Skip page header and navigation

Heddiw (12 Medi 2025) mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth i ymestyn eu partneriaeth gyda’r nod o helpu i wella iechyd a llesiant cymunedau de-orllewin Cymru.

Dr Phil Kloer and Professor Elwen Evans signing the  MOU

Wedi’i lofnodi mewn digwyddiad ar gampws Caerfyrddin y Brifysgol, mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn ymrwymo’r partneriaid i gydweithio mewn sawl maes dros y pum mlynedd nesaf, gan gynnwys ymchwil a datblygu, menter ac arloesi ac addysg a hyfforddiant y gweithlu.

Dathlodd Prif Weithredwr Hywel Dda, Dr Phil Kloer, Is-ganghellor PCYDDS yr Athro Elwen Evans CB, Dr Leighton Phillips, Cyfarwyddwr Ymchwil, Arloesedd a Gwerth yn Hywel Dda a’r Athro Gareth Davies, Deon y Sefydliad Rheolaeth ac Iechyd yn PCYDDS eu hymrwymiad parhaus mewn digwyddiad i ddiolch i’r rhai presennol a newydd a benodwyd i’r bartneriaeth am eu cyfraniad.

Dywedodd Dr Kloer: “Rydym yn falch iawn o fod yn parhau i weithio gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae’r bartneriaeth rhyngom wedi hen sefydlu ac yn llwyddiannus. Mae cydweithio yn hynod o bwysig o ran gwella iechyd, cyfoeth a lles ein cymunedau a datblygu gweithlu lleol – mae’n ein gwneud yn gryfach ac yn fwy pellgyrhaeddol yn ein cwmpas.

“Mae llofnodi’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn adeiladu ar y berthynas hon ac yn rhoi’r cyfle i ni fyfyrio ar y gwaith da yr ydym eisoes wedi’i wneud gyda’n gilydd ac edrych ymlaen at y gwaith da y byddwn yn ei wneud gyda’n gilydd dros y pum mlynedd nesaf a thu hwnt.

“Mae hefyd yn cydnabod mai dim ond trwy gyfraniadau staff sy’n gweithio ar draws y ddau sefydliad y mae cryfder a dyfnder ein partneriaeth yn bosibl.”

Dywedodd Is-Ganghellor PCYDDS, yr Athro Elwen Evans: “Rwy’n falch iawn ein bod yn ymestyn ein partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, sy’n arwydd o lwyddiant y rhaglenni a’r mentrau sydd eisoes ar waith. Trwy gydweithio a rhannu ein gallu ac arbenigedd ymchwil ein nod yw darparu’r arloesedd, y sgiliau a’r hyfforddiant sydd eu hangen ar ymarferwyr ar draws y rhanbarth a fydd, wrth gwrs, yn y pen draw yn sicrhau gwell canlyniadau iechyd a lles i bobl a chymunedau gorllewin Cymru.

“Mae gan y Brifysgol a Hywel Dda gyrhaeddiad daearyddol eang ac rydym mewn sefyllfa dda i wneud gwahaniaeth amhrisiadwy i les cymdeithasol ac economaidd ein rhanbarth. Edrychwn ymlaen at barhau â’n cydweithrediad dros y blynyddoedd i ddod”

Mae’r bartneriaeth eisoes wedi darparu ystod o fanteision, gan gynnwys datblygu hyfforddiant gweithlu lleol gyda chyflwyno rhaglenni Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu mewn Ymarfer Pobl a Rheoli Pobl.

Mae’r cydweithio parhaus rhwng ATiC (Canolfan Arloesedd Technolegau Cynorthwyol) PCYDDS a Sefydliad TriTech wedi arwain at benodiadau ar y cyd, prosiectau ymchwil ac arloesi, a dyfarniadau masnachol a chyllid grant.

Dros y tair blynedd diwethaf bu cyflawniadau arwyddocaol mewn nifer o’r rhaglenni addysg, dysgu ac addysgu.  Mae’r rhain yn cynnwys Athrawon Ymarfer, rhaglenni gwaith a chyfraniadau, a’r Diploma Ymarferydd Cynorthwyol Therapi, sy’n cefnogi datblygu gallu ar draws gwasanaethau therapi, ac yn cynnig llwybrau i ddysgwyr symud ymlaen mewn ystod o arbenigeddau.

Ym mhennod nesaf y bartneriaeth ymchwil ac arloesi bydd prosiectau’n cael eu datblygu gan gynnwys y Ganolfan Arloesi Cymdeithasol, sydd â’r nod o ddod â staff y Bwrdd Iechyd a’r Brifysgol ynghyd â’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, i ddod o hyd i atebion effeithiol i faterion cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd heriol.

Mae gwaith yn ei gamau cynnar o hyd ond bydd y Ganolfan yn helpu i ddatblygu a phrofi ffyrdd newydd o gyflawni nod ar y cyd Model Cymdeithasol ar gyfer Iechyd a Lles , a fydd, yn ei dro, yn gwella iechyd a lles cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Dywedodd Dr Leighton Phillips: “Mae ein partneriaeth â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn bwysig i ni. Dros y blynyddoedd mae’r bartneriaeth hon wedi dod ag adnoddau, momentwm, dealltwriaeth a gwybodaeth i’r broses ymchwil ac arloesi. Mae wedi gwneud y mwyaf o’n potensial i gael effaith gadarnhaol ar ein gweithwyr, y gwasanaethau a ddarparwn, a’r canlyniadau a ddarperir gyda’n cymunedau.

“Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth newydd hwn yn ymwneud ag ail-gadarnhau ein hymrwymiad i weithio’n agos gyda’r Drindod Dewi Sant er budd iechyd a lles ein rhanbarth.

“Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn ehangu ar uchelgais ein Cynllun Strategol Ymchwil a Datblygu sydd newydd ei lansio, sy’n cynnwys cynlluniau i hybu datblygiad staff a chynyddu cyfranogiad mewn ymchwil fasnachol dros y pum mlynedd nesaf.”

Dywedodd yr Athro Gareth Davies: “Mae adnewyddu’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn ailgadarnhau ein hymrwymiad ar y cyd i’r rhanbarth – gan yrru arfer o bartneriaethau trydydd sector i fabwysiadu technoleg flaengar, gan gynnwys AI. Mae’r bartneriaeth yn harneisio arbenigedd a galluoedd ar draws y Brifysgol i’r agenda hollbwysig hon o iechyd, lles a ffyniant de-orllewin Cymru a thu hwnt. 

“Byddwn yn cryfhau llwybrau addysgol, ac yn llunio cwricwlwm sy’n arfogi dysgwyr â’r sgiliau sydd eu hangen i ffynnu yn y gweithlu iechyd a lles presennol ac yn y dyfodol. Mae natur seiliedig ar ymarfer ein darpariaeth yn cyplysu hyn yn ddi-dor ag ymchwil ac arloesi, gan drawsnewid addysg a thrawsnewid bywydau.”

Dr Phil Kloer and Professor Elwen Evans signing the  MOU with senior officers of both organisations

Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 01267 676790

Rhannwch yr eitem newyddion hon