Skip page header and navigation

Mae rhaglen Dylunio Graffeg BA (Anrh) yng Ngholeg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), yn parhau i osod safonau uchel gyda’i chydweithrediadau deinameg, eleni, gan bartneru unwaith eto â phrif gwmnïau byd-eang Sky a PepsiCo.  Yn ystod Wythnos Ddylunio arloesol y rhaglen, cynhelir digwyddiadau sy’n rhoi cyfleoedd prin ac amhrisiadwy i’r myfyrwyr weithio ar friffiau byw, gwneud cyflwyniadau i weithwyr proffesiynol, a phrofi amgylcheddau dylunio yn y byd go iawn. 

A group of lecturers and students standing in front of the Sky News sign in a studio environment.

Mae’r Wythnos Ddylunio yn uchafbwynt yn y calendr academaidd sydd wedi’i chynllunio i herio, ysbrydoli a rhoi sgiliau ymarferol a hyder i fyfyrwyr.  Gosodir myfyrwyr yn dimau blynyddoedd cymysg er mwyn annog dysgu gan gymheiriaid, cydweithio a’r cyfle i elwa o bersbectifau ffres.  Gan weithio yn erbyn y cloc, mae pob tîm yn datblygu ateb creadigol i friff byw a osodwyd gan un o’r cwmnïau partner.  Yna, dewisir y tîm mwyaf addawol i fireinio a gwneud ei gyflwyniad ym Mhencadlys y cwmni yn Llundain. 

Cafwyd cefnogaeth barhaus gan Sky yn ogystal â phartneriaeth â PepsiCo sy’n ddatblygu’n dda ar gyfer y digwyddiadau eleni. Mae’r ddau gwmni wedi dod â chyfoeth o fewnwelediad a brwdfrydedd proffesiynol i brofiad myfyrwyr. 

Mae Sky wedi bod yn gefnogwr cwrs Dylunio Graffeg PCYDDS ers amser hir, gyda chyn-fyfyrwyr bellach wedi’u hymgorffori mewn adrannau megis Sky News, Sports, Health ac amrywiaeth o rolau creadigol. Meddai Gavin Kirby, Uwch Ddarlithydd Dylunio Graffeg BA (Anrh) :  “Mae ein perthynas â Sky yn mynd yn ôl dros flynyddoedd lawer ac wedi cynnwys nifer o raddedigion.  Mae’n ysbrydoledig i fyfyrwyr ymweld â Sky Studios a gweld y posibiliadau ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.”

Mae cyfranogiad PepsiCo wedi dod â phersbectif ffres i’r rhaglen. Nid yn unig oedd eu tîm dylunio yn Llundain wedi croesawu myfyrwyr i’w swyddfeydd, ond roeddent hefyd wedi ymgysylltu’n uniongyrchol â’u cyflwyniadau creadigol. 

“Fel brand byd-eang blaenllaw, mae PepsiCo yn cynnig profiad unigryw,” meddai Gavin.  “Rydym yn gyffrous i adeiladu ar y berthynas hon yn y dyfodol.”

Am lawer o fyfyrwyr, mae’r ymweliadau a’r cyflwyniadau hyn yn eiliadau diffiniol ar gyfer eu gyrfaoedd. Cafodd myfyrwraig flwyddyn gyntaf Lowri Bowen ei syfrdanu gan raddfa a chynhesrwydd profiad PepsiCo. 

“Roeddwn yn dwlu ar bob eiliad ohono!  Roedd y swyddfa yn brydferth, roedd y bobl yn hyfryd ac yn groesawgar, ac rwyf mor ddiolchgar am y cyfle anhygoel hwn.”

Roedd y daith i Stiwdio Sky yn agoriad llygad i Conrad Selby:  “Ar ôl fy mhrofiad yno, byddai hwn yn bendant yn lle y byddwn eisiau gweithio i ddilyn gyrfa mewn dylunio graffeg.”

Disgrifiodd y fyfyrwraig Mariona Adarve Escofet o Barcelona ymweliad PepsiCo fel “profiad gwerthfawr iawn” a’i heriodd i wthio y tu hwnt i’w man cyffyrddus. 

Meddai, “roedd yn glir bod amgylchedd gwaith cadarnhaol a chydweithredol iawn.” “Mae wir yn gwneud gwahaniaeth i’n profiad dysgu a’n profiad prifysgol.”

Adleisiodd y fyfyrwraig drydedd flwyddyn Jess Isaac werth y cysylltiadau byd go iawn hyn: 

“Rhoddodd yr ymweliad â Sky Creative Studios gyfle i mi weld y tu ôl i’r llenni a chysylltu â dylunwyr eraill.  Mae’n agor y posibilrwydd ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol – diolch i Goleg Celf Abertawe.”

Canmolodd Donna Williams, Rheolwr Rhaglen Dylunio Graffeg BA, frwdfrydedd y myfyrwyr  a’r rhaglen sy’n rhoi ffocws blaenoriaethol ar ddiwydiant: 

“Rydym yn derbyn adborth cadarnhaol yn gyson gan gyflogwyr am ein graddedigion sy’n barod i’r diwydiant. Mae’r adborth gan fyfyrwyr presennol yn atgyfnerthu pam rydym yn gwneud yr hyn rydym yn ei wneud – mae’n ymwneud â thrawsnewid bywyd drwy addysg.”

Wrth i Dîm Sky 2025 sy’n cynnwys Gavin Kirby, Jess Isaac, Martha Stephens, Morgan Roberts a Conrad Selby, yn paratoi i gymryd y cam nesaf, mae cwrs Dylunio Graffeg BA (Anrh) yn parhau i weithredu fel model o sut y gall addysg uwch gysylltu’n ystyrlon â diwydiant. 

Meddai Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Celf a’r Cyfryngau:  “Nid yw’r partneriaethau hyn â Sky a Pepsico yn creu darnau portffolio yn unig – maent yn agor drysau, ysbrydoli uchelgais ac yn darparu cyfleoedd euraidd i’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol creadigol.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon