Tîm y DU yn dod â medalau adref o WorldSkills Lyon 2024 wrth gyrraedd y 10 Uchaf
ILlongyfarchiadau i Oscar McNaughton o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Thîm y DU a ddaeth yn ddegfed gan ennill: 4 medal (2 arian a 2 efydd) a 12 Medaliwn am Ragoriaeth ym mhedwar deg seithfed cystadleuaeth WorldSkills yn Lyon, Ffrainc y mis hwn.

Oscar oedd y person cyntaf erioed i gynrychioli’r DU mewn Gweithgynhyrchu Haen-ar-Haen yn y gystadleuaeth. Cwblhaodd ei raddau israddedig a meistr mewn dylunio ac mae wedi sicrhau prentisiaeth yn CBM Cymru, cyfleuster sy’n canolbwyntio ar ddiwydiant gan arbenigo mewn ymchwil uwch, datblygu cynnyrch newydd, a gweithgynhyrchu arloesol ac arbrofol, wedi’i leoli yn y Brifysgol.
Meddai Oscar: “Mae’r gefnogaeth gan bawb wedi bod yn anhygoel, yn enwedig gan fy mod yn cydbwyso gwaith a hyfforddiant. Mae’r Drindod Dewi Sant wedi bod yn wych wrth ddarparu ar gyfer fy hyfforddiant.”
“Mae’r sgiliau caled rydw i wedi’u hennill yn amhrisiadwy a byddant yn bendant yn helpu yn fy ngyrfa, ond mae’r sgiliau meddal yr un mor bwysig. Mae WorldSkills wedi bod yn drawsnewidiol ar gyfer fy hunanhyder, datrys problemau a gwydnwch.
“Dyma’r flwyddyn gyntaf i’r sgil hon gael ei chyflwyno i’r gystadleuaeth. Roedd yn wych bod yn rhan o rywbeth mor werthfawr, cwrdd â’r holl gystadleuwyr, a mwynhau’r profiad gyda gweddill Tîm y DU.
“Dylai pawb gymryd rhan yn WorldSkills UK. Mae’n gyfle gwych i ddysgu sgiliau newydd gwerthfawr, cwrdd â phobl newydd, a chynrychioli eich gwlad .”
Dywedodd Lee Pratt, rheolwr Academi Sgiliau Gweithgynhyrchu Uwch yn y Drindod Dewi Sant: “Rydym i gyd yn hynod falch o’r hyn y mae Oscar wedi’i gyflawni. Mae wedi arddangos cymhwysedd, proffesiynoldeb a hunanfeddiant ar y lefel uchaf trwy gydol ei daith. Mae wedi rhoi Cymru a’r DU ar y map byd-eang o ran ein gallu ym maes Gweithgynhyrchu Haen-ar-haen.
“Rydym yn hynod ffodus o gael talent ifanc mor ddisglair yn ein tîm. Mae wedi bod yn fraint cefnogi Oscar ar hyd y ffordd.”
Dangosodd prentisiaid a myfyrwyr cymwysterau galwedigaethol o bob rhan o’r DU eu sgiliau o’r radd flaenaf ar y llwyfan byd-eang yn Lyon.
Mae aelodau Tîm y DU, sydd wedi’u dethol, eu mentora a’u hyfforddi gan WorldSkills UK, wedi cael eu cydnabod ymhlith y bobl ifanc mwyaf medrus yn y byd gan arbenigwyr blaenllaw yn y diwydiant byd-eang yn dilyn eu perfformiad yn ennill medalau yn WorldSkills Lyon 2024, a elwir yn ‘Gemau Olympaidd sgiliau’.
Bu dros 1500 o bobl ifanc o 69 gwlad yn cystadlu’n frwd dros bedwar diwrnod mewn 62 o wahanol sgiliau ynWorldSkills Lyon. Bu dros 250,000 o bobl yn gwylio’r digwyddiad.
Mae WorldSkills UK, sy’n bartneriaeth pedair gwlad rhwng addysg, diwydiant a llywodraethau’r DU, yn defnyddio’r mewnwelediad y mae’n ei gael o gymryd rhan yng Nghystadleuaeth Ryngwladol WorldSkills i ymgorffori safonau hyfforddi o’r radd flaenaf ledled y DU. Pearson, cwmni dysgu gydol oes y byd, yw partner swyddogol Tîm y DU ar gyfer WorldSkills Lyon 2024.
Dywedodd Ben Blackledge, Prif Weithredwr, WorldSkills UK: “Mae’n wych bod yn y deg uchaf unwaith eto yn WorldSkills. Mae’n wych gweld bod ein ffocws parhaus ar godi ansawdd a safon sgiliau yn talu ar ei ganfed, nid yn unig o ran Tîm y DU ond y wlad gyfan. Mae datblygu sgiliau o ansawdd uchel yn hanfodol i dyfu’r economi, ac mae perfformiad Tîm y DU wrth ennill medalau o flaen cynulleidfa fyd-eang yn anfon neges gref bod y DU yn lle o’r radd flaenaf i fuddsoddi, datblygu talent a chreu swyddi.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071