Rhan flaenllaw i un o raddedigion PCYDDS mewn Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth newydd â Coppice
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi lansio Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) newydd â’r gwneuthurwr pecynnau blaenllaw Coppice, a Tim James, a raddiodd yn ddiweddar, wedi’i benodi i rôl allweddol. Yn Swyddog Cysylltiol KTP, bydd Tim yn arwain prosiect dwy flynedd sydd wedi’i gynllunio i wella effeithlonrwydd, lleihau gwastraff, a chryfhau safle cystadleuol Coppice yn y DU a marchnadoedd rhyngwladol.

Mae partneriaethau KTP yn cysylltu prifysgolion â busnesau trwy leoliad graddedigion sy’n cymhwyso arbenigedd academaidd i heriau diwydiannol yn y byd go iawn. Y canlyniad yw partneriaeth tair ffordd: mae’r busnes yn sicrhau arloesedd a chymorth ymchwil, mae’r brifysgol yn adeiladu cysylltiadau diwydiant cryfach, ac mae’r graddedigion yn cyflymu eu gyrfa gyda phrofiad ymarferol a chyfrifoldeb.
Meddai Tim, sydd newydd gwblhau ei BEng mewn Peirianneg Fodurol yn PCYDDS: “Mae’n gyffrous camu’n syth o fy ngradd i rôl lle galla i gael effaith go iawn. Mae’r KTP hwn yn rhoi cyfle i mi weithredu beth rydw i wedi’i ddysgu, ond hefyd i barhau i ddysgu bob dydd gan Coppice a PCYDDS. Mae’n teimlo fel y bont berffaith rhwng y brifysgol a dechrau fy ngyrfa.”
Caiff Tim gymorth gan dîm goruchwylio o grŵp MADE+ PCYDDS. Bydd Dr Andrew Killen, Goruchwyliwr Sylfaen Wybodaeth, yn darparu arbenigedd ac arweiniad academaidd, tra bydd Amanda Hayden, Rheolwr Prosiectau PCYDDS, yn goruchwylio’r cydweithrediad i sicrhau ei fod yn cyflawni canlyniadau ystyrlon.
Meddai Dr Killen: “Hanfod partneriaethau KTP yw cydweithio - maen nhw’n dod â chryfderau busnes, gweithiwr graddedig, a phrifysgol at ei gilydd i fynd i’r afael â heriau go iawn. Mae’n wych gweld un o’n graddedigion ein hunain yng nghanol y bartneriaeth gyffrous hon.”
Mae effaith partneriaethau KTP yn ymestyn ymhell y tu hwnt i yrfaoedd unigol. I raddedigion, maen nhw’n cynnig cam cyntaf unigryw i gyflogaeth sydd â chyfrifoldeb sylweddol. I Fusnesau, dyma chwistrelliad o syniadau ffres, gwybodaeth dechnegol, a chysylltiad uniongyrchol ag ymchwil academaidd. I brifysgolion, maen nhw’n creu cysylltiadau cryfach â diwydiant ac yn sicrhau bod addysgu ac ymchwil yn cael effaith yn y byd go iawn. Ac i gymunedau, maen nhw’n helpu i gynnal swyddi, cryfhau diwydiannau, a chefnogi arloesedd.
Meddai Dr Mark Cocks, Deon Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru’r Brifysgol: “Mae’r bartneriaeth hon â Coppice yn tynnu sylw at ymrwymiad PCYDDS i gysylltu addysg â chyflogaeth, ymchwil ag ymarfer, a myfyrwyr â chyfleoedd. Trwy fuddsoddi mewn partneriaethau KTP, mae’r Brifysgol yn creu llwybrau i raddedigion ffynnu wrth helpu busnesau i dyfu mewn economi fyd-eang gystadleuol.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071