Skip page header and navigation

Teithiodd Dr Nalda Wainwright, Athro Cysylltiol a Chyfarwydder Academi Cymru ar gyfer Iechyd a Llythrennedd Corfforol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i Belfast yn ddiweddar i gyflwyno gweithdy ar gyfer  Chwaraeon Gogledd Iwerddon.  Roedd y gweithdy o’r enw Cefnogi Perthyn a Chynhwysiant Drwy Llythrennedd Corfforol wedi’i Seilio ar Ymarfer wedi darparu archwiliad o strategaethau i wella datblygiad corfforol plant drwy ddulliau wedi’u seilio ar chwarae a chynhwysiant.  

An image of Nalda giving her presenatation

Yn ystod y gweithdy, rhannodd Dr Wainwright ddulliau ar gyfer dadansoddi symudiad a thrafododd sut i greu amgylcheddau cefnogol sy’n meithrin llythrennedd corfforol.  Amlygodd bwysigrwydd creu amgylcheddau cynhwysol lle y gall pob plentyn, waeth beth fo’i allu gymryd rhan a ffynnu. Nodwedd allweddol o’i chyflwyniad oedd trafod SKIP-Cymru, rhaglen o ddatblygiad proffesiynol a gynlluniwyd i wella iechyd a llesiant plant.  Archwiliodd Dr Wainwright sut mae’r rhaglen hon wedi effeithio’n gadarnhaol ar brosesau cydweithio traws-sector, gan ddangos sut y gall ysgolion a chymunedau weithio gyda’i gilydd i hyrwyddo dull cyfannol ar gyfer llythrennedd corfforol. 

Roedd y gweithdy hwn yn gam sylweddol tuag at wella llythrennedd corfforol ar draws y DU ac Iwerddon, gan sicrhau bod pob plentyn, waeth beth fo’i gefndir neu ei allu, yn cael y cyfle i ffynnu drwy weithgarwch corfforol. 

Nalda demonstrating a MiniMovers exercise

Hwylusodd y gweithdy drafodaethau cyfoethog ar ymgorffori llythrennedd corfforol mewn ymarfer. Mynychodd gynulleidfa amrywiol, gan gynnwys hyfforddwyr, cyrff llywodraethu cenedlaethol cynrychiolwyr chwaraeon, swyddogion cynghorau lleol a gweithwyr iechyd proffesiynol. Darparodd arbenigedd a mewnweliadau Dr. Wainwright lwyfan werthfawr ar gyfer cyfnewid gwybodaeth, gan ysbrydoli mynychwyr i wella cynhwysedd ac addysg wedi’i seilio ar iechyd yn eu meysydd perthnasol. 

Meddai Dr Wainwright: 

“Roedd yn wych cael y cyfle i weithio gyda grŵp anhygoel o bobl o chwaraeon ac iechyd yng Ngogledd Iwerddon a chwrdd â chydweithwyr o Sport Ireland.  Cawsom drafodaethau gwych am ddatblygiad llythrennedd corfforol a rôl allweddol plentyndod cynnar ar gyfer gosod sgiliau sylfaenol i sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cael eu cynnwys a theimlo ymdeimlad o berthyn mewn amgylcheddau chwaraeon a gweithgaredd corfforol.”

Nalda demonstrating a few exercise ideas with attendees

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon