Skip page header and navigation

Mae Coleg Celf Abertawe ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn gyffrous o gyhoeddi Llifo, sef Sioe Radd Doethuriaeth Broffesiynol Celf a Dylunio 2025, sy’n agor gyda rhagolwg arbennig o’r noson ddydd Mawrth, 24 Mehefin rhwng 5 ac 8pm yn Stiwdio Griffith, Campws Dinefwr.

An example of the colourful images on display at the Art and Design Professional Doctorate Degree Show.

Mae’r arddangosfa grŵp ddeinamig hon wedi’i gwreiddio yn y cysyniad Cymraeg o lifo, ac mae’n archwilio themâu symudiad, trawsnewid ac ailgysylltu trwy gelf gyfoes a dylunio dan arweiniad ymchwil. Mae’n cynnwys gwaith gan dri ar ddeg o ymgeiswyr doethuriaeth rhyngwladol, mae Llifo yn nodi penllanw taith academaidd a chreadigol tair blynedd a gynhaliwyd gan artistiaid o bob rhan o Ewrasia.

Trwy ystod o gyfryngau gan gynnwys gosodiad, perfformiad, cerflunio, celf ddigidol, a rhagor, mae’r artistiaid yn holi hunaniaethau personol a diwylliannol sy’n esblygu, tir newidiol treftadaeth, a chroestoriad y ffisegol a’r rhithwir. Mae’r arddangosfa yn garreg filltir academaidd ac yn ddatganiad artistig hollbwysig, sy’n cynnig safbwyntiau newydd ar rôl ymarfer creadigol yn y byd globaleiddiedig ond hynod leol heddiw.

Artistiaid sy’n cymryd rhan:

CHEN Yizhi, CUI Xiaotang, FU Mengxi, HUANG Chiqian, LIN Xingchen, LIN Yuran, LU Wenying, RUAN Haoyi, SUN Meng, XIAO Hanyu, ZHANG Hengtai, ZHANG Jingye a ZHANG Lingling.

Meddai’r darlithydd Kylie Boon: “Tîm y Curaduron Doethurol sydd wedi curadu Llifo, ac mae’n cyflwyno gofod adfyfyrio ac ailgysylltu, gan annog ymwelwyr i ymgysylltu â naratifau diwylliannol cymhleth ac adfyfyrio ar sut y gall celf feithrin deialog ar draws ffiniau, cenedlaethau a disgyblaethau.”

Mae’r Themâu Allweddol yn cynnwys:

  • Hunaniaeth a hunanfynegiant
  • Treftadaeth ddiwylliannol ac ailddehongli
  • Rhithwiredd yn erbyn realiti
  • Cof cymunedol a chyfunol
  • Disgwrs ddiwylliannol gynhwysol mewn cyd-destunau cyfoes

“Rydyn ni wedi ein denu at yr hyn sy’n llifo, dŵr, meddwl, sgwrs, amser. Yn Llifo, nid thema yn unig yw llif, ond methodoleg a meddylfryd hefyd,” meddai’r tîm curadurol. “Mae’r arddangosfa hon yn gwahodd gwylwyr i ystyried sut rydyn ni’n llywio newid, sut rydyn ni’n cadw mewn cysylltiad, a sut rydyn ni’n dychwelyd i’r lle, i’r cof, ac i ni ein hunain.”

Mae mynediad yn rhad ac am ddim ac yn agored i’r cyhoedd.

Manylion yr Arddangosfa:

Noson Agoriadol: Dydd Mawrth 24 Mehefin, 5pm i 8pm

Dyddiadau: 24 Mehefin i 6 Gorffennaf 2025

Lleoliad: Stiwdio Griffith, Dinefwr, Coleg Celf Abertawe, PCYDDS

Cyfeiriad: Stryd De La Beche, Abertawe, SA1 3EU

Ynglŷn â’r Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Celf a Dylunio yn PCYDDS

Mae’r Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Celf a Dylunio yn radd ymchwil a gynlluniwyd ar gyfer y rhai sy’n awyddus i lunio dyfodol celf, dylunio ac ymarfer trawsddisgyblaethol. Mae’r rhaglen wedi’i gwreiddio mewn arloesedd creadigol, ac mae’n gwahodd ymgeiswyr i ymgymryd ag ymchwiliadau gwreiddiol sydd nid yn unig yn cyfrannu gwybodaeth newydd, ond hefyd yn gwthio ffiniau, herio confensiynau, ac ail-ddychmygu beth sy’n bosibl yn eu meysydd. Ochr yn ochr ag ymchwiliad academaidd, mae ymgeiswyr yn datblygu arbenigedd proffesiynol gweledigaethol, gan eu paratoi nhw i arwain, dylanwadu ac ysbrydoli yn y dirwedd greadigol sy’n esblygu.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon