Skip page header and navigation

Ni allai Ricky Cooper erioed ddychmygu y byddai anaf i’w asgwrn cefn yn newid cwrs ei fywyd,  nac yn arwain ato gael gradd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS). Yn gyn-saer ac yn weithiwr gofal i’r GIG, bu’n rhaid i Ricky wynebu dyfodol hollol wahanol ar ôl ei ddamwain. Ond trodd y sioc gychwynnol yn foment dyngedfennol, gan sbarduno taith o adferiad, hunanddarganfod ac uchelgais newydd. Bellach yn dad balch ac yn raddedig o radd BA mewn Cymdeithaseg gydag Eiriolaeth, mae Ricky yn benderfynol o ddefnyddio’i brofiadau i greu newid cadarnhaol yn y system cyfiawnder troseddol.

Image of Ricky Cooper in his cap and gown

Ar ôl cysylltu i archwilio ei opsiynau yn PCYDDS, yr ymateb cynnes ac uniongyrchol gan y darlithydd Ken Dicks a ddarbwyllodd Ricky i ddewis y cwrs Cymdeithaseg ac Eiriolaeth.  Meddai: 

“Agwedd agored a gonest Ken at y cwrs gradd a’r hyn oedd e’n ei olygu a’m denodd i gadarnhau mai hwn fyddai fy opsiwn i. Fy nod i ar y pryd oedd symud i waith cymdeithasol amddiffyn plant, ond mae’r ffocws wedi symud hefyd, ac wrth i’r flwyddyn gyntaf fynd ymlaen ac i mi addasu i’r radd a ffactorau allanol eraill, dyma fy iechyd corfforol yn gwella, a newidiodd fy nod gyrfa.”

Eiliad allweddol oedd cyfarfod â’r darlithydd Laura Jenkins, a’i cyflwynodd hi i bŵer a phwrpas eiriolaeth.  Ychwanegodd: 

“Mae unrhyw un sy’n fy adnabod i yn gwybod fy mod i’n hy, yn gegog, ac yn barod am glonc dda. Mae eiriolaeth yn gweddu i mi i’r dim.”

Yn dilyn lleoliad allweddol yn gweithio gyda phobl ifanc yn ystod ei fodwl Ymarfer Adfyfyriol cafodd gadarnhad  bod eiriolaeth yn fwy na dewis addas, ei bod hi’n alwedigaeth. Gwelodd â’i lygaid ei nhun sut y gallai’r technegau yr oedd wedi’u dysgu effeithio’n gadarnhaol ar fywydau. Sbardunodd y profiad hwn, yn ogystal â’i fagwraeth yn Llundain, angerdd penodol dros gefnogi troseddwyr a phobl ifanc yn y system cyfiawnder troseddol.

Doedd hi ddim yn hawdd dychwelyd i addysg ar ôl 20 mlynedd. Meddai: 

 “Roedd llawer i’w ddysgu, strwythurau traethodau, dyddiadau cau, prosesu iaith academaidd - roedd y cyfan yn newydd i mi. Ond roedd cymorth fy narlithwyr, fy nghyd-fyfyrwyr, a gwasanaethau myfyrwyr PCYDDS  yn gefn i mi.”

Ac yntau bellach yn dad balch i Daisy pum mis oed gyda’i bartner cefnogol Tina, mae Ricky yn cymryd seibiant byr ar gyfer hunan-ofal cyn cychwyn ar ei gam nesaf: gradd meistr mewn Cyfiawnder Troseddol a’r nod hirdymor o ddod yn Eiriolwr Cyfiawnder Troseddol Annibynnol.

Meddai Rheolwr Rhaglen PCYDDS, Ken Dicks: 

 “Mae gweld gallu a hyder cynyddol Ricky wrth iddo astudio wedi bod yn ysbrydoliaeth i ni. Dyma enghraifft berffaith o rywun nad oedd efallai erioed wedi meddwl bod Addysg Uwch iddyn nhw ond sydd wedi dangos eu bod nhw’n gallu manteisio ar gyfleoedd i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth. Mae llwyddiant Ricky yn arbennig o glodwiw gan ei fod wedi gorfod cydbwyso ei astudiaethau â dod yn dad ym mlwyddyn olaf ei astudiaethau”.

Wrth fyfyrio ar ei hynt, meddai Ricky:

“Hon oedd her fwyaf a mwyaf diddorol fy mywyd - ac rwy’n hynod falch fy mod i wedi ei derbyn.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon