Skip page header and navigation

Mae esiamplau pwysig o wydr lliw yn wynebu dyfodol ansicr gyda’u harwyddocâd yn aml yn cael ei anwybyddu, a pheryg iddynt gael eu difrodi yn ystod gwaith ailddatblygu. 

Llanrhos stained glass window

Mae colledion fel hyn yn cael effaith ddi-droi’n-ôl ar dreftadaeth genedlaethol a chymunedau lleol, gan adael bylchau yn ein gwybodaeth am y cannoedd o artistiaid a stiwdios gwydr lliw – diwydiant Prydeinig llwyddiannus a allforiodd ffenestri i bedwar ban byd am fwy na chanrif. 

Chester Welsh Presbyterian stained glass window

Mae gwydr lliw o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif yn nodwedd amlwg mewn llawer o addoldai, ond yn aml mae’n cael ei anwybyddu a’i gamddehongli. Gellir dod o hyd iddo mewn pob math o adeiladau eraill hefyd, o neuaddau pentrefi i theatrau a phlasdai, ac mewn ffurfiau newydd amrywiol o fewn pensaernïaeth fodern. 

Mae gwydr lliw hefyd yn fwyfwy mewn perygl wrth i’r adeiladau sy’n ei gartrefu gau neu newid defnydd. Mae asesu arwyddocâd yn rhan hanfodol o reoli newid ar gyfer adeiladau hanesyddol a bydd y prosiect ymchwil hwn yn darparu ffyrdd newydd o werthuso gwydr lliw i helpu i flaenoriaethu cyllid ar gyfer cadwraeth. 

Dywedodd Dr Martin Crampin, Arweinydd y Prosiect: “Mae camddealltwriaeth ysgubol wedi ffurfio ein rhagdybiaethau am wydr lliw ac wedi dylanwadu’n negyddol ar ein canfyddiad ohono fel celf. Mae cymaint ohono o ansawdd uchel ac nid yw wedi cael ei werthfawrogi. Oherwydd bod cyn lleied o astudiaeth wedi bod o’r cyfrwng, nid yw esiamplau prin wedi cael eu cydnabod ac weithiau maent mewn perygl. Ar yr un pryd, mae cymaint o straeon y tu ôl i wydr lliw, o ystyried eu rôl mewn coffáu, ac maent yn darparu cysylltiadau â hanesion lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Gallant hefyd helpu cymunedau i ddatblygu naratifau ar gyfer twristiaeth ddiwylliannol a chrefyddol i ddod ag ymwelwyr i eglwysi hanesyddol.”

Gan ddatblygu ar seiliau’r ymchwil a wnaed ar wydr lliw yng Nghymru gan Martin Crampin yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd dros nifer o flynyddoedd, bydd y prosiect yn dyfnhau ein dealltwriaeth o wydr lliw yng Nghymru a hefyd yn arloesi trwy arolwg newydd o wydr lliw mewn rhannau cyfagos o Loegr ac yn Lerpwl. Gellir dod o hyd i waith gan lawer o’r un artistiaid, dylunwyr a stiwdios ledled Prydain, Iwerddon ac yn fyd-eang, gan wneud yr ymchwil yn berthnasol yn rhyngwladol.  

Cefnogir y prosiect yn ariannol gan Gyngor Ymchwil Celfyddydau a Dyniaethau yr UKRI, sy’n rhan o Ymchwil ac Arloesi y DU, a bydd yn cydweithio â Cadw yng Nghymru, Historic England ac Adran Adeiladau Eglwysi Cadeiriol ac Eglwysi Eglwys Lloegr.

UKRI logo

Nodiadau i Olygyddion 

Cyswllt: Dr Angharad Elias (Swyddog Gweinyddol) a.elias@cymru.ac.uk 

1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol. 

2. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk 

3. Y Ganolfan yw cartref Geiriadur Prifysgol Cymru ddathlodd ei ganmlwyddiant yn 2021: https://www.geiriadur.ac.uk/

4. Mae Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) yr UKRI yn ariannu ymchwilwyr annibynnol rhagorol rhyngwladol ar draws ystod lawn y celfyddydau a’r dyniaethau: hanes, archaeoleg, cynnwys digidol, athroniaeth, ieithoedd a llenyddiaeth, dylunio, treftadaeth, astudiaethau ardal, y celfyddydau creadigol a pherfformio, a llawer mwy. Mae ansawdd ac ystod yr ymchwil a gefnogir gan AHRC yn gweithio er budd cymdeithas a diwylliant y DU ac yn cyfrannu at lwyddiant economaidd y DU ac at ddiwylliant a lles cymdeithasau ledled y byd.

5. Lansiwyd Catalog Gwydr Lliw yng Nghymru ar lein yn 2011 a bellach mae’n cynnwys dros 8,000 o ddelweddau o ragor na 3,000 o ffenestri. Mae’r adnodd yn dal i dyfu wrth i ragor o ffenestri gael eu cynnwys. Gweler https://stainedglass.wales.


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon