Myfyrwyr yn ethol PCYDDS yn 1af yng Nghymru am Ddarlithwyr, Safon y Dysgu a Chefnogaeth Myfyrwyr
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o gyhoeddi ei bod wedi cael ei gosod yn 1af yng Nghymru ar gyfer Darlithwyr ac Ansawdd Addysgu (8fed yn y DU) ac ar gyfer Cymorth i Fyfyrwyr (11eg yn y DU) yng ngwobrau Whatuni Student Choice a gyhoeddwyd neithiwr.

Gosodwyd y Brifysgol yn 2il yng Nghymru ar gyfer Cyfleusterau ac Undeb y Myfyrwyr y Brifysgol yn 3ydd a gwelwyd cynnydd arbennig o 62 safle i 26ain yn gyffredinol yn y DU ac yn 2il yng Nghymru.
Mae’r gydnabyddiaeth hon yn tanlinellu ymrwymiad cryf y brifysgol i gyflwyno addysgu eithriadol a meithrin amgylchedd academaidd cyfoethog i’w myfyrwyr.
Mae’r WUSCAs yn unigryw yn y sector addysg uwch, gan eu bod wedi’u seilio’n gyfan gwbl ar adolygiadau myfyrwyr, gan adlewyrchu profiadau gwirioneddol myfyrwyr ledled y DU.
Dywedodd yr Athro Elwen Evans, CB, Is-Ganghellor: “Mae hwn yn ganlyniad ardderchog sy’n adlewyrchiad uniongyrchol o adborth myfyrwyr. Mae’r Brifysgol wedi cyflawni canlyniadau da ar draws ystod o gategorïau sy’n adlewyrchu ansawdd y profiad myfyrwyr yr ydym i gyd yn ei ddarparu. Llongyfarchiadau a diolch i bawb am eu gwaith parhaus wrth gefnogi ein myfyrwyr.”
Gwybodaeth Bellach
Eleri Beynon
Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk
Ffôn: 01267 676790