Tîm Rasio Myfyrwyr PCYDDS yn ennill y fuddugoliaeth gyntaf erioed yn Snetterton
Mae myfyrwyr o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn dathlu buddugoliaeth nodedig ar ôl i Dîm Rasio Chwaraeon 2000 y Brifysgol, a arweinir gan fyfyrwyr, sicrhau ei fuddugoliaeth gyntaf ar Gylchffordd Snetterton mewn cystadleuaeth ddramatig ar ddiwedd y tymor.

Mae’r canlyniad yn dod â blwyddyn anhygoel i ben i’r tîm, sy’n rhoi profiad ymarferol i fyfyrwyr Peirianneg Chwaraeon Moduro o ddylunio ceir rasio go iawn, dadansoddi data, a pherfformiad ar ochr y trac. Gan gystadlu ym Mhencampwriaeth genedlaethol Chwaraeon 2000, mae’r prosiect yn caniatáu i fyfyrwyr gymhwyso theori ystafell ddosbarth yn uniongyrchol i chwaraeon moduro proffesiynol, pwysau uchel.
Dan arweiniad Tim Tudor, eu darlithydd, technegwyr, a John Iley, Athro Arfer, peiriannydd chwaraeon moduro byd-enwog sydd hefyd yn cystadlu yn un o’r ceir, mae myfyrwyr yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid MCR Race Cars ac Iley Design i ddylunio, datblygu a rhedeg dau Brototeip Chwaraeon MCR.
Wrth fynd i’r rownd olaf yn Snetterton, roedd y tîm yn wynebu nifer o heriau. Ar ôl i’r injan fethu yn y profion cynnar, gwnaeth Mike Penny y technegydd, daith o 580 milltir dros nos i Abertawe ac yn ôl i gasglu a chydosod injan newydd. Gweithiodd y myfyrwyr drwy’r nos i’w osod a’i brofi, gan orffen am 2am ac erbyn y bore roedd y car yn barod i rasio.
Hyd yn oed pan fethodd crogiant car #40 Tim Tudor yn y rowndiau cymhwyso ac yna yn ras un, parhaodd y myfyrwyr yn wydn ac yn ymroddedig gan ailadeiladu’r car rhwng sesiynau a dros nos. Fe wnaeth eu dyfalbarhad a’u gwaith tîm droi adfyd yn fuddugoliaeth: ddydd Sul, aeth Tim y gyrrwr o safle 4 i safle 3, gan osod y llwyfan am ddiweddglo arbennig.
Yn y ras olaf, gyrroedd Tim yn berffaith, gan godi o’r trydydd safle i’r safle cyntaf i hawlio buddugoliaeth gyntaf y tîm yn y bencampwriaeth. Yn sgil y perfformiad hwn, cafodd wobr “Gyrrwr y Dydd” Sports 2000, gan gydnabod ei hunanfeddiant a phenderfyniad y tîm dan bwysau.
“Dyma’r prawf eithaf o waith tîm, gwytnwch a sgiliau peirianneg ac mae’r myfyrwyr wedi cael eu gwobrwyo gyda’n buddugoliaeth gyntaf ac maent wedi ei haeddu’n llwyr” meddai Tim Tudor. “Nid dim ond datrys problemau a wnaeth ein myfyrwyr; ond fe wnaethon nhw beiriannu ac optimeiddio’r car. Mae’r fuddugoliaeth hon yn dangos yn union beth y gall dysgu ymarferol ei gyflawni.”
Ers lansio gradd Peirianneg Chwaraeon Moduro gyntaf y byd, mae’r Drindod Dewi Sant wedi bod ar flaen y gad ym maes addysg chwaraeon moduro, gan roi profiad rasio go iawn i fyfyrwyr a mantais gystadleuol ar gyfer gyrfaoedd ym maes chwaraeon moduro a thu hwnt.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071