Skip page header and navigation

Mae Yr Egin, canolfan greadigol a digidol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn gyffrous i lansio ‘SgwrSioe’ cyfle i ddatblygu sgiliau hanfodol trwy weithdai ymarferol a phroffesiynol i bobl ifanc yng Nghaerfyrddin a’r ardal gyfagos. 

A picture of a young man wearing headphones

O fis Hydref ymlaen, bydd pobl ifanc o 16 – 25 oed yn cael cyfle unigryw i ddysgu dan arweiniad arbenigwyr y diwydiant sut i ymchwilio, cyfweld, recordio a chynhyrchu eu podlediadau a’u rhaglenni radio eu hunain, gan ddefnyddio offer proffesiynol. 

Trwy gymryd rhan, bydd y bobl ifanc yn:

  • Dysgu sut i ymchwilio a datblygu cynnwys ar gyfer radio, podlediadau a chyfryngau cymdeithasol
  • Ennill sgiliau recordio a golygu llais a llun
  • Datblygu hyder, creadigrwydd a’u llais unigryw trwy gyfrwng y Gymraeg
  • Cydweithio ag enwau mawr o fewn y sector creadigol, gan gynnwys S4C, Theatr Cymru, Captain Jac a Merched yn Creu Miwsig
  • Cael y cyfle i rannu eu gwaith ar Cymru FM, sianel YouTube Yr Egin a phlatfformau podlediad gan ddatblygu cynulleidfa drwy farchnata creadigol
green screen workshop

Un fydd yn arwain y gweithdai fydd Marc Griffiths o gwmni Stiwdiobox a Cymru FM,  sydd a’i stiwdio yn Yr Egin. Dywedodd:

“Mae prosiect SgwrSioe yn cynnig cyfle unigryw i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau creadigol a thechnegol trwy gyfrwng y Gymraeg, gan roi profiad uniongyrchol iddyn nhw o’r byd cyfryngau. Fel cwmni lleol sy’n arbenigo mewn cynhyrchu a dosbarthu podlediadau, bydd y cyfranogwyr yn dysgu sgiliau ymchwilio, recordio a golygu, yn ogystal â chael profiad gwerthfawr o weithio gyda gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant.”

Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal ddwywaith y mis yn Yr Egin, Caerfyrddin, gan ddechrau ar Nos Fawrth, 7 Hydref 2025.  Trwy gymryd rhan, bydd pobl ifanc yn cael llwyfan i fynegi eu barn, meithrin hyder, a datblygu sgiliau cyfathrebu hanfodol ar gyfer y dyfodol. Yn ogystal â meithrin diddordeb mewn gyrfaoedd creadigol, bydd SgwrSioe yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r sîn gelfyddydol fywiog yn y gorllewin ac yng Nghymru benbaladr, a’r Gymraeg yn iaith fyw a naturiol creu y cyfrwng.

Mae SgwrSioe yn bosibl yn dilyn cais llwyddiannus i Ymddiried, meddai Siwan Jobbins, Cadeirydd y gronfa:

“Nod Ymddiried: Media Grants Cymru yw cynnig cefnogaeth ariannol i unigolion ehangu eu sgiliau mewn teledu, ffilm, radio a’r cyfryngau digidol a hefyd i helpu cyrff sy’n hybu datblygu sgiliau ac adnoddau addysgiadol i’r diwydiannau creadigol. 

“Roedd y prosiect yma’n apelio i ni gan ei fod yn meithrin sgiliau a diddordeb pobl ifanc yn y cyfryngau ac yn hybu manteision y Gymraeg a dwyiethrwydd o fewn y proffesiwn.

“Rydym yn ymwybodol o’r ymgais fawr sydd wedi bod yn ddiweddar i feithrin diwydiant cryf a chynaladwy yn y Gorllewin ac mae hyn a nifer o broseictau tebyg yn ffordd dda o wneud hynny.”

two ladies in a recording studio

Llinos Jones, Rheolwr Ymgysylltu Yr Egin fydd yn arwain SgwrSioe ar ran Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Santdywedodd :

“Mae’r prosiect yn gyfle euraidd i feithrin sgiliau a datblygu dealltwriaeth o’r posibiliadau gyrfaol yn y sector greadigol wrth gael profiad uniongyrchol mewn amgylchedd broffesiynol. Ni’n ddiolchgar iawn i Ymddiried am y gefnogaeth ac yn edrych ymlaen at weithio unwaith yn rhagor gyda Marc er mwyn ysbrydoli a tanio creadigrwydd. Yn ogystal, bydd SgwrSioe hyrwyddo’r Gymraeg fel iaith fyw a chyfoes ym myd cyfryngau a diwylliant a hynny yn ategu nod Yr Egin i greu buddiannau ieithyddol, diwylliannol, economaidd a chymdeithasol yng Nghaerfyrddin a’r De Orllewin.”

Mae’n rhad ac am ddim i gymryd rhan, a does dim terfyn ar nifer mynychwyr. Mae’r Egin yn chwilio am bobl ifanc brwdfrydig sydd â diddordeb mewn dysgu a chreu – a’r cyfle iddynt gyfrannu’n weithredol at y sîn greadigol. Cyfle euraidd – ewch ati i gofrestru heddiw yn fan hyn - 

I gofrestru, ewch i: https://forms.gle/h4trg6NMC3n3szzh9


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon