Skip page header and navigation

Dechreuodd Waffls Tregroes, a leolir yn Llandysul, Ceredigion, yn 1983 ac mae wedi tyfu i fod yn fusnes cenedlaethol arobryn. Heddiw, Waffls Tregroes yw’r unig fecws waffls yn y DU ac mae’n falch o fod yn eiddo i’r gweithwyr. Mae’r cwmni’n cydweithredu â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Chyngor Sir Ceredigion fel rhan o’u menter PACE Cymru. 

A group of people standing in front of a building.

Mae PACE Cymru yn helpu busnesau i ddeall yr opsiynau technoleg, meddalwedd a digidol diweddaraf a luniwyd i arbed amser, hybu cynhyrchiant, lleihau gwastraff, a chynyddu elw yn y pen draw.

Ray D’Arcy, Rheolwr Gyfarwyddwr Waffls Tregroes, yw un o Hyrwyddwyr Sector PACE Cymru, gan sicrhau bod y prosiect yn cyd-fynd â’r diwydiant bwyd a diod yn ardal Ceredigion (a Chymru). 

Yma mae Ray yn trafod y prosiect, y sector bwyd a diod, a’r elfen unigryw o fod wedi’i leoli yng Ngheredigion a Chymru.

Heriau yn y sector bwyd a diod

Mae yna lawer o heriau, ond mae staffio yn un sylweddol. Rydym yn ffodus i fod yn fusnes bach yn y gymuned, ond wrth i ni edrych i dyfu, bydd staffio a hyfforddiant yn dod yn fwy heriol. 

Mae bwlch sgiliau y mae angen mynd i’r afael ag ef. 

Hefyd, mae cymorth i ddeall cymhlethdodau ariannu yn her arall. Mae yna lawer o lwybrau ariannu, ond nid ydynt bob amser yn dryloyw a gallant fod yn gymhleth.

Cofleidio technoleg

Rwy’n awyddus i ddeall mwy am dechnolegau tra modern a’u heffaith ar ein busnes. Rydym yn archwilio roboteg ac yn ymdrechu’n gyson i wella ein heffeithlonrwydd. 

Mae’r sector gweithgynhyrchu yng Nghymru wedi gweld gwelliannau mawr mewn effeithlonrwydd drwy fabwysiadu awtomeiddio a thechnolegau uwch. Darllenais fod busnesau sy’n gweithredu technolegau digidol wedi profi cynnydd o hyd at 15% mewn cynhyrchiant a gostyngiad o 10% mewn gwastraff. Mae hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd cofleidio arloesedd i aros yn gystadleuol.

Manteision uwchsgilio ac awtomeiddio

Gall awtomeiddio fod yn fanteisiol, gan ei fod yn caniatáu inni uwchsgilio staff a’u symud i dasgau llai ailadroddus. Mae hyn yn creu cyfleoedd cyflogaeth newydd ac yn gwella boddhad mewn swydd. Rydym yn gweithio’n galed ar gynyddu effeithlonrwydd, ond mae ein tîm hefyd yn gwybod bod yna feysydd cyfyngedig lle gall peiriannau gymryd lle bodau dynol.

Mae’r drafodaeth ynghylch deallusrwydd artiffisial (AI) a’i integreiddio yn ein prosesau yn un barhaus. Nid mabwysiadu AI heb reswm mo’r bwriad ond deall sut y gall AI mewn camerâu a pheiriannau fod o fudd gwirioneddol i ni.

Yn yr un modd, mae uwchsgilio yn sicrhau bod ein staff wedi’u paratoi’n well ar gyfer y dyfodol, gan gynyddu eu gwerth o fewn y cwmni, a rhoi hwb i forâl cyffredinol. Mae awtomeiddio hefyd yn arwain at ansawdd cynnyrch mwy cyson ac amseroedd cynhyrchu cyflymach, sy’n eithaf pwysig mewn marchnad gystadleuol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr angen am uwchsgilio yn y sector gweithgynhyrchu i fodloni gofynion technolegau newydd a’r newid i sero net. 

Buddsoddwyd £2 filiwn ychwanegol yn 2022-2023 i gynorthwyo unigolion i uwchsgilio neu ailsgilio mewn sectorau fel adeiladu, peirianneg a gweithgynhyrchu. Mae’r fenter hon hefyd yn dileu’r cap cymhwysedd ar gyflog, gan ei gwneud yn fwy hygyrch i weithwyr ennill cymwysterau a gymeradwyir gan y diwydiant. Mae hyn yn helpu i baratoi’r gweithlu ar gyfer y dyfodol a sicrhau bod y sector yn parhau i fod yn gystadleuol.

Gweithio gyda’r Drindod Dewi Sant

Rwy’n gyffrous am dair prif agwedd ar ein cydweithredu â’r Drindod Dewi Sant. Yn gyntaf, eu hasesiad o’n gweithrediadau becws a phrosesau peiriannau fel arbenigwyr. Yn ail, eu mewnwelediadau i ddefnyddio ynni a sut y gallwn drosglwyddo ynni’n fwy effeithlon er budd y busnes. Yn drydydd, archwilio sut y gall arloesi effeithio ar ein busnes, ein helpu i greu cynhyrchion newydd, a hyd yn oed nwyddau. 

Rydym yn agored ein meddwl ac yn awyddus i groesawu arloesedd a chreadigrwydd. 

Natur unigryw Ceredigion a Chymru

Mae’r gefnogaeth gymunedol a gawn yng Ngheredigion a Chymru yn anhygoel. Mae’r sector bwyd a diod yma yn fywiog, ac mae yna falchder aruthrol mewn cynnyrch o Gymru, sy’n ein gwneud ni’n falch hefyd. 

Mae’n galonogol gweld y gymuned yn arddangos eu cynnyrch ac yn cefnogi ei gilydd. Rydym bob amser yn awyddus i ddysgu a gweld posibiliadau newydd. 

Rwy’n teimlo’n gadarnhaol am weithio gyda thîm y Drindod Dewi Sant ar PACE Cymru. Mae’r cyfuniad o brofiad yn y diwydiant ac arbenigedd ymchwil yn amhrisiadwy, ac rydym yn gyffrous am yr hyn y gallant ei gynnig i’n busnes a busnesau tebyg yng Nghymru.

Dywedodd Richard Morgan, Deon Cynorthwyol Interim (Arloesi ac Ymgysylltu) yn y Drindod Dewi Sant: “Mae’n anrhydedd i ni weithio gyda Ray a Waffls Tregroes ar brosiect PACE Cymru. Bydd ei brofiad a’i wybodaeth yn amhrisiadwy i fusnesau bwyd a diod eraill yng Ngheredigion a thu hwnt. Mae hefyd yn gyffrous i fod yn dadansoddi eu hanghenion digidol eu hunain. Rydym yn ddiolchgar i Ray am fod yn rhan o’n tîm .”

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet dros yr Economi ac Adfywio yng Nghyngor Sir Ceredigion: “Mae’r cydweithredu hwn yn enghraifft o’r ysbryd arloesol a’r ffocws cymunedol sy’n diffinio Ceredigion. Trwy fanteisio ar dechnoleg arloesol a meithrin datblygiad sgiliau, rydym nid yn unig yn cefnogi busnesau lleol fel Waffls Tregroes ond hefyd yn sicrhau bod ein rhanbarth yn parhau i fod yn gystadleuol ac yn wydn yn wyneb heriau yn y dyfodol. 

“Mae llwyddiant Waffls Tregroes fel busnes sy’n eiddo i weithwyr yn dyst i gryfder ein heconomi leol ac ymroddiad ein gweithlu. Edrychwn ymlaen at weld effaith gadarnhaol y fenter hon ar y sector bwyd a diod yng Ngheredigion a thu hwnt. 

“Mae PACE Cymru wedi derbyn cymorth ariannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a weinyddir gan dîm Cynnal y Cardi ar gyfer Cyngor Sir Ceredigion.”

Bydd Ray D’Arcy gyda thîm PACE Cymru ar 17 Hydref yn cefnogi clinig galw heibio digidol ar gyfer busnesau lleol. Bydd sgyrsiau 1-i-1 gyda thîm y Drindod Dewi Sant ac arddangosiadau technoleg.

Manylion:

17 Hydref, 10am -12pm a 2pm – 4pm yng Nghanolfan Bwyd Cymru, Horeb, Llandysul SA44 4JG.

E-bostiwch MADE@uwtsd.ac.uk am wybodaeth neu i gadw lle. 

Ariennir prosiect PACE Cymru gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ceredigion a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon