Myfyrwyr Pensaernïaeth Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Cefnogi Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Lunio Dyfodol Parciau Abertawe
Mae myfyrwyr pensaernïaeth Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn helpu trigolion Abertawe i ddweud eu dweud ar ddyfodol parciau’r ddinas. Fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus mawr, cefnogodd myfyrwyr ddigwyddiad ymgysylltu cymunedol yn Siop Wybodaeth Un Stop Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar 3 Tachwedd, gan gasglu mewnwelediadau gwerthfawr i lunio gweledigaeth newydd feiddgar ar gyfer mannau gwyrdd Abertawe.
Mae Cyngor Abertawe wedi comisiynu Counterculture i ddatblygu Strategaeth Datblygu Parciau newydd, gan nodi cynlluniau tymor byr, canolig a hir i wella parciau a gwneud y mwyaf o’u rôl ym mywyd beunyddiol. Drwy gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, cafodd y myfyrwyr brofiad ymarferol o gysylltu â’r cyhoedd a deall sut mae penderfyniadau cynllunio yn y byd go iawn yn cael eu gwneud.
Dywedodd Ian Standen, Uwch Ddarlithydd a Chyfarwyddwr Rhaglen Pensaernïaeth: “Mae gweld ein myfyrwyr yn rhoi eu sgiliau datblygol ar waith mewn amgylchedd ymgynghori byw yn hynod bwerus. Maent yn dysgu gwerth gwrando, sut mae sgyrsiau’n dylanwadu ar benderfyniadau dylunio a sut y gall pensaernïaeth wella bywydau pobl yn ystyrlon. Rydym yn falch o gefnogi prosiect sy’n cryfhau parciau Abertawe a thwf proffesiynol ein myfyrwyr.”
Siaradodd myfyrwyr hefyd am werth ennill profiad uniongyrchol mewn ymgysylltu cymunedol.
“Fel gweithgaredd, roedd yn hynod ddefnyddiol gweld sut mae casglu data yn gweithio wrth ymgysylltu â phobl wyneb yn wyneb a deall beth sydd ei angen arnynt trwy sgyrsiau a’i drosi’n ddata tablau,” meddai Helena Cuciureanu, Myfyriwr Pensaernïaeth Blwyddyn 3.
Gweledigaeth Cyngor Abertawe yw creu strategaeth sy’n gwella seilwaith parciau wrth gryfhau cyfleoedd ar gyfer hamdden a chwarae, twristiaeth, bioamrywiaeth ac adferiad natur, ymgysylltu cymunedol, cynhwysiant, hunaniaeth ddiwylliannol, ac iechyd a lles.
Er mwyn sicrhau bod y strategaeth yn adlewyrchu anghenion a dyheadau pawb, anogir trigolion a busnesau i gymryd rhan yn yr arolwg cyhoeddus cyn iddo gau ddydd Sul, 23 Tachwedd am 23:59.
Bydd canlyniadau’r arolwg, ynghyd ag adborth o’r digwyddiad yn yr amgueddfa, yn llywio’n uniongyrchol sut mae parciau Abertawe’n datblygu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Cyril Anderson, aelod cabinet y cyngor dros wasanaethau cymunedol: “Mae parciau a mannau agored Abertawe wrth wraidd ein cymunedau, lleoedd lle mae pobl yn dod ynghyd i ymlacio, chwarae, ymarfer corff a chysylltu â natur.
“Rydym am sicrhau bod y mannau hyn yn parhau i ddiwallu anghenion ein trigolion, nawr ac yn y dyfodol.
“Dyna pam ei bod hi’n bwysig ein bod yn clywed gan gynifer o bobl â phosibl. P’un a ydych chi’n defnyddio’ch parc lleol bob dydd neu’n achlysurol yn unig, mae eich barn yn bwysig.”
Dywedodd arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Rob Stewart: “Mae hwn yn gyfle gwych i bobl ledled Abertawe helpu i lunio gweledigaeth feiddgar a chynhwysol ar gyfer ein parciau.
“Rydym yn falch o’r mannau gwyrdd sydd gennym, ac rydym wedi ymrwymo i’w gwneud hyd yn oed yn well - yn fwy hygyrch, yn fwy cynaliadwy, ac yn fwy bywiog i bawb.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071