Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr o gyrsiau BA Actio a BA Dylunio a Chynhyrchu Setiau ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych ymlaen at berfformio eu cynhyrchiad llwyfan o Blood Wedding.

A Poster of the Blood Wedding Production

Fe’i cynhelir yn y Llwyfan ar gampws PCYDDS yng Nghaerfyrddin, gyda pherfformiadau ar 21, 22, 28 a 29 Tachwedd.

Wedi’i gyfarwyddo gan Duncan Hallis, mae’r dehongliad beiddgar hwn o drasiedi glasurol Federico García Lorca yn archwilio themâu cariad, tynged ac anrhydedd teuluol trwy berfformiad gweledol cyfoethog ac emosiynol. Dywedodd:

“Mae wedi bod yn gyffrous iawn gweithio gyda chwmni o fyfyrwyr mor weithgar ac ymroddedig, sydd mor barod i gamu allan o’u hardaloedd cysurus i ddatblygu eu sgiliau a’u hymarfer. 

“Gyda thestun sydd wedi’i gynhyrchu a’i addasu gymaint o weithiau, gall fod yn anodd dod o hyd i onglau newydd, ond mae’r tîm hwn wedi aros yn chwilfrydig ac yn frwdfrydig i roi cyflwyniad chwareus a rhyfeddol o drasiedi chwedlonol Lorca.”

Wedi’i osod yn erbyn cefndir dathliad priodas,  mae Blood Wedding yn gwahodd y gynulleidfa i weld ffrwydrad trasig Lorca o gariad, casineb a dial. Wrth i ffrindiau a theulu ymgynnull i ddathlu’r cwpl hapus, maent yn cael eu tynnu i fyd lle mae angerdd yn gwrthdaro â dyletswydd, ac mae’n rhaid iddynt wynebu cwestiwn dychrynllyd: Beth sy’n digwydd pan fydd cariad yn herio strwythurau teulu, dosbarth a thraddodiad cymdeithasol?

Mae’r addasiad newydd hwn yn ddychanol, yn swreal ac yn syndod o beth, gan gyfuno adrodd straeon traddodiadol ag elfennau theatrig modern. Gall cynulleidfaoedd ddisgwyl profiad trochol, lle mae’r llinell rhwng gwestai a gwyliwr yn aneglur, gyda golygfeydd yn datblygu o’u cwmpas. Bydd aelodau’r gynulleidfa yn eistedd ac yn sefyll ar wahanol adegau yn ystod y perfformiad, er y bydd cadeiriau ar gael os oes angen. 

Mae myfyrwyr wedi bod yn gweithio ar y cynhyrchiad fel rhan o’u prosiect mawr. Mae’r cyfle hwn yn siawns i’r myfyrwyr gael blas ar sut beth yw gweithio yn y diwydiant theatr trwy weithio gyda myfyrwyr creadigol eraill y tu allan i’w cwrs, arddangos eu sgiliau galwedigaethol, rhwydweithio a chreu argraff o flaen gweithwyr proffesiynol y diwydiant.

Mae’r cynhyrchiad hwn yn tynnu sylw at ddoniau eithriadol myfyrwyr Actio PCYDDS, a fydd yn dod â hiwmor, dwyster a dyfnder i’r llwyfan, ochr yn ochr â’r  tîm Dylunio a Chynhyrchu Setiau, y bydd eu dyluniad trochol yn gwneud i’r gynulleidfa deimlo eu bod yn westeion yn y briodas. 

I Ashley Knibbs, myfyriwr Dylunio a Chynhyrchu Setiau o’r drydedd flwyddyn: 

“Mae cael y cyfle i weithio fel Rheolwr Llwyfan ochr yn ochr â chyfarwyddwr proffesiynol wedi bod yn uchafbwynt o fy mhrofiad yn y Brifysgol. Yn bendant nid oedd hon yn rôl roeddwn i’n disgwyl ei fwynhau cymaint a wnes i, ond mae wir wedi helpu i ehangu fy nealltwriaeth o fy nghyfleoedd gyrfa, yn ogystal a chodi fy hunan hyder. Mae Blood Wedding yn sgript mor unigryw, ac mae cael gweithio mor agos gyda’r actorion a’r cyfarwyddwr wedi gwneud pob dydd yn gyffrous iawn.”

Dywedodd Lynne Seymour, Cyfarwyddwr Academaidd PCYDDS ar gyfer y Diwydiannau Dylunio a Pherfformio:

Mae wedi bod yn bleser gwylio ein myfyrwyr blwyddyn olaf Actio a Dylunio a Chynhyrchu Setiau yn dod â Blood Wedding gan Lorca yn fyw trwy ddull mor uchelgeisiol a throchol. Y prosiect hwn yw cynhyrchiad cyntaf blwyddyn olaf eu hyfforddiant ac mae’n dathlu eu creadigrwydd, eu cydweithrediad a’u crefft. Mae gweithio o dan gyfarwyddyd y cyfarwyddwr proffesiynol Duncan Hallis wedi rhoi mewnwelediad amhrisiadwy iddynt i realiti’r diwydiant a’r broses ymarfer broffesiynol, gan eu helpu i adeiladu cysylltiadau ystyrlon a fydd yn cefnogi eu gyrfaoedd ar ôl graddio.

“Rwy’n hynod falch o’r gwaith maen nhw wedi’i gynhyrchu. Mae eu hangerdd, eu hymrwymiad a’u talent yn amlwg ym mhob elfen o’r cynhyrchiad hwn, ac mae’n wych gweld eu lleisiau artistig yn disgleirio mor bwerus. Rwy’n wirioneddol gyffrous i weld y perfformiad ac i rannu eu cyflawniadau gyda chynulleidfa ehangach.”

Gyda chyfarwyddyd deinamig, dyluniad set gweledol drawiadol, a pherfformiadau theatrig dilys, mae Blood Wedding PCYDDS yn addo bod yn brofiad i ysgogi’r meddwl a fydd yn aros yn y cof i bawb.

Dyddiadau ac Amseroedd Perfformiadau:

  • Dydd Gwener, 21 Tachwedd am 7:00 pm
  • Dydd Sadwrn, 22 Tachwedd am 2:00 pm a 7:00 pm
  • Dydd Gwener, 28 Tachwedd am 7:00 pm
  • Dydd Sadwrn, 29 Tachwedd am 2:00 pm a 7:00 pm

Cynhelir pob perfformiad yn Y Llwyfan, campws Caerfyrddin. Am fwy o fanylion, cysylltwch â Stacey Jo Atkinson: s.atkinson@uwtsd.ac.uk


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon