Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr trydedd flwyddyn BA Gwneud Ffilmiau Antur ar gampws Caerfyrddin, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi dechrau prosiect cydweithredu cyffrous â’r gwneuthurwr camerâu enwog Nikon fel rhan o’u modwl Prosiect Cleientiaid. 

a group of students taking part in a workshop outside yr Egin

Y cwrs BA Gwneud Ffilmiau Antur yw’r unig radd israddedig o’i fath yn y DU ac mae’n herio myfyrwyr i wthio ffiniau creadigol a thechnegol.  Yn y prosiect diweddaraf, cafodd y myfyrwyr y dasg o gynhyrchu ffilmiau hyrwyddo byr gan arddangos technoleg camera ddiweddaraf Nikon.  Cymerodd y myfyrwyr ran mewn gweithdy a arweiniwyd gan gynrychiolwyr Nikon a’r gwneuthurwr ffilm llawrydd Bruno Murari fel rhan o’r cydweithredu. Gweithiodd gyda chamerâu di-drych mownt Z, gan gynnwys y Z9, Zf a hyd yn oed lens sinema fwyaf newydd Nikon - nad oedd wedi’i ryddhau i’r cyhoedd ar y pryd. 

Arweiniodd Pennaeth Addysg Nikon, Maja Zwolinska ac Arbenigwr B2B ac Offer, Peter Alderson y myfyrwyr drwy bosibiliadau technegol a chreadigol yr offer wrth iddynt ffilmio dilyniannau llawn antur gan gynnwys hyfforddiant ffitrwydd a sglefrfyrddio ar y campws. 

Meddai Maja Zwolinska o Nikon: 

“Cawsom amser gwych yn treulio’r diwrnod gyda grŵp o fyfyrwyr dawnus ac angerddol, gan roi’r cyfle iddynt archwilio offer Nikon a chymryd rhan mewn gweithdai ymarferol. Roedd yn ysbrydoledig cysylltu â nhw, clywed eu barn am y diwydiant, a dysgu mwy am eu dulliau creadigol.

“Fel rhan o’r cydweithio hwn, fe wnaethom gyflwyno briff creadigol y mae’r myfyrwyr yn gweithio arno ar hyn o bryd, ac mae wedi bod yn hynod werth chweil eu cefnogi o’r cychwyn cyntaf ar eu taith. Mae eu brwdfrydedd a’u hymrwymiad wedi bod yn wirioneddol drawiadol, ac edrychwn ymlaen at weld canlyniadau eu gwaith caled.

“Mae’r bartneriaeth hon yn nodi cam pwysig yn ein hymroddiad parhaus i feithrin talent sy’n dod i’r amlwg a meithrin creadigrwydd. Rydym yn gyffrous i barhau i adeiladu’r berthynas hon drwy gynnig cymorth a chyfleoedd ystyrlon i fyfyrwyr yn y dyfodol.”

a shot of a student in the air

Roedd y myfyrwyr wedi ymgysylltu’n uniongyrchol â thîm marchnata Nikon yn ystod y broses gynhyrchu, gan gynnig eu cysyniadau ffilm a derbyn adborth proffesiynol gwerthfawr.  Mae benthyciad hael Nikon o werth tua £15,000 o offer camera wedi chwarae rhan allweddol wrth alluogi cynyrchiadau o safon uchel. 

Bydd y cydweithredu yn dod i ben gyda dangosiad o’r ffilmiau gorffenedig yn ystod Calon y Daith, arddangosfa ddiwedd blwyddyn flynyddol y cwrs, a gynhelir yn yr Egin ar 15 Mai.  Unwaith eto, bydd Nikon yn darparu adborth ar y gwaith gorffenedig. 

Ychwanegodd myfyriwr Gwneud Ffilmiau Antur, Dan Phillips am y profiad: 

“Mae gweithio gyda Nikon ar y gweithdy ac yn ystod y modwl hwn wedi bod yn brofiad gwych – nid yn unig wrth gysylltu â phobl o’r brand ond hefyd cael y cyfle i ddefnyddio ystod lawn o’u hoffer, gan gynnwys rhai camerâu a lensys o’r radd flaenaf a rhai a ryddhawyd yn ddiweddar.  Roedd yn gyfle gwerthfawr i ddatblygu ein sgiliau a chael mewnwelediad i’r diwydiant.  Rwy’n ddiolchgar iawn i Brett a’r brifysgol am ei drefnu.”

Dywedodd Rheolwr Rhaglen Gwneud Ffilmiau Antur, Dr Brett Aggersberg:  

“Mae’n gyfle anhygoel i’r myfyrwyr roi eu sgiliau a’u gwybodaeth ar waith gyda chwmni mawr.   Mae cydweithio â brand fel Nikon sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol yn brofiad unigryw ac arbennig.  Yna, roedd cael adborth a chanmoliaeth mor uchel am eu syniadau, wedi’i wneud yn brofiad sy’n anodd cael ar gyrsiau eraill.  Mae gennym lawer o hyder y bydd ein myfyrwyr yn cyflawni pethau gwych yn y diwydiant unigryw hwn, ac mae cyfleoedd fel hyn yn helpu i’w gyrru tuag ato ar gyfradd gyflymach.”

Am ragor o wybodaeth am gwrs Gwneud Ffilmiau Antur PCYDDS, ewch i: Gwneud Ffilmiau Antur (Llawn Amser) | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

a student portrait of another student in the air jumping

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon