Profiad myfyrwyr y Drindod Dewi Sant yn cael ei gydnabod yn nhablau cynghrair prifysgolion cenedlaethol
Mae ansawdd y profiad myfyrwyr a gynigir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi cael ei gydnabod unwaith eto mewn tablau cynghrair cenedlaethol.

Mae Tabl Cynghrair Prifysgol y Guardian 2026, a gyhoeddwyd ar 13 Medi 2025, wedi gosod y Brifysgol ar y brig yng Nghymru ac yn 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr â’r adborth a dderbynn, ac ar y brig yng Nghymru a’r 6ed yn y DU am eu boddhad ag addysgu.
Ar lefel pwnc mae’r Brifysgol ar y brig yn y DU ar gyfer Cynhyrchu Ffilm a Ffotograffiaeth, ac ar gyfer Cerddoriaeth ac mae 9 o’n pynciau yn yr 20 uchaf yn y DU:
- Cynhyrchu Ffilm a Ffotograffiaeth 1af yn y DU allan o 67, 1af yng Nghymru
- Cerddoriaeth 1af yn y DU allan o 67, 1af yng Nghymru
- Gwyddor Chwaraeon yn 4ydd yn y DU allan o 85, 2il yng Nghymru
- Ffasiwn a Thecstilau 5ed yn y DU allan o 46, 1af yng Nghymru
- Seicoleg yn 8fed yn y DU allan o 115, 1af yng Nghymru
- Animeiddio a dylunio gemau yn 9fed yn y DU allan o 58, 1af yng Nghymru
- Cyfrifiadureg a Systemau Gwybodaeth yn 11eg yn y DU allan o 111, 1af yng Nghymru
- Dylunio Cynnyrch 11eg yn y DU allan o 41, 2il yng Nghymru
- Peirianneg Fecanyddol yn 16eg yn y DU allan o 67, 2il yng Nghymru
Yn gyffredinol, mae’r Brifysgol wedi codi saith safle, o 80fed i 73ain.
Dywedodd Is-Ganghellor y Drindod Dewi Sant, yr Athro Elwen Evans, CB: “Mae’r canlyniadau hyn yn adlewyrchiad pwerus o’n hymrwymiad i brofiad myfyrwyr. Mae ein myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac mae’n werthfawr i weld eu lleisiau yn cael eu hadlewyrchu mor gadarnhaol yn y safleoedd cenedlaethol hyn.
“Mae ein llwyddiant ar draws cymaint o feysydd pwnc - llawer ohonynt yn yr 20 uchaf yn y DU - yn dangos ymroddiad cymuned gyfan y Drindod Dewi Sant i sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael profiad dysgu rhagorol, yn elwa o rwydweithiau cymorth cryf, ac yn meddu ar y sgiliau a’r hyder i ffynnu yn eu gyrfaoedd dewisol.”
Mae’r Guardian yn graddio prifysgolion yn ôl naw mesur gwahanol: gan gynnwys pa mor fodlon yw myfyrwyr blwyddyn olaf gyda’u cyrsiau, addysgu ac adborth, gwariant fesul myfyriwr; cymhareb myfyrwyr/staff; rhagolygon gyrfa graddedigion; pa raddau sydd eu hangen ar ymgeiswyr i gael lle; sgôr gwerth ychwanegol sy’n cymharu cymwysterau mynediad myfyrwyr â’u canlyniadau gradd terfynol.
Mae llwyddiant y Brifysgol yn Nhabl Cynghrair Prifysgol y Guardian 2026 yn dilyn llwyddiant y Drindod Dewi Sant yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr (ACF) eleni. Yn nadansoddiad The Times and Times Higher Education Supplement o ganlyniadau’r ACF, roedd y Drindod Dewi Sant yn gyntaf yng Nghymru ac yn 2il yn y DU o ran boddhad myfyrwyr.
Gwybodaeth Bellach
Eleri Beynon
Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk
Ffôn: 01267 676790