth fyddwn i’n sylwi arno heb sain? A yw fy nehongliad yn newid gyda sain?

“Mae’r llyfr hwn yn gynrychiolaeth artistig o sut rwy’n profi’r byd, wedi’i archwilio’n benodol trwy’r cysyniad o ‘Ymlaen’ ac ‘I ffwrdd.’ Ei nod yw dangos nad yw anabledd yn rhwystr i greadigrwydd.”

Mae Svitlana Ulianych hefyd wedi ennill gwobr Arian mewn Dylunio Graffig, o dan y thema Rhyfel ac Argyfwng. A hithau ar ei hail flwyddyn yn unig, mae Svitlana eisoes wedi sefydlu ei hun fel dylunydd y mae galw mawr am ei gwaith yn y diwydiant. Mae ei phrosiect arobryn, a ddatblygwyd fel rhan o’r  modwl Empathi mewn Dylunio, yn llawn ystyr ac emosiwn, gan ysbrydoli dealltwriaeth a diolchgarwch. Ar ôl cyrraedd y Deyrnas Unedig o Wcráin, mae ei dewrder a’i hangerdd yn disgleirio ym mhob agwedd ar ei gwaith.

Meddai Svitlana Ulianych: “Mae The Ukrainian Primer yn llyfr gweledol sy’n archwilio profiadau byw rhwng ffoaduriaid o Wcráin a lletywyr Prydeinig yn Abertawe. Yn seiliedig ar straeon go iawn ac ymchwil leol, mae’n cyflwyno 33 taeniad. Mae llinyn coch yn gweu trwy’r llyfr a’r canlyniad terfynol yw llyfr cysyniadol gorffenedig sy’n adlewyrchu empathi y tu hwnt i iaith.”

Meddai Donna Williams, Rheolwr Rhaglen ar gyfer BA (Anrh) Dylunio Graffig: “ “Rydym yn hynod falch o Dafydd a Svitlana am eu llwyddiant yng Ngwobrau Creative Conscience. Mae eu gwaith yn dangos pŵer dylunio i herio canfyddiadau, meithrin empathi, a chyflawni newid cadarnhaol. Mae’r ddau wedi dangos nid yn unig sgiliau dylunio eithriadol, ond hefyd dewrder, angerdd, a gofal dwfn dros eraill. Mae’r gwobrau hyn yn dyst i’w talent, eu gwytnwch a’u hymrwymiad i greadigrwydd ystyrlon.”

Meddai Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Celf a’r Cyfryngau: “Mae’r gwobrau hyn yn tynnu sylw at dalent eithriadol ac ymwybyddiaeth gymdeithasol ein myfyrwyr. Mae  Dafydd a Svitlana wedi defnyddio dylunio fel offeryn ar gyfer adrodd straeon a chysylltu, gan fynd i’r afael â materion hynod bersonol a byd-eang gyda sensitifrwydd a chreadigrwydd. Mae eu llwyddiant yn Creative Conscience yn adlewyrchiad nid yn unig o’u gwaith caled, ond hefyd o’r gwerthoedd rydyn ni’n eu meithrin o fewn ein cymuned gelf a chyfryngau - lle mae creadigrwydd yn dod yn gatalydd ar gyfer empathi a newid.”

An open book illustrated with quotes and stories.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon