Tîm Chwaraeon Moduro PCYDDS yn gorffen yn y 3 uchaf ym Mhencampwriaeth Chwaraeon 2000 ar gyfer 2024
Mae tîm Chwaraeon Moduro Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) dan arweiniad myfyrwyr wedi gorffen mewn ffordd ragorol yn y Bencampwriaeth Chwaraeon 2000 ar gyfer 2024 a oedd yn hynod o gystadleuol. Mae hyn yn dyst i ymroddiad, arbenigedd technegol, a gwaith tîm y myfyrwyr a’r staff sy’n rhan o raglen chwaraeon moduro’r brifysgol.

Car rhif 40, a yrrwyd gan Reolwr y Rhaglen Chwaraeon Moduro, Tim Tudor, a’r cyn-bencampwr Patrick Sherrington, oedd wrth wraidd y llwyddiant hwn. Chwaraeodd y tîm, a oedd yn cynnwys myfyrwyr MSc, BEng, a HND Peirianneg Chwaraeon Moduro a Pheirianneg Fodurol, ran ganolog wrth gynnal a chadw a datblygu’r car trwy gydol y tymor. Roedd eu cyfranogiad ymarferol yn caniatáu iddynt gymhwyso gwybodaeth o’r ystafell ddosbarth i heriau chwaraeon moduro’r byd go iawn, gan bontio’r bwlch rhwng theori ac arfer.
Nid oedd y ffordd i sicrhau’r trydydd safle heb ei rhwystrau. Trwy gydol y tymor, wynebai’r tîm rwystrau mecanyddol a digwyddiadau ar y trac. Fodd bynnag, sicrhaodd gwytnwch y myfyrwyr, eu gallu i addasu a’u sgiliau datrys problemau fod car rhif 40 yn parhau’n gystadleuydd cryf yn y bencampwriaeth.
Cafodd ail gar y tîm, car rhif 44, dymor clodwiw hefyd. Wedi’i yrru gan Athro Ymarfer PCYDDS, John Iley, perfformiodd y car yn gyson ar draws sawl rownd.
Meddai Alfie Morgan, myfyriwr Peirianneg Chwaraeon Moduro ac arweinydd tîm 2024:
“Mae sicrhau’r 3ydd safle yn y bencampwriaeth eleni yn dyst go iawn i waith caled ac ymroddiad y tîm, tu allan i’r tymor a thrwy gydol ymgyrch 2024. O ddyddiau hir yn y gweithdy yn mireinio ac yn datblygu’r ceir i ailadeiladu yn hwyr y nos ar y gylchffordd, roedd pob her yn ein gwthio ni i wella.
“Mae arwain y tîm hwn wedi bod yn brofiad amhrisiadwy, gan fy ngalluogi i ddatblygu arbenigedd technegol, sgiliau rheoli, a’r gallu i ddirprwyo’n effeithiol. Roedd cystadlu yn erbyn timau a gyrwyr go iawn yn rhoi cipolwg gwych ar sut beth yw bywyd mewn chwaraeon moduro, sy’n gyfle nad yw ar gael i lawer o fyfyrwyr prifysgol
Mae rhaglen Chwaraeon Moduro PCYDDS yn pontio’r bwlch rhwng gwybodaeth ddamcaniaethol a phrofiad ymarferol, gan roi set sgiliau unigryw i fyfyrwyr ymroddedig sy’n wir yn eu gosod ar wahân.
Mae’r profiad hwn yn y byd go iawn yn rhoi mantais gystadleuol i fyfyrwyr PCYDDS wrth ddilyn gyrfaoedd mewn peirianneg chwaraeon moduro a pheirianneg fodurol. Mae graddedigion wedi mynd ymlaen i sicrhau swyddi mewn cwmnïau nodedig, gan gynnwys McLaren, Toyota Gazoo Racing, Andretti Global, Jaguar Land Rover, Gordon Murray Design, a MAHLE Powertrain.
Mynegodd Tim Tudor, Rheolwr y Rhaglen Chwaraeon Moduro, ei falchder yng nghyflawniadau’r tîm gan ychwanegu: “Mae ymroddiad a gwaith caled ein myfyrwyr wedi bod yn allweddol wrth gyflawni’r canlyniad hwn. Mae eu hymrwymiad i ragoriaeth a dysgu parhaus wedi bod yn amlwg drwy gydol y tymor.”
Mae Tîm Chwaraeon Moduro PCYDDS eisoes yn anelu at dymor 2025, gyda’r nod o adeiladu ar eu llwyddiant, mireinio eu galluoedd technegol ymhellach, a gwella’r profiad myfyrwyr.

Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071