Skip page header and navigation

Bydd lleisiau pobl sydd wedi colli braich neu goes i’w clywed ar lwyfan ledled y DU ym mis Hydref, wrth i brosiect PCYDDS, Cerdded yn ein Hesgidiau/Walking  in Our Shoes gael  ei wahodd i rannu ei stori yn Sioe Deithiol Mindset 2025. Dan arweiniad Dr Ceri Phelps, bydd y prosiect yn tynnu sylw at sut y gall profiad byw, a chydgynhyrchu, drawsnewid arloesi iechyd meddwl ledled y wlad.

A group of people in a lecture room.

Bydd y Sioe Deithiol, a gynhelir ddydd Iau, 16 Hydref yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Bae Caerdydd, yn dod ag arloeswyr, clinigwyr, ymchwilwyr, elusennau a llunwyr polisi ynghyd i archwilio sut y gall technolegau datblygol a phrofiad byw gyfuno i drawsnewid gwasanaethau iechyd meddwl.

Wedi’i gynnal mewn partneriaeth â Rhwydwaith Arloesi Iechyd De Llundain ac wedi’i alinio â Rhaglen Mindset Innovate UK gwerth £20 miliwn, bydd y digwyddiad yn dangos sut mae therapiwteg ddigidol drochol yn cael ei datblygu ledled y DU. Ochr yn ochr â’r ffocws ar atebion XR (realiti estynedig), bydd y rhaglen yn tynnu sylw at y prosiect Cerdded yn ein Hesgidiau/Walking in Our Shoes am ei ymagwedd unigryw at wneud lleisiau’r rhai sydd â phrofiad byw yn ganolog i arloesedd iechyd meddwl.

Dywedodd Dr Ceri Phelps, Seicolegydd Iechyd, Arweinydd Prosiect a Phrif Ddarlithydd mewn Seicoleg Gymhwysol yn PCYDDS: “Mae’r prosiect hwn yn ymwneud â gwrando, gwrando go iawn, ar y rhai y mae eu bywydau wedi cael eu trawsnewid gan golli braich neu goes. Mae cael gwahoddiad i sioe deithiol Mindset yn rhoi cyfle i ni dynnu sylw at sut y gall cydgynhyrchu lunio cefnogaeth fwy ystyrlon ac effeithiol, nid yn unig ar gyfer colli braich neu goes, ond fel model ehangach ar gyfer arloesi iechyd meddwl a lles.”

Mae’r prosiect Cerdded yn ein Hesgidiau/Walking in Our Shoes, a  ariennir gan The VTCT Foundation ac a gyflwynir mewn partneriaeth â’r Limbless Association, yn ailddiffinio sut mae cymorth seicolegol ac emosiynol yn cael ei gynllunio a’i ddarparu ar gyfer unigolion sy’n byw gyda cholli braich neu goes. Yn ganolog iddo mae ymrwymiad i gydgynhyrchu: cynnwys y rhai sydd wedi colli braich neu goes yn uniongyrchol wrth ddylunio, profi a chreu adnoddau i sicrhau eu bod yn adlewyrchu anghenion gwirioneddol a realiti byw.

Yn gynharach eleni, cynhaliodd y prosiect ei weithdy cydgynhyrchu cyntaf yng Nghaerdydd, lle gweithiodd gwirfoddolwyr â phrofiad byw o golli braich neu goes ochr yn ochr ag ymchwilwyr i lunio’r adnoddau a fydd yn cefnogi eraill sy’n wynebu heriau tebyg. Bellach mae Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) PCYDDS a Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru (WIDI) bellach yn archwilio llwyfannau cyflenwi digidol i sicrhau bod yr offer sy’n deillio o hynny yn hygyrch, yn rymusol ac yn hawdd eu defnyddio.

Dywedodd Barrie Evans, arbenigwr â phrofiad byw o fewn y prosiect:

“Mae bod yn rhan o hyn yn rhoi cyfle i mi brofi bod bywyd ar ôl colli braich neu goes a gall eich byd fynd ymlaen, hyd yn oed os yw mewn ffordd ychydig yn wahanol. Os gallaf helpu un person i beidio â mynd trwy’r hyn yr es i drwyddo, bydd hynny’n fy ngwneud i’n hapus.”

Mae Sioe Deithiol Mindset 2025 yn rhedeg rhwng 9am a 3.30pm ar 16 Hydref a’i nod yw sbarduno sgwrs genedlaethol bwerus am ddyfodol arloesi iechyd meddwl yng Nghymru ac ar draws y DU.

Mae Rhwydwaith Arloesi Iechyd De Llundain yn dal i dderbyn cofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect Cerdded yn Ein Hesgidiau/Walking in Our Shoes, cysylltwch â:

Dr Ceri Phelps – ceri.phelps@uwtsd.ac.uk


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon