Skip page header and navigation

Mae llyfr newydd a gyhoeddwyd gan Krystyna Krajewska PCYDDS yn cysylltu alltudiaeth Gwlad Pwyl yn ystod y rhyfel â hanes lloches a gwytnwch Cymru ar ôl y rhyfel.

Mae Krystyna Krajewska, Cyfarwyddwr Gweithredol Athrofa Confucius ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi golygu a chyhoeddi The Dolls We Left Behind: A Child’s Wartime Journey from Poland to Persia — cofiant teimladwy a ysgrifennwyd gan ei diweddar fam, Eugenia Marta Krajewska.

Krystyna Krajewska presenting with projector at front of room during the book launch

Mae Krystyna Krajewska, Cyfarwyddwr Gweithredol Athrofa Confucius ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi golygu a chyhoeddi The Dolls We Left Behind: A Child’s Wartime Journey from Poland to Persia — cofiant teimladwy a ysgrifennwyd gan ei diweddar fam, Eugenia Marta Krajewska.

Mae’r llyfr eisoes wedi derbyn canmoliaeth gref gan feirniaid:

“A fascinating and historically significant memoir… I wholeheartedly recommend it to anyone interested in the history of eastern central Europe in the twentieth century.”
— Dr Ben Dew, Athro Cysylltiol Hanes Diwylliannol, Prifysgol Cofentri

“A touching account… well researched, clearly written and shines light on the tragic impact of war… with important lessons for our own times.”
— Yr Athro Antonia Bifulco, Prifysgol Middlesex, Llundain

Mae’r llyfr yn taflu goleuni ar bennod nad oes lawer o bobl yn gwybod amdani yn hanes Gwlad Pwyl, pan ym 1940, alltudiodd awdurdodau Sofietaidd dros filiwn o Bwyliaid, Lithwaniaid, Iddewon a Phobl Wcráin o ddwyrain Gwlad Pwyl, gan rwygo teuluoedd o’u cartrefi a’u hanfon i wersylloedd llafur anghysbell yn yr Undeb Sofietaidd.

Mae’r llyfr yn olrhain alltudiaeth Eugenia o dref Mołodeczno ar y goror yng Ngwlad Pwyl i Siberia; ei goroesiad yn blentyn yn y gwersyll llafur llym, a’i thaith yn y pen draw i ddiogelwch ym Mhersia ym 1942 gyda Byddin y Cadfridog Anders. Mae’n bortread personol o golled, dygnwch, ac ailadeiladu - themâu sy’n adleisio profiadau’r teuluoedd Pwylaidd a aeth ymlaen i ddechrau bywydau newydd yng Nghymru ar ôl y rhyfel.

Yn dilyn y rhyfel, ymsefydlodd miloedd o filwyr a dinasyddion Gwlad Pwyl, a oedd wedi brwydro ochr yn ochr â’r Cynghreiriaid, ledled Cymru: yn Llanelli, Penrhos, Aberhonddu, a thu hwnt. Mae eu straeon am alltudiaeth ac adeiladu cymunedau yn rhan bwysig o hanes modern Cymru ei hun sy’n aml yn mynd yn angof.

 “Er mai dim ond pan oedd yn hyn y daeth fy mam i Gymru,” meddai Krystyna, “mae ei stori yn adlewyrchu stori llawer o Bwyliaid a gafodd noddfa yma ar ôl y rhyfel. Mae’n teimlo’n addas ei bod wedi treulio ei blynyddoedd olaf yn y Cartref Nyrsio Pwylaidd ym Mhenrhos, wedi’i hamgylchynu gan y gymuned a gafodd daith bywyd mor debyg i’w un hi.”

Cynhaliwyd lansiad y llyfr yng Nghymdeithas Gymdeithasol a Diwylliannol Gwlad Pwyl (POSK) yn Llundain ar 25 Hydref ac fe aeth aelodau o’r cymunedau Pwylaidd ac academaidd i’r digwyddiad. Erbyn hyn, mae cynlluniau ar y gweill i gynnal sgyrsiau ac arddangosfeydd yng Nghymru i ddathlu’r diaspora Pwylaidd ôl-rhyfel a chyfraniad y llyfr i’r hanes hwn a rennir.

Book cover of The Dolls We Left Behind: A Child’s Wartime Journey from Poland to Persia

Yn ei rôl broffesiynol, mae Krystyna yn arwain Athrofa Confucius PCYDDS, gan  hyrwyddo dealltwriaeth rhyngddiwylliannol rhwng Cymru a Tsieina. Mae ei gwaith The Dolls We Left Behind, a gyhoeddwyd o dan ei hargraffnod annibynnol Siostry Krajewskie Press (sef Gwasg y Chwiorydd Krajewski yn Gymraeg), yn ymestyn y genhadaeth honno trwy gadw straeon dynol ar draws ffiniau a chenedlaethau.

Am fanylion y llyfr a digwyddiadau’r dyfodol, ewch i www.siostrykrajewskie.com/events.


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon