PCYDDS yn cydweithio â Celtic Deep i Dynnu Sylw at Gadwraeth Forol trwy Ffilm.
Mae’r cwrs BA Gwneud Ffilmiau Antur ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cyhoeddi cydweithrediad cyffrous gyda Celtic Deep, sefydliad cadwraeth forol blaenllaw o Sir Benfro.

Bydd y bartneriaeth hon yn canolbwyntio ar gynhyrchu cynnwys cynhyrchu ffilm a chyfryngau a fydd yn tynnu sylw at waith cadwraeth Celtic Deep. Bydd y bartneriaeth yn canolbwyntio yn enwedig ar eu gwaith ym maes ymchwil morol hyd at dri deg pump o filltiroedd oddi ar arfordir Sir Benfro, mewn ardal o’r enw Celtic Deep. Mae’r rhanbarth yn gartref i fywyd morol amrywiol, gan gynnwys dolffiniaid, siarcod, a bywyd gwyllt cefnforol arall.
Bydd myfyrwyr yn parhau i ennill profiad gwerthfawr mewn cadwraeth forol yn ystod y flwyddyn academaidd, gan gynnwys technegau nofio a ffilmio uwch, gan eu paratoi ar gyfer gyrfaoedd yn y proffesiwn deinamig a hanfodol hwn. Mae’r cydweithrediad rhwng PCYDDS a Celtic Deep yn nodi cam arall ymlaen wrth gynnig cyfleoedd dysgu yn y byd go iawn sy’n ysbrydoli ac yn grymuso’r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr ffilm antur a chadwraethwyr.

Dros yr haf, cafodd Josh Knight, un o raddedigion BA Gwneud Ffilmiau Antur PCYDDS, gyfle i weithio fel intern gyda Celtic Deep i ffilmio eu prosiect ‘Sharkademy’. Canmolodd y cwmni waith Josh a oedd yn cofnodi’r prosiect yn fanwl, gan ddal delweddau trawiadol o’r arfordir a’r ymchwil morol o gwch a ffilm drôn o’r awyr.
Dywedodd Josh:
“Dros yr haf, helpais ddogfennu rhaglen Sharkademy sydd wedi’i sefydlu gan Celtic Deep a Mareco er mwyn helpu i ddatblygu a darparu profiad ymarferol yn y maes ar gyfer darpar arbenigwyr siarcod yma yn y DU.
“Mae dal delweddau o dan y dŵr yn fath gwahanol iawn o her i’ch profiad arferol uwchben y dŵr. Mae cael y cyfle i ddilyn y llwybr hwn o wneud ffilmiau wedi bod yn wirioneddol fuddiol. Mae llawer mwy i feddwl amdano wrth ffilmio o dan y dŵr, o ganolbwyntio ar eich pwnc i fod yn ymwybodol o’r pethau o’ch cwmpas. Mae angen blaenoriaethu eich diogelwch eich hun, ond hefyd diogelwch yr anifeiliaid a’r amgylchedd o’ch cwmpas.
” Mae’r tîm yn Celtic Deep yn unigolion angerddol, gofalgar ac ymroddedig sy’n rhoi o’u hamser i ddeall ac archwilio ein cefnforoedd, ond hefyd yn ymdrechu i rannu’r wybodaeth hon â’r gweddill ohonom. Mae fy mhrofiad yn gweithio gyda nhw dros yr haf eleni wedi bod yn wirioneddol fythgofiadwy. Mae nid yn unig wedi datblygu fy sgiliau fel gwneuthurwr ffilmiau a ffotograffydd ond hefyd wedi newid fy nealltwriaeth o’r moroedd o’n cwmpas.”

Ychwanegodd Richard Rees o Celtic Deep:
“Cwmni am antur gyda chenhadaeth yw Celtic Deep! Y genhadaeth honno yw rhannu rhyfeddodau ein bywyd morol yma yng Nghymru gyda chymaint o bobl â phosibl. Mae dal yr hud a’r lledrith o archwilio ein harfordiroedd a rhannu’r straeon hyn trwy ffilm yn arf hollbwysig i ni ar gyfer ennyn ymgysylltiad a gwerthfawrogiad o’r bywyd sy’n byw yn ein dyfroedd.
“Rydym yn gyffrous iawn i gael y cyfle i gydweithio ymhellach â chwrs Gwneud Ffilmiau Antur PCYDDS. Ein gobaith yw bod hon yn gyfle buddiol lle bydd y ddwy ochr yn gallu cyfnewid gwybodaeth a gwella eu setiau sgiliau priodol, tra hefyd yn gobeithio ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o eiriolwyr cefnfor a storïwyr.”
Dywedodd Rheolwr Rhaglen Gwneud Ffilmiau Antur PCYDDS, Dr Brett Aggersberg:
“Mae ein partneriaethau esblygol gydag arbenigwyr y diwydiant ac arbenigwyr pwnc yn parhau flwyddyn ar ôl blwyddyn. Rydym yn ymfalchïo mewn cynnig cyrsiau ymarferol, gyda BA Gwneud Ffilmiau Antur yn unigryw yn y DU.
“Mae Celtic Deep yn gaffaeliad eithriadol i Gymru a’r byd, ac rydym yn ffodus i allu cydweithio â nhw a chynnig profiadau arbennig i’n myfyrwyr. Yn ddiweddar, es i ar alldaith i’r cefnfor dwfn ac roedd yn anrhydedd cael nofio gyda siarcod glas. Fe wnaeth profiad ac arbenigedd y tîm y rhyngweithio gyda’r anifeiliaid hardd hyn yn bosibl, a dangosodd y potensial i raddedigion o’n rhaglen.”
Am fwy o wybodaeth am gyrsiau Gwneud Ffilmiau Antur, ewch i: Gwneud Ffilmiau Antur (Llawn Amser | Prifysgol y Drindod Dewi Sant (uwtsd.ac.uk)
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476