PCYDDS ac RSA yn cyhoeddi Cyfres Darlithoedd Arloesi
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) a Chymdeithas Frenhinol y Celfyddydau (RSA), sy’n hybu’r celfyddydau, gweithgynhyrchion, a masnach trwy arloesi a newid cymdeithasol, yn falch o gyhoeddi lansio Cyfres Darlithoedd Arloesi newydd ar gyfer blwyddyn academaidd 2025–2026.

Bydd y gyfres chwarterol hon yn dod ag arweinwyr meddwl, academyddion ac arbenigwyr y diwydiant at ei gilydd i archwilio rôl arloesi ar draws sectorau amrywiol. Cynhelir yr holl ddigwyddiadau yng Nghanolfan Dylan Thomas yn Abertawe a’u ffrydio’n fyw ar gyfer cynulleidfaoedd ehangach.
Fe’i cychwynnwyd a’i datblygwyd gan Alan Mumby, Darlithydd yn Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru’r Brifysgol. Bu ei weledigaeth a’i ymroddiad i arddangos arloesi ar draws sectorau yn ganolog er mwyn dod â’r gyfres hon yn fyw a sefydlu’r cydweithio rhwng PCYDDS a’r RSA.
Bydd y gyfres yn canolbwyntio ar y themâu canlynol:
- Hydref 2025: Arloesi ym maes Iechyd a Lles
- Gaeaf 2026: Arloesi ym maes Technoleg a Gwyddoniaeth
- Gwanwyn 2026: Arloesi yn y Sector Gweithgynhyrchu
- Haf 2026: Arloesi yn y Diwydiannau Creadigol
Darlith Gyntaf:
Arloesi ym maes Iechyd a Lles
Cynhelir y digwyddiad cychwynnol ddydd Mawrth, Hydref 7, 2025, o 6pm i 8pm.
Prif siaradwyr:
Dr Rhys Thomas, Prif Weithredwr Virtual Ward Technologies, arloeswr, clinigwr, ac arweinydd cenedlaethol ym maes technoleg feddygol ac iechyd digidol.
Yr Athro Gareth Davies, Deon Athrofa Rheolaeth ac Iechyd PCYDDS, sy’n arbenigo mewn arweinyddiaeth ac arloesi ym maes iechyd.
Gellir mynychu am ddim, ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. I sicrhau lle, anogir cyfranogwyr i archebu ymlaen llaw drwy Eventbrite.
Dywedodd yr Athro Gareth Davies: “Mae arloesi yn greiddiol i gynnydd, nid dim ond mewn technoleg ond o ran sut rydym yn gofalu am bobl, cymunedau, a’r blaned. Mae’r gyfres darlithoedd hon yn rhoi cyfle unigryw i ddwyn syniadau, arbenigedd, a chreadigrwydd ynghyd ar draws disgyblaethau, ac rydw i wrth fy modd bod PCYDDS a’r RSA yn gweithio mewn partneriaeth i wneud hyn yn bosibl.”
Ynglŷn â’r RSA
Fe’i sefydlwyd ym 1754, mae gan yr RSA hanes hir o hyrwyddo arloesi ar draws y celfyddydau, gweithgynhyrchion, a masnach. Heddiw, mae’r RSA yn parhau i ysbrydoli a chefnogi mentrau sy’n meithrin dyfodol gwydn, adfywiol a chytbwys eto ar gyfer pobl, lleoedd, a’r blaned.
Sylw ar Siaradwr: Dr Rhys Thomas
Mae Dr Rhys Thomas MBBS MD FRCA Dip IMC RC’Ed yn glinigwr nodedig, arloeswr, ac entrepreneur y mae ei yrfa’n rhychwantu gwasanaeth milwrol ar flaen y gad, arloesi meddygol brys, ac arweinyddiaeth ym maes iechyd digidol. Ymhlith yr uchafbwyntiau y mae:
- Gwasanaeth Milwrol a Chlinigol: Cyn-swyddog yn y Fyddin gyda 13 taith ymgyrchol, Cymrodoriaeth Anaesthesia Trawma yng Nghanolfan Trawma Sioc Baltimore, ac awdur strategaethau adfywio trawma allweddol y DU.
- Creu Gwasanaeth Cenedlaethol: Cyd-sylfaenydd Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru a Chyfarwyddwr Cenedlaethol y Gwasanaeth Adalw Meddygol Brys.
- Arloesi a Dyfeisio: Crëwr y ddyfais CTEX CPAP yn ystod pandemig COVID-19 a hidlydd Hepa Corsi-Rosenthal-Thomas (CRT) ar gyfer diogelwch aer mewn ystafelloedd dosbarth.
- Entrepreneuriaeth: Sylfaenydd a Phrif Weithredwr Virtual Ward Technology Ltd, arloeswyr gofal wedi’i drefnu gan ddata ac arweinwyr arloesi ym maes iechyd digidol.
- Cydnabyddiaeth: Cymrawd PCYDDS (2022), Athro Ymarfer (2023), a derbynnydd Gwobr Technoleg Arloesi GIG Cymru (2024) a Gwobr Hyrwyddo Gofal Iechyd y DU (2025).
Mae Dr Thomas yn parhau i arwain datblygiadau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol digidol, wrth gyfrannu at dreialon arloesi’r GIG ac ymchwil academaidd hefyd.
Yr Athro Gareth Davies
Mae Gareth, Deon Rheolaeth ac Iechyd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn aelod o Uwch Dîm Arwain a Senedd y Brifysgol. Mae’n gyfrifol am addysg, ymchwil, ac ymgysylltu ledled campysau De Cymru a chyda phartneriaid rhyngwladol ar draws amryw ddisgyblaethau.
Derbyniodd ei Gadair am waith yn ymwneud â Rheoli a Strategaeth Arloesi. Roedd hyn yn golygu gwaith helaeth gyda chwmnïau o fusnesau newydd i rai amlwladol mewn sectorau’n amrywio o adeiladu i’r diwydiannau creadigol. Dros yr ugain mlynedd diwethaf, mae wedi ymgynghori ar gyfer y sectorau cyhoeddus a phreifat, a chyflawni ymchwil gyda nhw, yn y DU ac yn rhyngwladol, yn arbennig yn yr Emiradau Arabaidd Unedig, Tsieina a De Korea. Mae wedi datblygu ac achredu rhaglenni ar gyfer Llywodraeth Cymru a’r DU gan gynnwys achrediad diweddar hyfforddiant Rheoli Arloesi Swyddfa Gabinet Llywodraeth y DU.
O ran diddordebau ymchwil, mae wedi cyhoeddi ar ddatblygu achosion busnes, trosglwyddo technoleg a datblygiad economaidd, ac wedi arwain mentrau cyfalaf a refeniw ar gyfer ymchwil ac arloesi. Yn ddiweddar, mae hyn wedi cynnwys rhaglenni ar gyfer datblygu arweinyddiaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy’n cael eu hehangu’n rhyngwladol. Mae ei weithgarwch arall fel ymarferydd wedi cynnwys gwaith ar gyfer datblygu achosion busnes ar gyfer Bargen Ddinesig, Ffyniant Bro a rhaglenni eraill.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071