Skip page header and navigation

Mae prentis Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), Toby Britton-Watts, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr fawreddog ‘Hyfforddai y Flwyddyn’ Heritage Crafts 2025, sy’n cydnabod ymrwymiad a sgil eithriadol wrth warchod treftadaeth grefft draddodiadol y DU.

A colourful stained glass window.

Mae Toby, sy’n ymgymryd â Phrentisiaeth Crefftwr Gwydr Lliw Lefel 4 drwy PCYDDS mewn cydweithrediad ag ICON (y Sefydliad Cadwraeth), yn un o dri yn unig a gyrhaeddodd y rownd derfynol genedlaethol o blith tri ar ddeg o enwebiadau ledled y DU. 

Mae Gwobrau Heritage Crafts, sy’n cael eu cefnogi gan y Bathdy Brenhinol a Wentworth Woodhouse, yn dathlu unigolion a sefydliadau sy’n gweithio i sicrhau bod crefftau traddodiadol sydd mewn perygl yn parhau i ffynnu. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn Nerbyniad Enillwyr Gwobrau Heritage Crafts yn Wentworth Woodhouse, De Swydd Efrog, ddydd Llun 17 Tachwedd 2025.

“Mae wir yn anrhydedd cael bod ar y rhestr fer ymhlith crefftwyr mor dalentog,” meddai Toby Britton-Watts. “Mae gweithio gyda gwydr lliw hanesyddol yn fy ngalluogi i gysylltu â chanrifoedd o dreftadaeth artistig a diwylliannol wrth ddatblygu sgiliau cadwraeth ymarferol ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd Dr Mark Cocks, Deon Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru y Brifysgol: “Rydym yn hynod falch o’r hyn mae Toby wedi’i gyflawni wrth gyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Hyfforddai y Flwyddyn Heritage Crafts. Mae ei ymroddiad, ei greadigrwydd a’i grefftwaith yn enghraifft o’r rhagoriaeth yr ydym yn anelu ato ar draws Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru. Mae prentisiaethau fel y rhaglen Crefftwr Gwydr Lliw yn dangos ymrwymiad parhaus y Brifysgol i gefnogi sgiliau traddodiadol sy’n hanfodol i’n treftadaeth ddiwylliannol ac artistig.”

Ymunodd Toby â Holy Well Glass, sydd wedi’i leoli yn Wells, Gwlad yr Haf, yn 2023. Ar ôl cwblhau BA (Anrh) mewn Celfyddyd Gain, treuliodd 18 mis yn ennill profiad ymarferol o dan hyfforddiant yr artist gwydr lliw Amanda Blair, tra hefyd yn addysgu celf cyn cychwyn ar ei brentisiaeth.

Mae gan Holy Well Glass dri gwarchodwr achrededig ICON yn gweithio gyda’r cwmni ac mae’n cyflogi dau brentis gyda PCYDDS. Mae’r cwmni’n adnabyddus am ei waith cadwraeth ar wydr lliw o’r cyfnod canoloesol i’r cyfnod modern. Mae prosiectau’r cwmni yn cynnwys safleoedd treftadaeth mawr fel Capel Sant Siôr (Castell Windsor), Coleg y Brenin Caergrawnt, ac Eglwys Gadeiriol Caerwynt.

Dywedodd Jack Clare ACR, Cyfarwyddwr Holy Well Glass: “Rydym wrth ein bodd bod ymroddiad a chrefftwaith Toby wedi cael eu cydnabod ar lefel genedlaethol. Mae ei waith yn enghraifft o’r angerdd a’r manwl gywirdeb sydd eu hangen i sicrhau bod cadwraeth gwydr lliw traddodiadol yn parhau i ffynnu.”

Mae Gwobr ‘Hyfforddai y Flwyddyn’ Heritage Crafts yn tynnu sylw at rôl hanfodol prentisiaethau a hyfforddiant ymarferol wrth gynnal  diwydiannau crefftau treftadaeth y DU. Mae’n cydnabod unigolion sy’n ymgymryd â phrentisiaethau ffurfiol, swyddi dan hyfforddiant, neu astudiaethau ymarferol mewn sefydliadau, sy’n ffurfio rhan sylweddol o’u datblygiad proffesiynol.

A student working with stained glass in a workshop.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon