Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o ddathlu 30 mlynedd o  addysg Hamdden, Digwyddiadau a Thwristiaeth arloesol  yn Abertawe, gan nodi tri degawd o addysgu, arloesedd a llwyddiant graddedigion sy’n arwain y diwydiant. Yn ystod y flwyddyn garreg filltir hon gwelwyd hefyd gyflawniad arwyddocaol arall gan fod y Brifysgol wedi cael ei henwi’n  Ganolfan Ragoriaeth gyntaf yr ITT ar gyfer Teithio a Thwristiaeth yng Nghymru.

A large group of students and staff holding a Welsh flag branded with the university's logo.

Dywedodd Jacqui Jones, Cyfarwyddwr y Rhaglen: “Mae cyrraedd 30 mlynedd ers i’n myfyrwyr Rheolaeth Hamdden cyntaf raddio yn Abertawe yn garreg filltir aruthrol i PCYDDS. Rydym yn hynod falch o’r gymuned fywiog o fyfyrwyr, staff, cyn-fyfyrwyr a phartneriaid diwydiant sydd wedi llunio ein rhaglenni dros y degawdau. Mae cael ein henwi’n  Ganolfan Ragoriaeth gyntaf yr ITT yng Nghymru yn dyst i’r ymroddiad a’r arloesedd sy’n diffinio ein gwaith. Edrychwn ymlaen at ddathlu’r cyflawniad hwn gyda’n gilydd ac i barhau i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr y diwydiant.”

I nodi’r cyflawniadau hyn, bydd PCYDDS yn cynnal Digwyddiad a Chinio Dathlu ar 10 Rhagfyr ar gampws Glannau Abertawe. Bydd y digwyddiad yn dod â myfyrwyr, staff, cyn-fyfyrwyr, partneriaid diwydiant, a gwesteion nodedig ynghyd ar gyfer diwrnod o sgwrsio, myfyrio a dathlu.

Bydd y diwrnod yn cynnwys  yr Athro Terry Stevens, sylfaenydd y rhaglenni twristiaeth a hamdden gwreiddiol yn Abertawe, a’r Athro Ymarfer Andrew Campbell MBE, a fydd yn ymuno â staff a myfyrwyr ar gyfer sesiwn arbennig o Sgyrsiau Twristiaeth a Lletygarwch.

Mae PCYDDS hefyd yn falch iawn o groesawu dau brif siaradwr amlwg:

  • Alan Coppin OBE, Cyn Brif Swyddog Gweithredol Wembley Stadium plc a’r Palasau Brenhinol Hanesyddol a Chadeirydd Sefydliad y Tywysog
  • Tom Gorringe, Prif Swyddog Gweithredol Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe

Gan adlewyrchu cryfder a chyrhaeddiad cymuned cyn-fyfyrwyr PCYDDS, bydd nifer o raddedigion proffil uchel mewn Twristiaeth, Digwyddiadau a Hamdden yn dychwelyd i rannu mewnwelediadau o’u teithiau proffesiynol, gan gynnwys:

  • Craig Jarrett, Is-lywydd Gweithrediadau, Sodexo Live!
  • Dominic Jones, Prif Swyddog Gweithredol, Ymddiriedolaeth Mary Rose
  • Heledd Williams, Pennaeth Digwyddiadau Busnes Cymru, Llywodraeth Cymru

Cynhelir cinio ar y thema dathlu, wedi’i noddi’n hael gan Skyline Abertawe a’i baratoi gan fyfyrwyr Gastronomeg PCYDDS, yn Neuadd Vivian yng Nghanolfan Dylan Thomas. Bydd y prynhawn yn cynnwys sgyrsiau pellach, trafodaethau panel, ac adyfyrdodau o ddiwydiant, a gynhelir hefyd yng Nghanolfan Dylan Thomas.

Bydd y digwyddiad yn cael ei drefnu a’i gynnal gan fyfyrwyr presennol PCYDDS a fydd yn rhannu eu profiadau o deithiau maes, lleoliadau, prosiectau ym myd diwydiant a digwyddiadau byd-eang a ariennir gan Taith. Bydd gwesteion hefyd yn cael cyfle i brofi’r Ystafell Drochi a’r technolegau dysgu digidol arloesol a ddefnyddir i gefnogi a gwella dysgu myfyrwyr.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon