PCYDDS yn penodi Matthew Wicker yn Bennaeth Newydd yr Uned Brentisiaethau
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o gyhoeddi penodiad Matthew Wicker yn Bennaeth newydd Uned Brentisiaethau’r Brifysgol. Mae Matthew yn ymgymryd â’r rôl ar adeg allweddol wrth i’r Brifysgol barhau i gryfhau ei safle yn un o brif ddarparwyr gradd-brentisiaethau yng Nghymru ac ar draws y DU.

Yn ei rôl newydd, bydd Matthew yn goruchwylio’r gwaith o ddatblygu a darparu rhaglenni prentisiaeth arloesol sy’n cyd-fynd ag anghenion datblygol dysgwyr a chyflogwyr. Gyda dros ddegawd o brofiad ym maes rheoli addysg, datblygu ieuenctid ac ymgysylltu rhanbarthol, mae Matthew yn dod ag ymagwedd strategol a chydweithredol at ddatblygu’r gweithlu.
Cyn ymuno â PCYDDS ym mis Mai 2025, daliodd Matthew sawl uwch swydd yn canolbwyntio ar gyflogadwyedd, ehangu cyfranogiad, a chryfhau llwybrau addysg i gyflogaeth. Bydd ei brofiad helaeth o ffurfio partneriaethau â chyflogwyr, awdurdodau lleol a sefydliadau sector cyhoeddus yn allweddol wrth wella arlwy prentisiaethau PCYDDS ymhellach.
Dywedodd Simon Young, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Academaidd yn PCYDDS: “Rydym yn falch iawn o groesawu Matthew i’r Brifysgol. Mae ei benodiad yn gam pwysig ymlaen yn ein cenhadaeth i ddarparu rhaglenni prentisiaeth o ansawdd uchel a arweinir gan gyflogwyr.
“Bydd profiad helaeth ac ethos cydweithredol Matthew yn amhrisiadwy wrth i ni barhau i dyfu ein darpariaeth prentisiaethau a chryfhau ein partneriaethau ar draws diwydiant a’r sector cyhoeddus. Bydd ei arweinyddiaeth yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod ein dysgwyr yn ennill y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnynt i ffynnu mewn gweithlu sy’n newid yn gyflym.”
Dywedodd Matthew Wicker: “Mae’n anrhydedd ymuno â PCYDDS ar adeg mor gyffrous i brentisiaethau yng Nghymru. Rwy’n angerddol am greu cyfleoedd sy’n grymuso unigolion ac yn helpu busnesau i dyfu trwy ddatblygu doniau. Rwy’n edrych ymlaen at adeiladu ar sylfaen gref y Brifysgol a gweithio gyda chyflogwyr a dysgwyr i lunio rhaglenni sydd wir yn cael effaith.”
Ar hyn o bryd mae PCYDDS yn darparu gradd-brentisiaethau i dros 100 o gyflogwyr, yn amrywio o fusnesau bach a chanolig i Ymddiriedolaethau GIG ac awdurdodau lleol. Mae rhaglenni hyblyg y Brifysgol sy’n ymateb i ofynion cyflogwyr yn rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ennill cymwysterau addysg uwch tra’n datblygu sgiliau’r byd go iawn yn y gweithle.
Mae gradd-brentisiaethau PCYDDS wedi’u cynllunio i gefnogi uwchsgilio ac ailsgilio, gan alluogi pobl sydd eisoes mewn cyflogaeth i ddatblygu eu gyrfaoedd a chyfrannu’n fwy effeithiol at eu sefydliadau.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071