Myfyrwyr PCYDDS yn rhannu’r llwyfan gyda Will Smith mewn Cyngerdd yng Nghastell Caerdydd.
Cafodd myfyrwyr o Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru (WAVDA) Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) gyfle bythgofiadwy i berfformio wrth ochr un o eiconau Hollywood, Will Smith, yn ystod ei gyngerdd yng Nghastell Caerdydd.

Yn ystod ei berfformiad o’i gân eiconig ‘Men in Black’ – fe wnaeth 9 o fyfyrwyr Dawns Fasnachol a Theatr Gerddorol WAVDA ymuno ag ef ar y llwyfan fel dawnswyr cefndir. Yn eu plith yr oedd Cas Alleyne, myfyriwr BA Dawns Fasnachol, a ddywedodd:
“Uchafbwynt fy nhaith ddawnsio hyd yma, yn sicr. I ddawnsio ar gyfer rhywun sydd wedi bod yn fodel rôl enfawr i mi ac i eraill yn y gymuned Ddu ers blynyddoedd, roedd yn brofiad hynod swreal ond gwerth chweil. Mae Will yn wirioneddol garedig a siriol. Byddwn 1000% yn ei wneud eto!”
Daeth y cyfle ar ôl i Justin Sparkes, darlithydd gwadd o J1 Studios, wahodd y myfyrwyr i gymryd rhan.
Dywedodd Tori Johns, Arweinydd Adran ar gyfer Dawns a Chyfarwyddwr Rhaglen, BA (Anrh) Theatr Gerddorol:
“Roedd yn brofiad bythgofiadwy i’n myfyrwyr BA (Anrh) Theatr Gerddorol a BA (Anrh) Dawns Fasnachol rannu’r llwyfan gyda Will Smith. Mae cyfleoedd fel hyn yn hynod o brin ac yn rhoi gwir flas i’n myfyrwyr o’r diwydiant proffesiynol ar y lefel uchaf. Rydym mor falch o’u proffesiynoldeb, eu talent, a’r ffordd y gwnaethant gynrychioli PCYDDS ar blatfform byd-eang fel hwn.”
Meddai Lee McCallion, Rheolwr Rhaglen ar gyfer y cwrs BA Dawns Fasnachol:
“Yn Rheolwr Rhaglen ar gyfer BA (Anrh) Dawns Fasnachol, rwy’n hynod falch o’r proffesiynoldeb y mae ein myfyrwyr yn ei ddangos ym mhob cyfle perfformio. Mae eu hymroddiad i hyfforddi, wedi’i gyfuno â brwdfrydedd dros berfformio, wir yn eu paratoi ar gyfer galwadau’r diwydiant, yn aml wedi’u hwyluso gan ein darlithwyr gwadd, megis Justin Sparkes, sydd i gyd yn weithwyr proffesiynol sydd wedi hen ennill eu plwyf yn eu meysydd. Mae’n fraint gwylio ein myfyrwyr yn tyfu’n weithwyr proffesiynol hyderus sy’n barod am y diwydiant!”
Meddai Angharad Lee, Rheolwr Rhaglen ar gyfer BA Perfformio a BA Theatr Gerddorol:
“Mae sicrhau bod ein myfyrwyr yn barod am y diwydiant yn ganolog i bopeth a wnawn. Mae ein tiwtoriaid/darlithwyr yn weithwyr proffesiynol yn eu maes, ac mae gweithio ochr yn ochr â gweithwyr llawrydd yn sicrhau bod ein holl fyfyrwyr a’n cyrsiau’n aros ar flaen y gad o ran sgiliau a chyfleoedd perfformio. Mae gweld ein myfyrwyr yn dal eu tir ar y llwyfan yn rhoi pleser mawr i ni i gyd a gobeithio ei fod yn sbardun i’r myfyrwyr hynny anelu mor uchel ag y gallant a chredu yn eu hunain ychydig yn fwy.”
Dywedodd Deon Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru PCYDDS, Dr Mark Cocks:
“I fyfyrwyr Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru PCYDDS, mae sefyll ar y llwyfan wrth ochr Will Smith yng Nghastell Caerdydd yn fwy na pherfformiad – mae’n eiliad o ysbrydoliaeth, yn brawf y gall eu dawn a’u hymroddiad ddisgleirio ar lwyfan y byd. Mae’n neges i’w hatgoffa bod ganddynt y grym i arddangos eu gwaith caled a’u hangerdd ymhell y tu hwnt i Gymru.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476