PCYDDS yn Arwain Dathliad Creadigol ar gyfer Minstr Abertawe
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn arwain prosiect cymunedol deinamig i nodi trawsnewid Eglwys y Santes Fair yn Finstr Abertawe. Ar 16eg o Chwefror 2025, bydd Abertawe yn croesawu’n swyddogol ei heglwys Finstr gyntaf, gan gadarnhau’i lle fel tirnod diwylliannol ac ysbrydol.

Gan gydweithio â Choleg Celf Abertawe yn PCYDDS, ymunodd disgyblion a rhieni o Ysgol Gynradd Christchurch yr Eglwys yng Nghymru â’r myfyriwr MA Darlunio Isabella Coombs, a’r myfyriwr MA Crefftau Dylunio Molly Ashton, i greu baner fywiog, symbolaidd. Mae’r gwaith celf yn cipio gobeithion a breuddwydion y plant ar gyfer eu dinas ac mae’n gwahodd ymwelwyr â Minstr Abertawe i ychwanegu eu dymuniadau eu hun at y faner, gan ei gwneud yn ddarn cymunedol go iawn.
Mynegodd Canon Justin Davies ei frwdfrydedd am y cydweithredu:
“Mae’n bleser mawr gen i weithio eto â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i ddod â chelf i mewn i’r hyn a fydd, o ddydd Sul 16 Chwefror, y Minstr cyntaf yng Nghymru.Mae’r lle tu mewn i’r eglwys yn ddelfrydol ar gyfer arddangos celf ar lawer ffurf, a gyda gwesteion yn ymuno â ni o bob cwr o Gymru, caiff y gwaith celf a grëir gan blant Ysgol Gynradd Christchurch a myfyrwyr PCYDDS ei weld gan lawer. Fy ngobaith yw y bydd partneriaeth gref ag Ysgol Gelf PCYDDS yn dod yn rhan ganolog o fywyd y Minstr yn y dyfodol.”
Mae’r prosiect yn cyd-fynd â dengmlwyddiant statws Canol Dinas Abertawe fel Dinas Dysg UNESCO. Wedi’i gyllido gan Bartneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach De Cymru, mae’n adlewyrchu ymrwymiad PCYDDS i ymgysylltu â’r gymuned ac ehangu mynediad drwy raglen allgymorth Coleg Celf Abertawe.
Meddai Isabella Coombs, myfyriwr MA Darlunio ac artist Allgymorth:
“Fel Tiwtor Allgymorth PCYDDS am fwy na thair blynedd, roedd y prosiect hwn yn darparu profiad cyfoethog a boddhaus, gan ganiatáu i ni gydweithio ag Eglwys y Santes Fair ac Ysgol Gynradd Christchurch. Drwy’r gweithdai cymunedol hyn cafwyd cipolwg gwerthfawr ar beth sydd fwyaf pwysig i blant Abertawe, gan droi’u gobeithion a’u dyheadau’n weithiau celf ystyrlon ac roedd yn brofiad gwir gyffrous yr hoffwn iddo barhau.”
Ychwanegodd Molly Ashton, myfyriwr MA Crefft Dylunio yn Y Drindod Dewi Sant:
“Fel myfyriwr yn Y Drindod Dewi Sant, rwyf wedi mwynhau’r profiad hwn o weithio yn y gymuned a rhannu sgiliau gyda disgyblion yr ysgol gynradd leol.”
Meddai Anne-Marie Atkins, Pennaeth Ysgol Gynradd Christchurch (yr Eglwys yng Nghymru):
“Rwyf mor hapus i fod yn rhan o’r prosiect cydweithredol ardderchog gyda Dr Amanda Roberts a PCYDDS.Mae plant a theuluoedd Ysgol Gynradd Christchurch wedi bod yn llawn cyffro ac wedi ymrwymo’n llawn wrth greu’r baneri hyfryd sy’n cael eu harddangos yn Eglwys y Santes Fair. Roedd y bwrlwm yn ystod ein gweithdy prynhawn yn Eglwys y Santes Fair, a’n teuluoedd amrywiol yn dod at ei gilydd, yn rhywbeth arbennig. Rydym ni mor falch i fod yn rhan o ddathliadau’r Minstr, ac i gynnwys y prosiect hwn yn rhan o’r dathliad blwyddyn o hyd o Abertawe yn Ddinas Dysg UNESCO am 10 mlynedd. Mae amser cyffrous o’n blaenau!”
Tynnodd Dr. Amanda Roberts, Pennaeth Allgymorth yng Ngholeg Celf Abertawe, PCYDDS, sylw at effaith y fenter:
“Mae ein diwrnodau hwyl ‘Ymgyrraedd yn Ehangach’ yn ein galluogi i ddylunio a gweithredu prosiectau cydweithredol, dan arweiniad y gymuned, sy’n meithrin cydgysylltiad a llesiant.Mae’r mentrau hyn hefyd yn rhoi sylw i’r cyfleoedd unigryw am astudiaeth greadigol seiliedig ar arfer yng Ngholeg Celf Abertawe, PCYDDS.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476