Skip page header and navigation

Ymgasglodd myfyrwyr o raglenni Sylfaen, Crefftau Dylunio a Chelf Gain PCYDDS yn Ystafell Ddarllen y Brifysgol yn Heol Alexandra i gychwyn ar gydweithredu calonogol ar gyfer y prosiect celf rhyngwladol CityX – Fi, Abertawe.  

A group of students visiting an exhibition with art displayed on the walls.

Dan arweiniad yr artist adnabyddus o’r Almaen Doris Graf, mae’r prosiect hwn yn gwahodd cyfranogwyr i gipio’n greadigol eu hargraffiadau o Abertawe drwy luniadu, gan ddal hanfod y ddinas fel y’i gwelir gan ei phoblogaeth amrywiol.  Cyn hir bydd adfyfyrion y myfyrwyr ar Abertawe, gan gynnwys delweddau o’r môr, Mynydd Cilfái, gwylanod, dinasweddau, a gwyrddlesni, yn cael eu trawsnewid gan Graf yn gyfres o luniadau graffig digidol i’w harddangos yr haf nesaf yn Oriel Elysium yn Abertawe. 

Mae menter CityX Doris Graf wedi teithio i 16 dinas ar draws y byd, gan hyrwyddo ffurf unigryw a rhyngweithiol ar adfyfyrio trefol artistig.  Mae gwaith Graf yn adnabyddus am gyfuno argraffiadau trigolion yn bictogramau eiconig sy’n ffurfio dinaswedd newydd gyffredin, ac mae’i gwaith yn enwog am wella cydlyniant cymdeithasol a thanio deialog gymunedol.  Gyda chymorth y Weinyddiaeth Gwyddoniaeth, Ymchwil a’r Celfyddydau yn Baden-Württemberg, Oriel Elysium, Dinas Mannheim, ac Oriel ABTART, mae pennod CityX – Fi, Abertawe yn ceisio cryfhau cysylltiadau diwylliannol rhwng yr Almaen a’r Deyrnas Gyfunol. 

Meddai Katherine Clewett, Cyfarwyddwr Rhaglen: “Diolch yn fawr iawn i Oriel Elysium am y cyfle hwn.  Mae’n wych gweld adnoddau’n cael eu rhannu ar draws ein rhaglenni a myfyrwyr yn gweithio gyda’i gilydd.  Roedd Doris yn mynd at i gyflwyno’i sesiwn ac yn llawn cyffro i gwrdd â’n myfyrwyr.  Mae’r profiad hwn yn amhrisiadwy wrth iddynt gychwyn ar eu taith greadigol.”

Nid yn unig y mae prosiect CityX yn dathlu diwylliant unigryw pob dinas sy’n cymryd rhan ond mae hefyd yn darparu fframwaith ar gyfer cyfnewid rhyngddiwylliannol.  Trwy greu arddangosyn terfynol yn seiliedig ar gyfraniadau lleol Abertawe, mae’r prosiect yn adlewyrchu pwysigrwydd cydweithredu rhyngwladol parhaus a chyfoethogi drwy amrywiaeth ddiwylliannol.  Bydd y fenter ystyrlon hon yn cychwyn yn Oriel Elysium yn Abertawe cyn teithio i Mannheim a Stuttgart yn 2025.

Mae arddangosfeydd Doris Graf yn cynnig cipolwg ar werthoedd unigol a chyffredin cymunedau trefol, gan hyrwyddo celf yn offeryn ar gyfer deall a chysylltu ar draws rhaniadau diwylliannol ac ieithyddol.  Mae’i harddangosfeydd blaenorol, gan gynnwys CityX – Yo, Habana, a gafodd ei harddangos yn Biennial de La Habana yn 2019, wedi denu clod rhyngwladol am eu gallu i ennyn hunaniaeth ddinasol gyffredin gan feithrin ymdeimlad o undod ymhlith trigolion. 


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon