O Newid Gyrfa i Lwyddiant Seiber: Prentis Gradd PCYDDS yn Cael Rôl Uwch Ddadansoddwr
Mae un o raddedigion Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), Mark Williams, o’r Eglwys Newydd, Caerdydd wedi dathlu carreg filltir yrfaol bwysig ar ôl cwblhau ei BSc yn Seiberddiogelwch Cymhwysol drwy raglen Radd Brentisiaeth y brifysgol – gan sicrhau dyrchafiad i Uwch Ddadansoddwr Seiberddiogelwch.
Mae taith Mark, sydd ddim ond 30 oed, yn dyst i ddyfalbarhad a dysgu gydol oes. Ar ôl dechrau ei yrfa yn y GIG, sylwodd yn fuan ei uchelgais i adeiladu dyfodol mwy technegol a gwerth chweil.
“Ar ôl ychydig o flynyddoedd yn gweithio gyda chofnodion meddygol ym Mhrifysgol Ysbyty Cymru, roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau gwneud mwy gyda fy mywyd,” meddai Mark. “Es i yn ôl i’r coleg i astudio Peirianneg Electronig a Thrydanol, wrth weithio’n rhan amser ar yr un pryd – roedd yn anodd cydbwyso’r cyfan, ond roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau parhau i ddysgu.”
Ar ôl pasio ei Lefelau A, ymunodd Mark ag Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW), lle clywodd am Radd Brentisiaeth PCYDDS mewn Seiberddiogelwch. Profodd y cyfuniad o waith llawn amser g astudio yn y brifysgol yn llwybr ddelfrydol iddo.
“Rwyf bob amser wedi cyfareddu gan TG a sut mae pethau’n gweithio,” esboniodd Mark. “Pan ddechreuais ymchwilio i seiberddiogelwch, ces i fy nhynnu i’r ochr ymchwiliol - dadansoddi digwyddiadau, profi systemau, a datrys problemau. Roedd yn berffaith i mi.”
Cafodd Mark ei ddyrchafu yn ystod ei astudiaethau, ac yn ddiweddarach ymunodd ag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, lle gweithiodd o dan arweiniad Arweinydd Seiberddiogelwch a oedd newydd ei benodi. Roedd ei brofiad ymarferol yn cynnwys rheoli digwyddiadau a phroblemau yn ymwneud â diogelwch gan ddefnyddio Microsoft Defender a Sentinel, yn ogystal â dylunio a rhedeg efelychiadau gwe-rwydo ar draws y sefydliad – prosiect a ddaeth yn ffocws i’w draethawd hir olaf.
“Mae’r cwrs wedi fy helpu’n enfawr wrth ennill profiad ymarferol a hyder,” meddai Mark. “Cyfrannodd yn uniongyrchol i’m dyrchafiad. Ni fyddwn le’r ydw i heddiw oni bai amdano.”
Mae Mark yn priodoli ei lwyddiant i’r cydbwysedd o ddamcaniaeth a chymhwysiad ymarferol ar y cwrs, yn ogystal â chefnogaeth ei diwtoriaid a’i gyfoedion.
“Yn bendant, y bobl ar y cwrs, gan gynnwys y staff, a’r dysgu ymarferol gyda switshis, ystafelloedd rhithwir a labordai Cisco oedd yr uchafbwyntiau,” meddai. Gwnaeth PCYDDS iddi’n bosibl i mi droi rhywbeth rwy’n ei garu’n yrfa.”
Mae Marc sydd bellach yn gweithio fel Uwch Ddadansoddwr Seiberddiogelwch, yn parhau i adeiladau ar y sgiliau a’r profiad a ddatblygodd drwy’r Radd Brentisiaeth.
“Mae wedi bod yn daith hir - o ddod o hyd i fy nghyfeiriad i adeiladu gyrfa rwy’n angerddol yn ei chylch. Y Radd Brentisiaeth yn PCYDDS oedd y trobwynt a wnaeth i hyn ddigwydd.”
Ynglŷn â Rhaglen Radd Brentisiaeth PCYDDS
Mae Gradd Brentisiaethau PCYDDS mewn Seiberddiogelwch Cymhwysol, Peirianneg Feddalwedd, a Gwyddor Data yn caniatáu i weithwyr proffesiynol ennill gradd wrth weithio yn y diwydiant. Mae’r rhaglenni’n cyfuno astudiaethau academaidd gyda phrofiad ymarferol yn y byd go iawn, gan baratoi dysgwyr ar gyfer gyrfaoedd gwerth chweil yn y sector digidol.
Capsiwn: Mae Mark Williams (chwith) yn y llun gyda Steve Hole, Swyddog Cyswllt Prentisiaid PCYDDS.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071