Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn falch iawn o longyfarch llwyddiant un o’i chyn-fyfyrwyr,  Siôn Tomos Owen, sydd newydd gael ei benodi’n Fardd Plant Cymru ar gyfer 2025–2027.

Man standing outside smiling in red t-shirt
Llun gan Jon Poutney

Mae’r rôl, a benodwyd gan Lenyddiaeth Cymru, yn un o ddwy swydd genedlaethol fawreddog (ynghyd â Children’s Laureate Wales) sy’n anelu at ysbrydoli plant a phobl ifanc ledled Cymru trwy lenyddiaeth, dychymyg a chreadigrwydd.

I Siôn, sydd yn awdur, bardd, artist a chyflwynydd dwyieithog o Dreorci yn y Rhondda Fawr, mae’r penodiad yn anrhydedd ac yn gyflawniad personol arbennig.

Meddai: “Mae wir yn anhygoel i alw fy hunan yn Fardd Plant Cymru. Doeddwn i byth yn credu y byddwn i’n cael fy hunan mewn rôl sydd mor cŵl a llawn hwyl. Rwyf wedi bownsio rhwng cymaint o swyddi dros y blynyddoedd, ond mae sgwennu a barddoni wastad wedi bod yn rhan ohonof i. Mae’r swydd hon yn teimlo fel yr un sy’n ffitio’n berffaith, ac mae’n golygu’r byd i mi.”

Mae Siôn am ddefnyddio’r cyfle i ddangos i blant fod creadigrwydd heb derfynau:

“Rwy’n gobeithio rhannu’r hwyl sydd i’w gael gyda geiriau. Yn fy ngweithdai, mae plant yn aml yn gofyn a oes ‘hawl’ ganddyn nhw i ysgrifennu am rywbeth doniol neu hurt - ceffyl sy’n siarad, neu gymeriad gyda thair braich a gwallt pinc. Rwy wastad yn dweud ‘wrth gwrs!’ ac mae’r llawenydd ar eu hwynebau yn dangos popeth. Fy uchelgais yw lledaenu’r neges hon ledled Cymru - fod creadigrwydd yn ddiderfyn.”

Sion sitting with group of school pupils
Siôn yn ysgol gynradd ym Maesteg gyda Nicola Davies (Children’s Laureate Wales 2025–2027); Nia Morais (cyn Bardd Plant Cymru) ac Alex Wharton (cyn Children’s Laureate Wales)

Ymhlith y prosiectau y mae’n edrych ymlaen atynt y mae cyfres o gomisiynau creadigol newydd, gan gynnwys prosiect arbennig gyda Chastell Aberteifi, lle bydd yn archwilio hanes yr Eisteddfod Gadeiriol gyntaf a’i rannu gyda disgyblion yr ardal. Bydd hefyd yn arbrofi gyda dulliau newydd o rannu barddoniaeth drwy fideo a ffyrdd digidol.

Cafodd cariad Siôn at eiriau ei feithrin yn ifanc iawn. Enillodd ei gystadleuaeth farddoniaeth gyntaf yn bump oed yn Y Gloran, papur bro’r Rhondda Fawr, ac ysgrifennodd gerddi ar daith rygbi gyda’r ysgol i Iwerddon. Daeth y rhain yn gamau cynnar ar hyd y llwybr a’i arweiniodd yn y pen draw i astudio Ysgrifennu Creadigol ac Astudiaethau Cyfryngau yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin - bellach Y Drindod Dewi Sant - gan raddio yn 2007.

Man singing to a crowd on a guitar
Siôn fel myfyriwr mewn noson meic agored yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin – bellach yn PCYDDS – yn 2006

Er iddo ddilyn sawl trywydd ar ôl graddio – o fod yn labrwr, gweinyddwr busnes, hyfforddwr dysgu a gweithiwr ieuenctid - daeth yn ôl yn y diwedd i’w wreiddiau creadigol a’i radd.

Meddai: 

“Roedd fy amser yn y Brifysgol yn llawn hwyl, dysgu a gwneud ffrindiau gydol oes. Er y cymerodd amser i adeiladu gyrfa, roedd y profiad wedi fy ngwreiddio mewn creadigrwydd a gwydnwch. Yn y diwedd, dyna oedd y garreg gamu a’m siapiodd fel bardd, awdur ac artist. Dyfal donc a dyr y garreg buodd hi, ond dwi nawr wir yn mwynhau fy ngyrfa fel gweithiwr llawrydd creadigol.”

Ac yntau wedi ysgrifennu 14 o lyfrau ac wedi cyfrannu at raglenni teledu a radio niferus, mae Siôn bellach ar fin camu i’w rôl fwyaf cyffrous hyd yn hyn - ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddarllenwyr ac ysgrifenwyr Cymru fel Bardd Plant Cymru 2025–2027.


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
Ffôn: +447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon